Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. I GAERDYDD.-Dyma lie bydd tynfa y cantorion ddydd Llun. Bydd tren rhad o Paddington yn cludo cor Merlin Morgan i'r Eisteddfod yno. SETI GWAG. Hawdd gweled, oddiwrth wagder yr eglwysi Cymreig yn y ddinas, fod tymor y Gwyliau wedi dod. Yn ystod Awst doniau o'r wlad fydd yn y pulpudau, a gwrandawyr o'r wlad fydd yn y seddau gan mwyaf. CASTLE STREET.—Mae capel Castle Street ym myned tan gyfnewidiad ar hyn o bryd. Trefnir i adeiladu organ newydd hardd yn y lie, a disgwylir y bydd yr holl waith wedi ei orffen ym Medi. CANU CORAWL.-Cynhaliodd cor Cymry Llundain rehearsal gyhoeddus yng nghapel y Tabernacl nos Iau yr wythnos ddiweddaf, amcan pennaf y cynulliad oedd cael cymorth i dalu treuliau y cor i Gaerdydd ar ddydd Gwyl y Banc, a dangosodd y dorf ddaeth ynghyd fod pawb yn dymuno llwydd i'r ymweliad a'r Deheudir. Canasant yn rhag- orol y noson hon, a bydd yn ddyddorol clywed beth fydd eu tynged tan feirniaid craff y Sowth. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Mr. Watkin Jones. LEWISHAM.—Nos Iau daeth llu o gyfeillion Mr. D. J. Pinnell i gapel Lewisham i ganu ffarwel ag ef ar ei ymadawiad i'r India. Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. Ellis Roberts, ac ar ran y bobl ieuainc cyflwynodd Mr. Griffith W. Jones dressing case hardd i Mr. Pinnell fel arwydd o barch ac edmygedd ei gyfeillion yn y capel tuag ato. Ymhlith y rhai y caed anerchiadau ganddynt yr oedd Mri. Rees Davies ac E. Jenkins—dau o swyddogion yr Eglwys, a rhoddasant gymer- iad uchel i'r cyfaill ieuanc fel un oedd wedi bod yn neillduol o ffyddlon a gweithgar ymhob cylch yng ngwaith y capel. Diolch- odd Mr. Pinnell yn gynnes am yr anrheg ac. am yr arwyddion o deimladau da oeddynt yn cael eu harddangos. Byddai ganddo adgof- ion melus a hyfryd iawn am yr amser hapus oedd wedi ei dreulio yn Llundain. Ar ol cyfranu o ddanteithion wedi eu paratoi gan y chwiorydd a chanu "Hen WIad fy Nhadau," ymwahanwyd gan ddymuno pob llwyddiant i Mr. Pinnell yn ei gylch newydd a dieithr. CYFLE'R BEIRDD.-Dyma fel y canodd un o'r beirdd yng nghwrdd ffarwel Mr. Pinnell: Wrth chwilio Geiriaduron Gwlad Am eiriau rhad eu hystyr, Cawn rai fel mel yn llawn mwynhad, Neu win i lonni'n natur Ond ereill sydd mor ami eu nod- Teimladau byw wnant ddryllio, Ac yn eu plith, y gwaetha'n bod I mi, yw'r gair ffarwelio." Wrth deithio'r byd, o fan i fan, Rhaid ydyw cael cyfeillion, I'n calonogi pan yn wan Yng ngwyneb troion geirwon; Cawn ami ffrynd, a'i fron mor bur, Ein serch a'n bryd rown ynddo, Ond garw'r drefn, er poen a chur, Daw adeg brudd ffarwelio. 0 Walia Wen, dro bach yn ol, Daeth llencyn serchog dinam, Ac iddo'i hun gwnaeth le yng nghol, A chalon, Eglwys Lewisham; Ei siriol wen, a'i rodiad pur, Ai barod law i weithio A'i gwnaeth gan bawb yn ffafryn gwir, Ond heno, mae'n ffarwelio." Yr Ysgol Sul mewn hiraeth llawn, Rydd glod i Mr. Pinnell; A'r bechgyn ieuainc a'u holl ddawn, A glywaf yn ei ganmol. A'r merched swynol, sy' mor shy, Mae rhai'n i gyd yn crio, Wrth ysgwyd llaw, a dyweyd "goodbye," A meddwl am ffarwelio." Wrth forio i Calcutta bell, A'r Hong yn rhwygo'r weilgi, » I chwilio am drysorau gwell, A'r ager brwd yn mygu Gwnewch gofio pan ar gefn y Hi, Fod Lewisham yn gweddio, Ar Dduw am eich cysgodi chwi, A'i aden, 'rol ffarwelio. Yn India bell, estronol wlad, Ewch rhagoch mewn dyrchafiad, Boed llwyddiant byd, a phob mawrhad, I'ch dilyn yn eich rhoddiad, Ond cofiwch fod eich Gwlad a'ch Duw, A'ch crefydd yn eich gwylio j- Ag urddas rhain tra fyddwch byw, Gochelwch, rhag ffarwelio. 