Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. 'Roedd Dyfed wedi addaw dod i Lundain yr wyth- nos hon i gwblhau'r trefniadau gogyfer a rhoddi'r trydydd darlleniad i'w Fesur ynglyn a diwygiad yr Orsedd. Pan glywodd Marchant hyn daeth yma ar ei union, oherwydd y mae'r gair Diwygiad fel tan ar groen y Marchog, ac o bob sefydliad y mae yn erbyn ei ddiwygio 'does yr un mor gysegredig ganddo a'r Orsedd. Nid yw Morien, ac nid oedd yr hen Wilym Cowlyd ond addolwyr claiar o'i gydmaru ag efe, ac .addawa ymladd hyd yr eithaf yn erbyn Dyfed a'i griw CeidwadoL Mae'n debyg fod Dyfed wedi cael yr awgrym gan Eos Dar neu rywun, oherwydd ni ddaeth yn agos i ystafell y CELT y tro hwn, er fod llu mawr o feirdd yma yn ei ddisgwyl, ac yn arbennig y pump -oedd wedi derbyn urddau'r Orsedd ar adeg cynhaliad y cyhoeddi yn Llundain y dydd o'r blaen. Yng nghanol y siomedigaeth cyftredinol gwrthod- odd Eos Dar i fyned i ben y bwrdd-yr hwn yw Maen Llog ystafell y Gol.—ac wrth weled ei ystyfnig- rwydd dacw Llinos Wyre yn codi ar ei draed ol ac yn -calonogi'r Gol. gan ddweyd yn siriol, Na hidiwch," Mr. Gol., "mae gennom ni well talentau yn Llun- dain nag sydd gyda nhw yng Nghymru. ac fe gana i benillion ac fe wna Trefhedyn a loan Ceinwen a loan Glan Llethi adrodd cywyddau, ac fe ddangoswn i i foys y wlad ein bod yn gallu cynnal cwrdd, Dyfed neu beidio Ac wele ef ar ei union i ben y Maen Llog ac yn -canu yn herfeiddiol, yng ngwyneb Syr Marchant, ar— PABYDDIAETH YR ORSEDD. Pabyddiaeth yr Orsedd yw testyn fy nghan, Ceir ynddi farddoniaeth a synwyr sydd lan, Addoli hen geryg-Paganiaeth wir yw Di-les i bechadllr-aneglur i Dduw. Ail drefnu y cread y gwirion a faidd, Byw ddarlun, mi dybiaf, o'r hwch yn yr haidd, Llesoli barddoniaeth Pabyddiaeth a chwardd- Amheuaeth a wreiddia yn nghalon y bardd. Gwna crysau Pabyddol y diafol yn lion, Difyrwch i uffern yw ffasiwn fel hon Mae Cymru grefyddol yn wrol ei gwedd Ond gwyra'i barddoniaeth yn raddol i'r bedd. "Taw, taw," ebe Trefhedyn, "mae gwell gwedd ar farddoniaeth heddyw nag erioed, a chystal beirdd yn aelodau o'r Orsedd a phan oedd yr hen Goronwy Owen ei hun yn troedio'r ddinas yma." Yn rholian feddw ar hyd ei phalmantau, ydych yn feddwl ?" ebai Penardd. Ond canu ymlaen wna'r Llinos,— Ar lan afon Tafwys un nawnddydd o haf Gwnaeth Ilwydrew Pabyddiaeth fy nghalon yn glaf, Ffolineb a gwastraff ar amser a gwaith Yw credu mai ceryg yw bywyd yr iaith. Maen Llog ydoedd careg, aeth synwyr yn ddim, A sain yr hen udgorn ddiflanai'n bur chwim, Er gwisgo ar gapan ddail derw a mOs Pabyddiaeth yw'r cyfan, anniddan, di-les. Y crysau amryliw yng nghanol yr ardd Oe'nt hynod ddi-swynion, adgofion a dardd, Pabyddiaeth a letha bregethau diri' Darostwng efengyl-cyll Gwalia ei bri. Difywyd