Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

GOBAITH CYMRU.

Wedi'r Diwygiad.

News
Cite
Share

Wedi'r Diwygiad. Dengys adroddiadau blynyddol y prif enwadau yng Nghymru fod y trai crefyddol wedi dechreu ar ol y llanw mawr a welwyd ar adeg y Diwygiad dair blynedd yn ol. Yr oeddem yn disgwyl gweled ychydig leihad yn niter aelodau y gwahanol eglwysi, ond nid agos cymaint ag y dengys y ffigyrau sydd wedi eu eyhooddi y ddwy flynedd di- weddaf hyn. Mae'n eglur fod cryn lawer o ddifrawder wedi bod ynglyn a'r Diwygiad, fod y penrhyddid a ganiatawyd yn yr eglwysi ar y pryd wedi gwneud niwed aruthrol, ac fod y parch dyladwy i bethau crefyddol wedi cilio o'r tir. Unwaith mewn canrif y ceir y fath ymweliadau ysbrydol, a thrueni fod y cyfan yn cael ei droi yn fath o rialtwch crefyddol yn hytrach nac yn fudiad llesol i ddyrchafu moes a chymeriad yr addolwyr. Mae cyfrifoldeb aruthrol ar ysgwyddau ein harweinwyr crefyddol, ac i'r llacrwydd ddangoswyd ganddynt yn adeg y diwygiad y mae i ni briodoli y dirywiad anffortunus presennol sydd wedi dod tros ein gwlad. Jeremiah yr Anibynwyr. "Rhagolygon Crefydd yng Nghymru" oedd testun yr araith o'r gadair gan Lywydd Undeb yr Anibynwyr eleni, a golwg brudd- aidd iawn roddwyd ganddo ar gyflwr ein cenedl. Megys Jeremiah gynt a'r genedl Iddewig, cyhoeddodd alarnadau uwchben y diffygion canlynol ynglyn a chrefydd Cymru -Diffyg parch i bethau cysegredig Diryw- iad yn nghadwraeth y Saboth yn Nghymru; Diffyg defosiwn yr Ymneillduwyr pan yn nhy Dduw; Esgeulusdra cynyddol o Air Duw; Ysfa gynyddol am ddifyrwch; Cariad at y byd yn ei gyfoeth a'i wychder Cystadleuaeth afiach rhwng aelodau o'r un eglwys yn ami i ragori ar eu gilydd mewn gwell tai, gwisgoedd, &c., ac yn bennaf oil ynglyn a chynnydd Seisnigaeth yn ein gwlad. Y Bwgan Seisnig. Nid oes neb (meddai y Llywydd) a ddy- munai Oes y byd i'r iaith Gymraeg yn fwy na myfi, oblegid ystyriaf pe byddai i ni golli ein hiaith y byddai i ni golli llawer o'n neilltuolion cenedlaethol. Credaf mewn bod yn foesgar a charedig i Saeson pan y digr zn gwyddant fod yn bresennol yn ein cyfarfod- ydd arbennig ond nid wyf yn credu mewn gwthio yr hen iaith i'r gornel-ac yn ami y tu allan i'r drws-ar bob achlysur o'r fath. Ond er mor anwyl yw y Gymraeg gennym, ac er y credaf y bydd hi byw, ac yn cael ei siarad yn groew, wedi y cleddir cenedlaethau eto o ddaroganwyr ei thrancedigaeth, nis gellir anwybyddu y ffaith fod yr iaith Saes- neg yn dod i wasgu yn boenus ar ei thiriog- 0 ZD aethau mewn manau. Bu yr Efengyl yn cael ei phregethu yn Gymraeg yn Maesyfed flynyddau yn ol; ond ni cheir hynny yno yn awr, oddieithr yn Llandrindod am ychydig yn yr haf, pan y bydd yr ymwelwyr yno. Y mae Mynwy yn diodde yn drwm dan newid- iad yr iaith, ac nid ydyw Brycheiniog heb fod yn teimlo oddiwrth yr un peth. Y mae Penfro yn rhanedig er's amser maith ac am Forganwg, codi yn uwch y mae y llanw Seisnig ynddi hithau o flwyddyn i flwyddyn. Nid dyfodiaid Seisnig i'r gweithfeydd yn unig sydd i gyfrif am hyn, ond y ffaith ofidus fod llawer o'r plant sydd yn cael eu magu mewn teuluoedd Cymreig yn tyfu i fyny yn Saeson mewn iaith. Dichon nad yw yr eglwysi yn y Gogledd yn dioddef cymaint yn y mater hwn ag yn y De, oddieithr ar y gororau, ac yn y trefi. Gwedd ddifrifol ar y mater hwn yw, y ceir llaweroedd o blant a phobl ieuainc yn britho cynulleidfaoedd Cymreig heb fod yn deall ddigon o'r iaith i allu manteisio ar y pregethu mwyaf syml o'r Efengyl; ac y mae methu cyrraedd deall a chydwybod y cyfryw mewn oedran mor dyner a phwysig yn rhwym o ddyweyd yn ddrwg ar y dyfodol. Nid da gennyf yw gweled hen eglwysi Cymreigy bu y tan sanctaidd yn llosgi yn loew ar eu hallorau am dymor hir-yn gorfod newid yr iaith ond gwell hynny o lawer na'u gadael i ddi- hoeni a marw o ddiffyg iaith i gyfarfod ag anghenion ysbrydol yr oes sydd yn codi o'u cylch. Buasai yn well, er mwyn crefydd, fod ambell i eglwys Gymreig wedi mynd trosodd yn gynt-a hynny yn fwy crynno a chyfan, gan gario gyda hi ei harddull a'i hysbryd Cymreig. Y mae iaith yn bwysig, ond mae crefydd yn bwysicach ac os rhaid i ni newid ein hiaith, ni raid i ni newid ein crefydd. Yr A-xibyawyr Cymreig. Dyma grynhodeb o Ystadegau yr Anibyn- wyr a gyflwynwyd yn yr Undeb yn Rhos- llanerchrugog yr wythnos ddiweddaf gan y Parch. Eynon Lewis :—Rhif yr eisteddle- oedd, 683, 536 cynydd o 2,516 yr aelodau, 173,306—lleihad o 3,326; diaconiaid, 6,966 -cynydd o 28 aelodau yr Ysgol Sul, 161^298—lleihad o 6,027 athrawon, 17,157 —cynydd o 590. Y capelau, 366 ysgolion, 66-yn y Gogledd. Yn y De: Capelau, 717 ysgolion, 155. Llundain a Lerpwl a'r cylch, 30; ysgolion, 4. Yr holl eglwysi, 1,113-cynydd o 5; ysgolion, 227—cynydd o 6. Derbyniadau: Y,214,727 lis. 5§c.- cynydd o 9,1,559 18s. 5c Cyfanswm Y 4 ddyled, C331,201 Is. lclleihad o £6,492 lis. Gle. Gwerth yr holl eiddo, 11,602,673 63. 5,"c,-cynydd o £45,734 13s. 4c.