Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Ychydig amser yn ol yr oeddwn yn cyfeirio at gynnyrch y wasg Gymreig ynglyn a llyfrau ysgol, ac er fod cyfres helaeth o lawlyfrau ar wahanol faterion wedi eu troi allan eisoes, rhaid addef nad yw'r gwaith ond megys yn dechreu. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cydnabod fod angen am ychwanegiad yn y maes hwn, a deallaf fod ym mwriad pwyllgor Llundain roddi gwobr am lawlyfr arbennig ynglyn a dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Bydd yn ddyddorol gweled a lwyddir i gael gwaith fydd yn rhagori ar y man weithiau sydd eisoes at wasanaeth ein hathrawon ac os ceir, bydd yn werth rhoddi cybceddusrwydd iddo ar fyrder. Tra yn son am lyfrau ysgol wele sypyn i law o weithiau diweddaraf gwasg Mr. Southall, o Gasnewydd ar Wysg. Gwyr pawb sydd yn ymwneud ag addysg yng Nghymru faint mae Mr. Southall wedi lafurio ar ran cael yr iaith Gymraeg i'n hysgolion dyddiol. Er mai Sais yw, y mae wedi bod yn fwy pybyr bron dros y mudiad nag a fu ein cenedlaetholwyr mwyaf selog. Ac i gadarnhau ei safle y mae wedi cyhoeddi nifer o lawlyfrau addas i ysgolfeistri ac ereill ar y pwnc. Ymhlith ei gynnyrchion diweddaraf ceir The Latin Element in Welsh, sef llawlyfr bychan yn nodi'r fath doraeth o eiriau Cym- raeg sydd wedi eu dyfynu o'r Lladin. Y mae hyn i'w briodoli yn bennaf i deyrnasiad y Rhufeiniwr ym Mhrydain; a chan mai Lladin oedd yr iaith a arferid ganddynt yn swyddogol, nid syndod fod y fath nifer o enwau a chyfeiriadau Lladinaidd wedi aros yn ein hiaith. Yr awdwr yw Mr. S. J. Evans, Llangefni, gwr ag sydd ynawdurdod ar ramadeg y Gymraeg ac yn un a haedda ganmoliaeth am ei lafur parhaus ar ran yr iaith yn ein hysgolion canolradd. Welsh Lyrics. Wele argraffiad poblogaidd o delynegion Cymreig wedi eu cyfieithu i'r Saesneg gan y Parch. E. 0. Jones, Llanidloes. Nid oes eisieu canmol gwaith Mr. Jones fel cyfieith- ydd, oherwydd y mae yn cael ei gydnabod bellach fel un o'r rhai goreu feddwn yn y maes hwn. Da gennym weled argraffiad rhad o'r telynegion, ac er hwylusdod i'r plant, y mae byr-fvwgraffiad o'r awdwyr wedi eu gosod ynglyn a'u gweithiau. Gall y plentyn ysgol weled trwy gyfrwng gwaith fel hwn fod yn ein llenyddiaeth, wedi'r cyfan, rhywbeth gwerth ei gadw mewn cof. Dringo'r Andes. Mae gwaith dyddorol Eluned Morgan wedi ei ddwyn allan am swllt! Gwna lyfr dar- llen addas iawn i blant Cymru. Gwisgir y disgrifiadau o'r Andes mewn iaith mor syml, a swynol, gan Eluned, nes pery i ni feddwl mai teithiau ymysg rhai o gymoedd a bryniau rhamantus yr hen wlad sydd yn cael eu disgrifio. Da gennym ddeall fod yr awdures ar ymweliad arall a'r hen wlad, ac fod yn ei bwriad i aros yma hyd nes yr a Eisteddfod Llangollen heibio. Glamorgan. Dyma un o'r cyfrolau mwyaf dyddorol ac addysgiadol sydd wedi dod allan o'r wasg Gymreig yn