Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GARDDWYL GYMREIG.

News
Cite
Share

GARDDWYL GYMREIG. Diwrnod hapas i aelodau Cymdeithas Lenyddol Charing Cross a'u cyfeillion oedd dydd Sadwrn diweddaf, oherwydd gwahodd- wyd hwy i dreulio'r dydd yn haf-drigfan y Cynghorwr, a Mrs., Howell J. Williams. Gwyr pawb o'r Cymry am breswylfod hardd y teulu hwn yn Camden Road, oher- wydd y mae Penrhyn yn un o brif gyrch- fannau y cylchoedd Methodistaidd; ond symudiad diweddar ar ran Mr. Williams a'i briod yw sicrhau haf-dy mewn ardal wledig, allan o swn a thraiierthion y ddinas. Sail ei balasdy gwledig mewn ardal swynol yng nghyffiniau Woking, Surrey. Mae Pyrford Manor-oherwydd dyna enw'r palas—yn hen drigfan urddasolion, ac yn nyddiau y Fren- hines Bess yr oedd un o'i phrif lywiawdwyr yn preswylio ynddo, ac yno y cyrchai y teyrn ei hun er ymgynghori ag ef ar faterion y deyrnas. Mae Mr. Williams wedi harddu llawer arno er pan y daeth i'w berchenogaeth eto, ceidw ei nodweddion henafol, ac ymhen blwyddyn arall diau y bydd yn un o'r cyrch- lannau harddaf yn yr holl ardal. Yn ol eu haelioni arferol gwahoddodd Mr. a Mrs. Williams ugeiniau o wyr ieuainc Charing Cross, ac amryw o gyfeillion o King's Cross a lleoedd ereill, i dreulio diwrnod yn eu preswylfod gwledig, a gwnaethant ddarpariadau helaeth gogyfer a'u cysuron. 'Roedd pob math o chwareuon wedi eu trefnu, a chan fod yr afon Wy, sydd yn rhedeg o gylch ei ystad mor gyfleus i gychod, yr oedd saith o fadau ganddo ar gyfer yr ymwelwyr, a chai y rhwyfwyr gyfle i fwynhau eu hunain am filldiroedd lawer ar hyd yr alon brydferth hon. Does angen dweyd i'r cyfan fyned ymlaen yn hwylus, oherwydd we- cael diwrnod canol haf, cwmni diddan, a gwestwyr llawen i ddyddori ac i ofalu am gysuron y dorf pa angen am ragor ? Cyn ymwahanu bu raid i Dr. Lloyd arfer ei ddoniau i dynnu llun rhai o'r ymwelwyr ar y lawnt ger drws y palas, a gwelir mewn colofn arall ffrwyth ei lafur. Ar derfyn y dydd, diolchwyd yn gynnes i Mr. a Mrs. Williams am y mwyniant a'r croesaw, a theimlai pawb fod y teulu yn haeddu'r oil am eu gofal a'u parodrwydd i wneud popeth ar ran Cymry ieuainc digar- tref y ddinas.

HELYNT WOOD GREEN.

ARHOLIAD YR ORSEDD.

Advertising