'Rol llwyddo yn eich newydd fro, Bydd rhaid cael gwraig i'ch dilyn, Ond peidiwch byth a myn'd yng nglo Ag un o ferched Brahmin Ond dewch yn ol, mor hy a Bardd, I Lewisham deg i chwilio, Mae yma lu o ferched hardd, Gwnant gyda chwi, "ffarwelio." "B'le bynnag ewch, ar dir, a mor, Eich camp, a'ch nod, fo purdeb," Arweiniad mwyn rhagluniaeth lor, A'ch cadwo mewn uniondeb, Os na chawn gwrdd mewn einioes glyd, Tra'r ochr hyn yn teithio, Cawn eto gwrdd mewn gwynach byd, Lie na fydd byth 11 ffarwelio." D. L. Evans. DEWI SANT, PADDINGTON.-Marwolaeth.- Gyda gofid a galar dwys y cofnodwn far- wolaeth ddisymwth ac anisgwyliadwy y chwaer anwyl a hoff Mrs. Margaret Hart, Acton, trydedd ferch Mrs. Pierce, a'r diwedd- ar Mr. John Pierce, Church House, Padding- ton, yr hyn a gymerodd le yn ysbytty Queen Charlotte, Marylebone Road, dydd Iau, Gorffennaf 23ain, ar enedigaeth plentyn bach. Oymerwyd Mrs. Hart yn wael y dydd Mercher blaenorol, a hunodd yn yr Iesu y dydd canlynol yn 38 mlwydd oed. Yr oedd yna nodweddion neillduol yn perthyn i'w chymeriad ag oedd yn ei gwneud yn anwyl yng ngolwg pawb ai hadwaenai, megis natur dda ac ysbryd addfwyn a rhadlawn. Teyrn- asai gwen a sirioldeb bob amser ar ei gruddiau gwridgoch. Teimlir colled a hiraeth mawr ar ei hoi yn Dewi Sant, lie y bu yn selog yn y cor canu a'r Ysgol Sul, a chyda holl wasanaethau yr Eglwys am flynyddau. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa- dwriaethol iddi yn Eglwys Dewi Sant, nos Lun diweddaf, pryd y daeth nifer pur dda ynghyd, i gydymdeimlo a'r teulu galarus, ac i dalu y gymwynas olaf i weddillion marwol," un ag oedd wedi ennill lie mor gynnes yn serchiadau y gynulleidfa. Dechreuwyd drwy ganu emyn, yna darllenwyd rhan o air Duw,. ac offrymwyd gweddi gan Mr. Thomas Jones, Cenhadwr, yn yr iaith Saesneg. Wedyn cafwyd emyn pellach, ac ar ol hyn, cafwyd anerchiad a gweddi gan y Parch. W. Richards, caplan, yn y Gymraeg. Ac yna diweddwyd drwy ganu yr hen emyn adna- byddus Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Dieithr a dyrys yw ffordd a llwybrau y brenin mawr, pan yr ystyriom fel y cymer- wyd y fam ieuanc ymaith ym mlodau ei" dyddiau, gan adael y plentyn bach ar ol. Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel lor, yn dwyn ei waith i ben." Nodded y nef fyddo, dros y fam, y gwr ieuanc, y brodyr a'i chwiorydd a'r perthynasau, yn eu profedig- aeth lem. Claddwyd y rhan farwol o'n hoffus chwaer, ym mynwent Llanfihangel- Geneu'r-Glyn, y dydd Mawrth canlynol, wrth ymyl ei hanwyl dad. Danfonwyd nifer fawr o blethdorchau, er serchus gof am dani, ac yn eu plith gwelsom rai oddiwrth y rhai canlynol—Y teulu Mr. George Hart (gwr) Mr. a Mrs. Edward Pierce Richard ac Ellen Pierce; Rosie a Nancy Parry Mr. a Mrs. Williams, Ifield Road; Miss Williams, Lindfield Gardens; D. Jenkins, Shelden Street; D. T. Lloyd Wade a Hans Kate, Lizzie, ac Arthur Evans, Lizzie a Nelly; Lambert; Harries ac Edwards. Yr oedd yr holl drefniadau yn nwylaw Mr. David Roberts, Acton, brawd-ynghyfraith.

CYFARFODYDD.

NODIADAU LLENYDDOL.