Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Waleh PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rpHE next Term begins in September, 1908. A JL number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910 with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. B. T. PHICE, ",i,f86Z/, SauitalJ fgnc^ittcci, 5, LOUVAINE ROAD, BATTERSEA, S.W., is prepared to undertake Contracts in all kinds of Building Work. Alienations, Repairs, Decorations, Shop Fitting, Sanitation. ESTIMATES FREE.
ADDEWID MR. ASQUITH.
ADDEWID MR. ASQUITH. Bu dirprwyaeth arbennig o Gymru ar ymweliad a'r Prif Weinidog ddydd lau yr wythnos ddiweddaf, gyda'r amcan o gael addewid pendant ganddo y cai Datgysylltiad le blaenaf yn rhestr y mesurau addawedig yn ystod y Senedd-dymor nesaf. Arweinid y cadau Cymreig gan yr Hybarch Evan Jones, Caernarfon, a chyflwynwyd hwy i'r Prif Weinidog gan Syr Alfred Thomas, A.S. Yr oedd amryw o wyr blaenaf y blaid Ryddfrydig yn bresennol gyda Mr. Asquith. Gosodwyd yr achos Cymreig yn ddeheuig ger bron y Prif Weinidog gan Mr. Evan Jones, a does neb yog Nghymru a wyr fwy am hanes y pwnc na'r hen arwr o Gaernar- fon. Cadarnhawyd y cais gan y Parchn. R. Thomas, Glandwr, ar ran yr Anibynwyr T. Hughes, Llanfairfechan, ar ran y Wesleyaid a'r Parch. T. E. Williams, o'r Drefnewydd, ar ran y Bedyddwyr. < Yn ei atebiad i'r sylwadau a wnaed gan y brodyr da hyn, dywedodd Mr. Asquith nad oedd dim angen eu sicrhau, ei fod ef a'i gyd- weinidogion mewn Ilawn gydymdeimlad a'r achos a bleidient. Safai y gefnogaeth a roddid iddo yng Nghymru ar ei phen ei hun yn hanes gwleidyddiaeth. Wedi cyfeirio at yr achlysur blaenorol pan y dygodd i mewn Fesur Dadgysylltiad Cymreig, sylwodd fod y ddirprwyaeth wedi gosod yr achos gerbron yn y modd mwyaf rhesymol a chymedrol. Teimlai yn sicr nad oedd neb yn y Dywys- ogaeth a warafunai yr amser a dreuliasai y Llywodraeth gyda mesurau megis y Mesur Addysg, Mesur Blwydd-dal yr Hen, a Mesur zn y Trwyddedau, y rhai a gyffyrddent a Chymru i'r byw, a mesurau ereill o ddiwyg- iad cymdeithasol a gwleidyddol. Ond yr hyn y daethant hwy yno er ei fwyn oedd, nid beio y Weinyddiaeth am y defnydd a wnaeth- ai o'r gorffenol, ond cael sicrwydd ganddi beth a f wriadai ei wneuthur yn y dyfodol— y dyfodol agos. Eisteddasai yn yr ystafell hono flwyddyn yn ol gyda'r diweddar Syr Henry Campbell-Bannerman, yn gwrandaw ar ddirprwyaeth o'r aelodau Cymreig, a dywedodd y pryd hynny y cyfrifai ef yn destyn, nid siomedigaeth yn unig, ond gwar- adwydd, os deuai y Senedd hon i ben cyn y cerid Mesur Datgysylltiad drwy Dy'r Cyffredin. Dyna ydoedd ei farn eto. Am y dyfodol agosaf, byddai yn amhosibl ac yn anoeth dros ben i neb heb feddu y gallu i ddewinio, ddatgan beth a ddigwyddai o fewn y flwyddyn nesaf neu ddwy, ond yn y modd mwyaf eglur a phendant, eu gobaith a'u bwriad ydoedd, gosod gerbron gynlluniau i ymdrin a'r mater hwn yn ystod y Senedd- dymor nesaf. Datganodd y ddirprwyaeth ar derfyn y cyfarfod eu bod yn berffaith foddlawn ar addewid Mr. Asquith. Wrth gwrs nis gallai fod yn bendant, ond mor bell ag y gwelai ar hyn o bryd, yr oedd Datgysylltiad i gael lie blaenllaw yn araith y Brenin ddechreu'r flwyddyn. Yr oedd Mr. Lloyd- George wedi dweyd yr un peth yn flaenorol i hyn, ond feallai mai nid er taflu sarhad ar Mr. Lloyd-George y trefnwyd y cynulliad presennol, eithr er cadarnhau ei genhadaeth yn y Weinyddiaeth ac am hynny y mae He i ymfalchio fod y dirprwywyr wedi cyflawni gwaith amserol a da. Y peth nesaf sydd gennym i'w wneud yw cael y cadau enwadol hyn i gyduno ar gynlluo. a fydd yn dder- byniol gan y genedl. Un peth yw gofyn am Ddatgysylltiad, ond peth arall yw cael mesur a fydd yn unol a'n gofynion ni. Deallwn fod yr aelodau Seneddol Cymreig wedi cytuno ar Fesur; os felly, y maent wedi gwneud un gwasanaeth pwysig er yr adeg yr etholwyd hwynt tros Gymru.