ddiweddar. Hanes a disgrifiad o Sir Forganwg yw'r gyfrol, a ffrwyth un o gystadleuthau yr Eisteddfod Genedlaethol. Mr. A. Morris, F.R.Hist.S. yw'r awdwr, ac y mae wedi llwyddo i roddi un o'r disgrifiadau mwyaf dyddorol sydd gennym o Sir Forgan- wg a'i phobl. Er mai at wasanaeth yr efrydydd cyffredin y bwriedir y gyfrol yn bennaf, y mae yn y gwaith olion ymchwil ac astudiaeth manwl, a haedda le yn llyfrgell yr hanesydd yn ogystal ag ar fwrdd y plentyn ysgol. Cyflwynir y gwaith i aelodau Cymdeithas Morganwg Llundain, ac nis gellid ei chyflwyno i garedigion mwy cywir o'r hen Sir. Pe caem hanes pob Sir yng Nghymru ar gynllun llwyr fel hwn ni fyddai angen gofidio nad yw hanes Cymru wedi ei gael. Ar wahan i'w werth hanesyddol y mae yn llyfr darllenadwy ddigon, ac wedi ei droi allan yn ddestlus o swyddfa Mr. Southall. Yn sicr y mae llenyddiaeth Cymru tan ddyled neillduol i wasg Cas- newydd am y cyfrolau rhagorol a droir allan oddiyno. Alawon Cymru. Ymddangosodd y delyneg a ganlyn yn y Westminster Gazette ddydd Sadwrn diweddaf Adieu, My Dear Cambria. (A New English Version.) Farewell to thee, Cymru, Farewell, my own mountain, Farewell, sparkling fountain, Green fields of my flock! And woods where in boyhood I wandered, beholding The heath-flower unfolding, The ash-leaf unlock. My ship's on the shore- And, alas we must sever My grief that I ever Should sail the far seas! Farewell! my fond mother, All mothers excelling, Adieu! dear old dwelling Hid up in the trees. In hoar Ocean's ear How our brook seems to whisper 0 say shall he prosper, Safe home shall he fleet ? With hands full or empty There shall he stand knocking, Till dear ones come flocking Their exile to greet?" Then let Cymru's breezes, Fresh caught from the billow, Again lull my pillow, Again light my cheek, Until for the long rest I'm ready, I'm ready And with my tired body Her bosom I seek. Alfred Perceval Graves.
[No title]
DYDD Mawrth diweddaf agorwyd Sana- torium" Alltymynydd, ger Llanybydder. Bwriedir iddi fod yn aneddfa i rai sy'n dioddef oddiwrth y ddarfodedigaeth yn sir- oedd Aberteifi, Caerfyrddin, a Phenfro yn bennaf ac er mai ardaloedd hollol Gymreig sydd o gylch y fan, ac mai er lies y Cymry lleol ei bwriedir, y mae'n syndod mai Saeson uniaith yw prif swyddogion y sefydliad Nis gellid dychmygu am ddim mwy gwrthun, ac mae hyn i'w briodoli yn bennaf i'r ffaitk mai rhyw bwyllgor bychan o uchelwyr gwrth-Gymreig eu syniadau syn rheoli y cyfan. Nid rhyfedd i Syr John William& beth amser" yn ol ymddiswyddo oddiar y pwyllgor.
Advertising
B. T. PHICE, tfftuifcci. Saititaztj &itiincot,, &c. 5, LOUVAINE ROAD, BATTERSEA, S.W., is prepared to undertake Contracts in all kinds of Building Work. Alterations, Repairs. Decorations, Shop Fitting, Sanitation. — ESTIMATES FREE. — At cell' WELSH PRINTING ™ tM N
Am Gymry. Llundain.
