Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
GARDD=WYL Y CYNGHORWR H. J.…
GARDD=WYL Y CYNGHORWR H. J. WILLIAMS, YSW.. Y.H. Wele ddarlun o rai o'r cwmni oedd yn breseanol yn y croesaw a roddwyd gan y Cynghorwr Howell J. Williams a'i briod ddydd Sadwrn diweddaf. zn
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MR. LANDON RONALD.- Y mae y cerddor hwn yn myned i Awstralia ym mis Medi, gyda Melba. Rhaid iddo gyfeilio iddi. Y mae Mr. Ronald wedi ei foddloni gymaint yng nghanu Miss Laura Evans yn ddiweddar -fel ag y mae wedi trefnu iddi ganu yn y Birmingham Symphony Concert, mis Mai, 1909. Da iawn, yn wir. Yn uwch, uwch, -eled per gantorion Cymru BALLARAT.—Bydd yno Eisteddfod ym mis Hydref. Y prif feirniad cerddorol fydd Mr. William Short, cyn aelod o Band y Brenin. Yn Christchurch (New Zealand), hefyd, cyn- helir Eisteddfod. Y mae yr hen sefydliad yn fwy byw nag erioed MR. FURNESS WILLIAMs.-Ar yr 21ain o Orffennaf, rhoddodd y tenor hwn gyngerdd yn 46, Upper Grosvenor Street, drwy gania- tad Tywysog a Thywysoges Alexis Dol- gorouki. Cynorthwyid ef gan-ymhlith ereill—Miss Laura Evans. Ei ganeuon oeddynt: To Mary Onaway awake, beloved"; "Thou art my life"; "Ask me no more." Cafodd groesawiad ardderchog, ac yr oedd ei holl ymdrechion yn dra chymeradwy gan y cwmni urddasol. Gresyn rhaid ei golli o'n plith am ysbaid y mae Tenoriaid mor brin. Ond bydd ei ymweliad buan a'r Eidal, i astudio yr opera, yn fantais iddo yn ei yrfa gerddorol; ac y mae hyn yn brawf o'i awydd i fod yn artiste cyflawn. Yn enw yr Hen Wlad, yr wyf yn meiddio dweyd ei bod yn teimlo yn falch o iiono ac yn disgwyl pethau gwych oddi- wrtho. COR CYMREIG LLUNDAIN.—Y mae yma sel mawr dros gerddoriaeth ar hyn o brvd, ac os na bydd iddo oeri, y mae lie cryf i ddisgwyl y bydd cor yr Eisteddfod Genedlaethol yn wn cwbl deilwng o'r sefydliad anrhydeddus. Yn y blynyddau aethant heibio ni fuasai neb yn breuddwydio am fyned a chor o Lundain i gystadlu yn Neheudir CymruJ Credid y buasai mor ynfyd a chludo glo i Newcastle. Ond y mae brwdfrydedd Cymry ieuainc ein dinas yn ddiderfyn. Aethant i Mountain Ash a chipiasant wobr bwysig yno. Wedi iiynny, yn y Queen's Hall, dyna wobr fawr arall yn helpu i chwyddo eu trysorfa. fiellach, y mae eu golwg ar brif ddinas y Cymry yn y Deheudir (er o brin y sylwais i mai tref Gymreig ydyw). Pob llwydd iddynt yno. Byddai yn orchwyl dymunol imi ddweyd barn ar ganu y cor yn y Recital-Concert yn y Tabernacl, King's Cross, nos lau, y 23ain o Fehefin, ond byddai yn beth annoeth am ddau reswm (1) Nid ydyw y cor eto wedi llwyr ddarparu y darnau i'r ymgyrch, ac felly y mae lie i ddisgwyl y bydd iddo ganu yn well fyth yn y gystadleuaeth yn Caer- dydd. (2) Y mae yr Arweinydd yn gwbl alluog i nodi y diffygion i'r cor. Gallaf, fodd bynnag, ddweyd am y cor, fod ei brif ragoriaeth Ileisiol yn y sopranos a'r basses, er mor dda ydyw y lleisiau ereill. Dichon y ca'r cor fwy o farcia-a am ganu dernyn Mendelssohn na'r Hall. Y mae yn neillduol o rymus gyda Come with torches,' a bydd yn anhawdd i ereill ei guro arno. Nid ydyw y darn arall o waith Elgar eto mor effeithiol. 0 brin y mae yr holl fai am hyn ar y cor y mae yn dilyn yr arwyddion mynegiantol yn fanwl iawn ond ceir fod y symudiad canol-sydd yn dechreu gyda And oft, that month," &c.—wedi ei farcio mor llwyr nes y mae yn myned yn feichus ac anyddorol wrth ei ganu, a charwn glywed y cor allai fy moddhau i yn natganiad y rhan hon, tra yn dilyn y marciau mynegiantol niferus. 