Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Y TIR I'R BOBL.
Y TIR I'R BOBL. MAN DDALIADAU YNG NGHYMRU. MR. JOHN OWEN A'I WAITH. Mae Deddf newydd y man ddaliadau yn dechreu dod yn hysbys yng Nghymru. Nid ar unwaith yr ydym, fel cenedl, yn manteisio ar y cyfleusterau a roddir yn ein dwylaw, ond y rnae'r hen gri Y Tir i'r Bobl," a godwyd flynyddau yn ol gan Dr. Pan Jones ac ereill, ar fin cael ei sylweddoli i raddau pell iawn. Gwir nas gall y Senedd wneud popeth, ac nid yw'n debyg fod y Ddeddf newydd hon yn berffaith, eithr fel ami i ddiwygiad arall rhaid wrth amser a phwyll cyn dwyn y cynllun i lwyddiant. Un peth yw bwriad y Weinyddiaeth a'r Diwygwyr Cymdeithasol yn ami, ond peth arall yw llythyren y Ddeddf ac os eir i weithredu ami i deddf yn ol y lythyren cyll ei noi- wedd a'i hamcan yn hollol. Pwnc dyrus yw pwnc y tir yng Nghymru er's cenedlaethau lawer. Mae'r bobl wedi .c leI eu dysgu o'u cryd mai peth cysegredig yw daear y tirfeddianwr, ac mai'r yswain lleol yw prif berson y cread. Mae'r parch- edigaeth afiach yma, i'r tir a'i berchennog, yn gyfrifol i raddau am waseidd-dra ein natur; ond gydag ychydig ddiwylliant a gallu deddfol fe ddeuir o dipyn i beth yn bobl ryddion. Ac amcan y Ddeddf newydd yw rhoddi mantais i bawb i fyw bywyd naturiol; byw ar y tir fel y disgwylia natur i ni wneuthur. 0 hyn allan gall pob un a fynno sicrhau tir a thyddyn yn ardaloedd gwledig Cymru. 0"3 llwyddodd gorthrwm a chaledi y blynyddoedd gynt i yrru plant y wlad i ystrydoedd afiach y trefydd ac ardal- -oedd y gweithfeydd, y mae cyfle yn awr i adfeddiannu y cyfryw, a gosod y gwerinwr yn ol ar y tyddyn bychan o'r hwn ei hamddi- fadwyd. Ond gwaith araf ac anhawdd fydd. Mae'r Llywodraeth wedi sylweddoli hyn, ac i'r amcan o gyfarwyddo pobl Cymru ynglyn a'r Ddeddf, y maent wedi penodi DIRPRWYWR OYMREIG i ofalu am waith y man ddaliadau yng Nghymru. Fel y gwyddis, larll Carrington yw prif reolwr Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mhrydain heddyw, ac addefir gan bawb ei fod yn un o'r landlordiaid gorea a fedd y deyrnas. Gwyr yn dda beth ellir wneud allan o'r ddaear, a pha faint o dir all gynnal teulu y gweithiwr cyffredin. Mae wedi gwneud prawf personol ar werth y main ddaliadau, a chred yn ddiysgog yn yr egwyddor. Iddo ef yn bennaf y mae i ni briodoli y Ddeddf newydd hon, a chan ei fod yn hyddysg yn anghenion Cymru ynglyn a phwnc y tir y mae wedi gweled yn ddoeth i benodi MR. JOHN OWEN yn ddirprwywr, neu'n gyfarwyddwr, i ofalu am yr holl gyfundrefn yng Nghymru. Nis gellid wrth well penodiad, oherwydd y mae Mr. Owen yn un o blant y werin, ac yn wr a wyr beth yw angen mawr Cymru yn hyn o beth. Brodor o Drefriw yw Mr. Owen, ond y mae wedi byw yn Llundain er's blynydd- oedd bellach, ac yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf hyn y mae wedi cael profiad