Colli'r Cewri.
Colli'r Cewri. Yr wythnos hon daw'r hanes am golli dau o enwogion y genedl. 0 Fryniau Cassia, yn India, hysbysir am farwolaeth y cenhadwr enwog, Dr. John Roberts, yn ei 67 mlwydd o oedran. Nid oes ond ychydig fisoedd pan oeddem yn ffarwelio ag ef yn Lluadain pan yn dychwelyd, am y tro olaf, bellach, i'w faes cenhadol ar fryniau pell yr India. Dyma lie y gweithiodd yn Ifyddlon am yn agos i 40 mlynedd, ac yma y bu farw yng nghanol ei waith, wedi ennill clod cenedl gyfan am ei wasanaeth diflino a llwydd- iannus. Brodor o ardal Corris oedd Dr. Roberts, a dechreuodd ei fywyd yn chwarelau yr ardal honno. 0 dipyn i beth llwyddodd i addysgu ei hun gan baratoi i'r weinidogaeth. Yn 1866 aeth i Goleg y Bala, a daeth yn fuan yn un o bregethwyr blaenaf yr Hen Godt. Yn 1871 ymbriododd a Miss Roberts—merch Glan Alun-ac yn niwedd yr un flwyddyn aethant allan i'r India i'r maes cenhadol. Collwyd gwr enwog arall ym mherson y Parch. W. James, Aberdar; un o ddoniau mawr y pulpud Methodistaidd yn ei ddydd. Ni safai yr un gweinidog yn fwy ei barch a i urddas nag efe, a cherid ef gan ei holl gyd- nabod yn ardal Aberdar, lie y gwasanaetli- odd ei enwad gyda ffyddlondeb am oes faith. Cafodd bob anrhydedd y gallai y Cyfundeb osod arno, ac efe benodwyd yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol pan oedd honno ar ymweliad a Llundain yn 1895. Y CYNGHORWR HOWELL J. WILLIAMS, YSW., Y.H.
Helynt Addysg Cymru.
Helynt Addysg Cymru. Ar hyn o bryd mae Bwrdd Canolog Addysg Cymru mewn perygl o gael ei ddi- fodi. Mae ein cyfundrefn addysg yn dechreu myned yn ddyrysbeth i'r gwr o'r tuallan i Gymru os nad yn wir i ni ein hunain. Gofelir am addysg yn ein gwlad gan dri o wahanol awdurdodau. Mae'r Bwrdd Addysg yn edrych ar ol y gyfundrefn elfenol, y Bwrdd Canol yn gofalu am yr ysgolion can- olradd, a Senedd y Brifysgol am yr addysg uchaf, ac mae'r naill yn anibynol i'r llall. Ceisia'r Bwrdd Addysg i gyfanu y gyfun- drefn a gwneud llai o reolwyr, ond y mae'r Bwrdd Canol yn ofni'r canlyniadau. Pa un ai lies ai niwed a wneir i addysg Cymru trwy unoli'r gyfundrefn nis gellir dyweyd i sicrwydd; ac mae'r arweinwyr addysgol eu hunain yn rhanedig ar y pwnc. Gwir mai'r Bwrdd Canol yw'r unig allu lleol sydd gennym, a dyma'r cydnabyddiaeth cyntaf a gawsom o ymreolaeth, a byddai'n drueni ei golli yn awr. O'r ochr arall gwrthodai'r Bwrdd hwn gefnogi'r syniad o gael cynllun cyffelyb i reoli addysg elfenol yng Nghymru, fel bu raid i ni foddloni ar adran Gymreig yn y Bwrdd Addysg ei hun. Nis gellir parhau yr anghysonderau presennol, a goreu po gyntaf i'r tri chyngor i gyduno ar gyf- undrefn a all reoli addysg Cymry yn hollol o'r ris iselaf hyd at y Brifysgol ei hun. Ni ddaw perffaith lwyddiant ar ein gwaith nes y trefnir cynllun o'r fath, a dyna'r unig ffordd i osgoi y man ymrafaelion hyn.