0 ran effaith, y mae yma fel pe bae gawr yn cael ei ddarlunio yn ymlwybro drwy gors Cafwyd prawf o allu rhai o aelodau y cor MR. WATKIN JONES (KING'S CROSS). fel unawdwyr, a chanasant oil yn dda. Y cantorion oeddynt: Miss Annie Thomas, Hackney, "With verdure clad"; Miss Margaret Pierce, God that madest Earth and Heaven Mr. Stanley Davies, Hia- watha's Vision"; Mr. Gwynne Davies, "ELeanore"; Mr. James Davies, The Trumpeter." Yr oedd y caneuon oil yn rhai cyfaddas.i'r datgeiniaid hyn, ac yr oeddynt mor dderbyniol fel y dymunai'r gwrandawyr iddynt oil ail-ganu. O'r holl bethau da, modd bynnag, canu Mr. Gwynne Davies oedd yn apelio ataf yn fwyaf neillduol: yr oedd mor ddeallgar a gorffengar. Yn ei ail .gan, yr oedd ei gyflwyniad o'r frawddeg perfect sympathy yn wers ynddi ei hun i leiswyr ieuainc. Gwyr pawb beth y mae Mr. Davies yn ei ganu, ac y mae yn gallu eu gorfodi i'w ddilyn gyda dyddordeb a mawr fwynhad. Dyma'r tro cyntaf imi ei glywed yn canu. Yn sicr dylai ymddangos ar y llwyfan yn amlacli. Fel y sylwodd Mr. Watcyn Jones, y Cadeirydd, nid oedd amser i encores; ond yr oedd yn bur hoff o alw ar y cor i ail-ganu My love dwelt in a northern land a phan y deallais ei fod yn parhau yn hen lane, meddyliais y gallai fod gan y brawd eisieu ei ddiddanu Gwnaeth gadeirydd campus, a bu yn hael tuagat y cor. Diolchwyd yn gynnes iddo gan Mr. E. A. Jones, yr ysgrif- ennydd selog, a'r trysorydd. Da gennyf i dorf mor fawr ddod ynghyd i'r cyngerdd. Yr oedd y lie yn llawn. Dylid dweyd mai y cyfeilwyr oeddynt Miss Sallie Jenkins a Mr. David Richards. TONAU TALTSARN.—Derbyniwyd copi o'r llyfr newydd hwn i'w adolygu, a hyderaf sylwi yn lied fanwl arno yr wythnos nesaf. THE ART OF SINGING.- Y mae hefyd gopi o'r gwaith newydd hwn, gan Santley, wedi dod yma i'w adolygu, a chaiff yntau sylw buan. Y mae yn llyfr tra dyddorol. Macmillan ydyw y cyhoeddwyr.
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Nid yn ami y ceir cwerylon cyfreithiol ynglyn a llyfrau Cymreig, ond caed cipdrem yr wythnos ddiweddaf ar anghydwelediad cydrhwng Asaph" a chyhoeddwyr ei gyfrol ar Eminent Welshmen." Mae'n debyg fod Asaph wedi cytuno a chyhoeddwyr ym Merthyr i ddwyn ei gyfrol allan fel cyfanwaith, ond gwnaed cyfnewid- iad yn y telerau cyntaf, a dygwyd y gwaith allan yn rhannau. Oanlyniad hyn ydoedd lleihau nifer yr archebion am dano, a phleid- iai y naill ochr. a'r llall eu bod wedi cael cam. Yn ol y dadleniad a wnaed yn y llys yn Nghaernarfon ni werthwyd ond 609 o'r cyfrolau a hawlai "Asaph" £ 67 fel y gweddill o'r tal oedd yn ddyledus iddo. Ar ol ymholiad manwl dyfarnwyd iddo £ 18 18s. Yr ail gyfrol. Ar ol yr anghydwelediad hwn y mae'n ddyddorol i wybod a geir yr ail gyfrol addawedig o'r gwaith ? Fel y cofir, yr oedd y cyhoeddwyr wedi hysbysu eu bod ar fin sicrhau defnyddiau tuag at wneud cyfrol arall, ac y byddai yn honno amryw gan- noedd o gofiantau am bersonau nas gwelir eu hanes ond mewn man gylchgronau a lleoedd neu gyhoeddiadau di-ar-ffordd. Y mae'r gyfrol gyntaf wedi profi yn un tra defnyddiol i chwilotwyr hanes, a bywgraff- wyr Cymreig, fel y byddai'n anffawd os na Iwyddir yn awr i orffen y gwaith fel ag y bwriadwyd ar y cychwyn. A gobeithio, pan gyhoeddir y gyfrol nesaf y ceir perffaith gydgord rhwng yr awdwr a'r cyhoeddwyr. Testynau Eisteddfod 1909. Daw gair oddiwrth ysgrifenyddion yr wyl hon fod y rhestr swyddogol o'r testynau yn