helaeth ynglyn a daliadaeth tiroedd ym mhob ran o'r deyrnas. Dechreuodd ei yrfa felland agent ar ystad Gwydir, ac oddi- yno aeth i'r Alban, lie y gweithiodd ar ystad y Drummond Castle am rai blynyddau. Yn 1881 symudodd i Lundain, ac er hynny hyd yn awr v mae gofal rhai o brif ystadau Lloegr a Chymru wedi bod ar ei ddwylaw. Gwyr yn dda beth yw gwerth y man dydd- ynod, a chred yn gadarn yn y pwysigrwydd o gadw'r bobl ar y tir. Pan gyll cenedl ei thyddynwyr cyll ei chyfoeth pennaf," medd un o;r beirdd, ac mae Mr. Owen o'r un syn- iadau. Gwyr beth yw safle'r tirfeddiannwr, hefyd, yn dda, ynglyn a daliadaeth tiroedd, a gwyr yn ogystal faint all y ffermwr cyffredin elwa o'i ddaliadaeth. Ar wahan i'w wybodaeth am y tir, y mae gan Mr. Owen gymhwysterau arbennig i fod yn rheolwr y Ddeddf newydd yng Nghymru. Mae yn Gymro gloyw o ran iaith a theimlad- au, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw yn mudiadau Cymreig y ddinas yn ystod y 25 mlynedd hyn. Yr oedd yn un o gedyrn y mudiad Cymru Fyddol yn yr 80's, y mudiad a yrrodd William Jones ac ereill i'r Senedd, ac mae wedi dal yn Gymro o hyd. Mae yn siaradwr llithrig yn y ddwy iaith, yn garedig a siriol, ac yn wr y gaily gweithiwr cyffredin wneud cyfaill o hono, yn ogystal a'r tir ber- chennog ei gymeryd i'w gyfrinach. Nid yw yn fympwyol mewn dim, a sicr gennym y gwna fwy trwy gymmodi y gwahanol bleid- iau na thrwy lynnu at lythyren y gyfraith, neu osod ei gallu g)rfodol ar waith.
[No title]
MR. JOHN OWEN.
Am Gymry. Llundain.
Am Gymry Llundain. SEIBIANT.-Son am wyliau mae pawb y dyddiau hyn, a diau y bydd Llundain yn hanner gwag cyn diwedd wythnos arall. TYMOR Y GWLAW.—A ydyw tymor y gwlaw wedi darfod ? Cwyno yn erwin am wlyban- iaeth yr hin mae masnachwyr y ddinas yr wythnosau hyn. YN Y SENEDD.—Rhoddwyd croesaw cynes i Mr. Roch, yr aelod newydd tros Benfro, ar ei ddyfodiad i'r Senedd ddechreu'r wythnos. Mae iddo air da ymhlith ei genedl ei hun. Ceir gweled a Iwydda i ennill clod y Sais eto. CANTORION LLWYDDIANUS.—Mae'n llawen- ydd gennym weled fod Mr. Percy Hughes, y perdonydd ieuanc, wedi llwyddo mor rhag- 1-1 orol yn yr Academy ar derfyn y tymor. Dydd Sadwrn diweddaf hysbyswyd ei fod wedi ennill yr Alexander Roller" Prize am ei ragoriaeth fel efrydydd y berdoneg yn ystod y flwyddyn. Pob llwydd iddo eto. Miss ELSIE OWEN. Mae'r foneddiges ieuanc hon-merch Mr. Luther Owen, Llan- elly-wedi cael clod uchel ar ddiwedd y tymor yn yr Academy, ac iddi hi y dyfarn- wyd y Dove Prize o ddeg gini yn ogystal a rhan o Charles Robe Prize am chwareu'r crwth. Mae Miss Owen wedi gwneud cynnydd mawr yn ei astudiaeth yn ddiwedd- ar, a dywed ei hathrawon fod iddi ddyfodol disglair ym myd y gan. COFFA MAIR ELUNED.—Mae ym mwriad Mr. a Mrs. D. Lloyd-George i gyflwyno ffenestr liwiedig yng nghapel Clapham Junction yn goffadwriaeth i'w hanwyl ferch, Mair Eluned, yr hon oedd yn aelod ffyddlon o'r eglwys honno. PREGETHU I ARGLWYDD.