oedd pobpeth ond canu y brawd A ddaeth i'r Brif-ddinas o Gymru dylawd Ei galon oedd orlawn o'r ysbryd Cymreig A'i ber-lais adseiniai y muriau a'r creig. Chwarddai Eos Dar yn siriol wrth glywed y Llinos yn ei ganmol, ac addawodd ei gyfarfod y tuallan ar -ddiwedd y cwrdd. Dim bribes, cofiwch, yn Llundain," ebai Glan Towy, wrth yr Eos, ac addawodd yntau i fod yn fachgen da hollol. Ymgiliai Pabyddiaeth am enyd o'r lie Pan gludai'r awelon sain telyn drwy'r dre', Ond wfft i'r hen grysau, di-addurn, di-lun, Ni charwn eu gwisgo 'rwyn Gymro fy hun. Ho, ho, yr hen fachgen," chwarddai'r Marchog. Grawnwin surion, yn wir! Ni chei di yr un byth, ond pe cawset gynnyg ti fuasai'r cyntaf i wneyd ffwl o'th hun." Ffwl, yn wir," ebai Glan Llethi, yn sarug, nid gwneud ffwl o hono'i hun wnai wrth wisgo'r urddau anrhydeddus hyn." "0, begian pardwn," ebai'r Marchog, "present .company always excepted," ychwanegai- Er llenwi'r papurau o photographs rhad 0 ddynion a elwir Pabyddion y wlad, Gorlethu efengyl yn uchder ei bri Awenydd gwladgarol, nid Pabydd wyf fi. Y Macwy oedd yn canu'r delyn i gyfeilio i'r Llinos, ond newidiodd y llanc ei don yn awr, a manteisiodd y cantor o Harrow ar y cyfle i newid ei fesur :— Tra'n chwythu'r corn dimai, oernadau asynod A ddyrchent i fyny'n fanllefau o'i geudod, Pabyddiaeth gyffredin mae eithin gwyrddleision Yn brathu calonau o law Apostolion! Bachan, bachan, dyna farddoniaeth," ebe Tref- hedyn, yn edmygol, ond ymlaen yr ar'r Llinos- Pe bawn yn cael benthyg yr hen gleddyf hynod Defnyddiwn e'i hoilti coed tan i wyr trallod, Mae digon o heddwch ar feusydd barddoniaeth Heb arf dur y milwr i ledu Pabyddiaeth. Maen Llog ydyw'r pulpud i grefu am arian- Hen gareg anrhefnus o chwarel y Satan, Efengyl a wingai yn mreichiau awelon Rhwng coedydd ac urddas gwych Ddinas y mawrion. Difyrwch i'r Saeson gwybodus a doniol Oedd gweled lledaenu Pabyddiaeth Gymreigiol, Nid lies i dalentau yw amcan Eisteddfod Ond ffordd i dylodion gael myglys a diod. "Hold on," gwaeddai Glan Llethi, "nid Seiat brofiad yw hon, cofia Y crysau Pabyddol a guddiant bechodau A wasgant fel mynydd ar dduon eneidiau, Mae pechu daearol yn reddfol mewn anian Ond yni'r Eisteddfod wyr hyglod yw arian. Dyrchafu Pabyddiaeth mewn gwlad Gristionogol A rewa'n dragywydd y fynwes wladgarol, Gwir fendith i Gymru medd enaid a chalon Fa'i.claddu y ceryg yng ngwely yr afon. Gwaeddwyd hwre ar derfyn can wrth-babyddol y gwr o Harrow, ond tystiai yr holl feirdd oedd yn bresennol mai amcan y mesur Diwygiadol oedd gyrru ymaith bob rhith babyddol o'r cylch cyfrin a dwyn y cyfan yn "up to date," i fod yn fwy cydweddol a gofynion yr oes. Ar gynygiad loan Ceinwen, gohiriwyd y cyfarfod nes cael cyfle i ymdrin arno yn Llangollen.

Advertising