lawer yn ddiweddar, ond deallwn yn awr fod Mr. Vincent Evans wedi llwyddo i'w chael i draddodi araith yn adran y Cymmro- dorion ar adeg cynhaliad Eisteddfod Llan- gollen. Pob lwc i'r cyfarfod. GWLEDDA GYDA'R CYMRY.—Ar ddechreu'r tymor nesaf y mae Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn myned i gael y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George fel prif westwr yn y cinio blynyddol. Mae'r Cymmrodorion yn dod at yr eiddynt bellach, ac wrth anrhydeddu un o brif blant y genedl y maent yn cyfiawnhau eu bodolaeth. WALHAM GREEN.—Yng nghyfarfod ath- rawon Ysgol Sabothol y lie uchod pryd- nawn Sul diweddaf, 19eg cyfisol, cynygiodd Mr. John Rowland y penderfyniad canlynol: Fod y cyfarfod hwn o athrawon Ysgol Sul Capel M.C. Walham Green, er mwyn gweith- redu yn gyson ag amcan sefydlu achosion Cymreig yn Llundain, yn ymrwymo o hyn allan-(l) I gyfyngu rhoddion a gyflwynir i'r plant i lyfrau wedi eu hargraffu yn yr laith Gymraeg (2) I arfer pob dylanwad i greu amgylchedd hollol Gymreig yn eu capel a'u tai; ac fod copiau o'r penderfyniad hwn yn cael eu danfon i'r (a) Yysgolion Oymreig yn Llundain; (b) Cyfarfod Misol; (c) Cyfarfod Dau Fisol; (ch) Pwyllgor Cen- hadaeth Dramor y Cyfundeb." Eiliwyd y cynygiad hwn gan Mr. Isaac T. Lloyd, a chefnogwyd gan Mr. Ben Evans, a phasiwyd ef bron yn unfrydol. Credwn fod y symud- iad hwn yn brawf digamsyniol fod yr ysbryd cenedlaethol yn parhau yn fyw, ac fod yn ein plith eto rai ag sydd yn caru o waelod eu calon eu hiaith, eu gwlad, a'u cenedl. Mawr hyderwn y bydd yr esiampl hon yn symbyliad i ereill i symud yn yr un cyf- eiriad. R. COR CnTRY LLUNDAIN.—Mae'r cor hwn, tan arweiniad Mr. Merlin Morgan, yn myned ymlaen yn rhagorol gyda'r gwaith gogyfer a'r Eisteddfod yng Nghaerdydd ar ddydd Gwyl y Banc, Awst 3ydd. Nos Sul diwedd- af aeth amryw o wyr enwog y gan i neuadd Castle Street i'w wrando yn myned trwy y gwahanol ddarnau. Ymhlith y gwrandawyr oedd Miss Maggie Davies, Mr. Dan Price, Mr. Ivor Foster, Mr. Tom John, Mr. John Roberts, a Mr. David Evans, a thystiai yr oil fod gan Mr. Morgan ddefnyddiai rhagorol yn y cor. PLANT Y GAN.—Yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes y mae'n llawen gennym hys- bysu am ddau Gymro arall sydd wedi gwneud yn rhagorol yn yr Academy yn ystod y tymor diweddaf. Enillodd Mr. Andrew Jones, y tenor o Fangor, y "Joseph Maas Prize a Mr. Evan Williams, Llanelly, Hill & Sons Prize." MEDDYG ARALL.—Yr ydym yn llongyfarch Mr. Trevor B. Davies, o'r University College Hospital, ar ei lwyddiant yn yr arholiad terfynol fel meddyg. Mab i'r Henadur E. H. Davies, Pentre, yw'r gwr ieuanc, a chafodd yrfa ddisglair fel efrydydd yng ngholeg Caerdydd. Y CLWB CYMREIG.-Rhoddir cinio ar- bennig ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol ar ddechreu'r tymor gauafol o'r Clwb Cym- raeg, a disgwylir rhai o arweinwyr yr Orsedd yno fel prif wahoddedigion y noson. Mae Mr. John Hinds wedi ei benodi yn gadeirydd y pwyllgor cyffredinol ynglyn a'r sefydliad ynghyd a Mr. J. T. Lewis yn gadeirydd y pwyllgor aiianol.