—Pregethu am yr Arglwydd mae'r gweinidogion Ymneillduol fel rheol, ond cafodd y Parch. J. Machreth Rees yr anrhydedd o bregethu i Arglwydd nos Sul diweddaf. Yr oedd Arglwydd Glantawe yn un o wrandawyr Radnor Street y noson hon, ac 'roedd yn amlwg ei fod yn mawr fwynhau y bregeth a'r gwasanaeth. Ar derfyn y gwasanaeth rhoddodd anerchiad i'r plant, a datganodd ei fwriad o fynychu'r capelau Cymreig yn ami pan yn y ddinas yma. GARDDWYL BOBLOGAIDD.—Heddyw rhydd y Cynghorwr Howell J. Williams, Ysw., ei ardd-wyl flynyddol i aelodau Cymdeithas Lenyddol Charing Cross. Gwahoddir yr holl aelodau a llu o gyfeillion Cymreig i'w balas yn y wlad, a disgwylir cynulliad mawr yno os caniata y tywydd. YR ARGLWYDD NEWYDD.—Mae teitl newydd Mr. Wynford Phillips, y diweddar aelod tros Sir Benfro, wedi gyrru rhai Cymry i ben- bleth eisoes. Baron St. David's yw ei enw yn Saesneg, a chyfeiriai un siaradwr ato mewn araith Gymraeg yr wythnos ddiweddaf fel Arglwydd Dewi Sant. Ni wyddai'r brawd, mae'n amlwg, ddim am Dyddewi. ARGLWYDDES TYDDEWI. Un o ferched athrylithgar y cylch seneddol Cymreig yw hon, a phan ddaeth ei phriod allan am y waith gyntaf tros Penfro, addefid mai i'w areithiau hi y llwyddodd i ennill y sedd. Yn wir, 'roedd rhai o wrthwynebwyr Mr. Wynford Phillips yn dweyd ar y pryd mai areithiau ei wraig oedd ef yn draddodi—ac yn eu traddodi yn sal iawn hefyd. Nid ydyw wedi ymddangos yn gyhoeddus rhyw
Y TIR I'R BOBL.
Os bydd unrhyw ardalwr yng Nghymru am sicrhau darn 0 dir, ni raid iddo ond gyrru y cais at y Cvngor Ptwyf, ac fe'i danfonir oddiyno i'r Cyngor Sirol, He y ca'r ystyriaeth lwyraf, ac 03 na lwydda y rhai hyn i sicrhau y tir ar delerau priodol, yna fe ddaw Mr. Ovy-ea ar uawaith i roddi ei farn ar yr achos, a deg i un na Iwydda i ddwyn y cyfan i lwyddiant Ond nid gwaith i'w wneud ar unwaith yw. Rhaid i'r man gynghorau weithio yn egniol a gofalu am beidio gwneud yr hawliau pre- sennol yn fath o benryddid i yrru ardaloedd yn benben. Gwir y gellir creu chwyldroad yn y wlad ond gosol y ddeddf mewn gweith- rediad priodol, a gall y chwyldroad hwn fod yn gyfnod o hafddydd i Gymru ond iddi weithredu yn unol ag ysbryd y ddeddf. A chredwn fod gan Fwrdd Amaethyddiaeth wr priodol at hyn o waith ym mherson Mr. John Owen. Deallwn fod ym mwriad Mr. Owen a'r teulu i symud ei breswylfod i Gymru, neu yn rhywle ar y gororau. Bydd yn chwith ei golli o ardal Stroud Green, lie y mae wedi byw tra yn Llundain. Ac yn y cylchoedd Cymreig gwelir ei eisieu yn fawr. Ar hyn o bryd cymer ran flaenllaw yng ngwaith yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae yn un o'r rhai mwyaf cysson ar y pwyllgor gweithiol. Mae yn wr selog gydag Urdd y Seiri Rhydd- ion, ac yn gefnogwr arddgar o'r. Clwb Cymreig.