Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Waleh PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). mHE next Term begins in September, 1908. A JL number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, ;cio with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DA VIES, M.A., Registrar. COLEd Y GOQLEDD, BANQOR. (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU.) :0:- Prifathraw: Syr H. R. REICHEL, M.A., LL.D. -:0:- DECHREUA'R Tymor nesaf Medi 29ain, 1908. _L/ Paratoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrifysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac Arholiadau eraill. Rhoddir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering, Mae yn y Coleg adran nor. malaidd i athrawon elfennol a chanolraddol. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o P,40 i 210 y flwyddyn, yn nechreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriaethau Tate yn gyfyng- edig i Gymry, Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgyn aned yn Sir F6n neu Sir Gaer- narfon, Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon, ac Ysgoloriaeth Piercy i drigolion Sir Ddinbych a Sir Flint. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 15. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd. The Editor invites correspondence. All letters must be signed with the full name of the writer, and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee oj good faith.
GOBAITH CYMRU.
GOBAITH CYMRU. Budaugoliaeth ragorol gaed ym Mhenfro ddydd Iau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y gwleidyddwyr ym mhobman yn darogan gornest galed, ac yn lled-dybio mai gyda mwyafrif bychan yn unig y llwyddai Mr. Roch i gadw'r sedd. Pan hysbyswyd y canlyniadau ddydd Gwener, fod y mwyafrif cenedlaethol uwchlaw dwy fil o bleidleisiau, tarawyd y ddwyblaid a syndod; cefnogwyr Mr. Roch wrth weled y fath lwyddiant, a phleidwyr Mr. Lort-Williams wrth ddeall eu bod heb symud ond ychydig o gefnogwyr Mr. Wynford Philipps. Yr oedd yn naturiol i'r blaid Geidwadol deimlo yn siomedig. Rhaid addef fod pob peth o'u tu ar yr amgylchiad presennol. Yngngbyntaf, yr oedd Mr. Lort-Williams yn adnabyddus drwy'r Sir, wedi ymladd brwydr galed ar adeg yr etholiad ddiweddaf, ac yn siaradwr hyawdl. Nid dyn dieithr ydoedd, ac mae'r gwr sydd wedi ymladd brwydr unwaith, yn llawer mwy manteisiol na rhyw ddieithryn dibrofiad. O'r ochr arall, gwr ieuanc anadnabyddus-i raddau-oedd Mr. Roch. Mae'n wir ei fod wedi cymeryd rhan flaenllaw mewn man etholiadau yn y Sir, a'i fod yn siaradwr llithrig, eto dyna'r oil. Na, nid dyna'r oil, yr oedd un peth mawr o'i y du, sef y ffaith mai gwr ieuanc lleol ydoedd ac mae gweled Cymru yn dechreu anrhyd- eddu ei hieunctyd cartrefol yn arwydd er daioni-yn wir yn un o'r nodweddion mwyaf gobeithiol yn ei chymeriad. Wedi'r frwydr mae y naill blaid fel y llall yn ymholi i achos y fath fuddugoliaeth. Myn y Rhyddfrydwyr mai polisi'r Weinydd- iaeth sydd wrth wraidd y cyfan, ond fe wyr pawb sy'n adwaen Cymru yn amgen. Pe bae rhyw Ryddfrydwr rhonc o fasnachwr llwyddianus, neu hen yswain profedig wedi dod i'r maes prin y llwyddai i gadw'r sedd. Mae Cymru wedi syrffedu ar yr elfen Whig- aidd ymhlith yr aelodau, ond pan welodd ddyn ieuanc lleol, yn llawn sel a brwdfryd- edd dros Gymreigaeth a chenedlaetholdeb, enillodd galon y Sir ar unwaith ac nid syndod felly iddo gael ei chynrychioli yn y Senedd. Mae'n hen bryd i wers Penfro gael ei dysgu mewn etholaethau ereill. Mae gennym ni amryw o bobl barchus y gallem yn hawdd eu gadael i fyned i Dy'r Arglwyddi neu i ryw encilfa ddinod arall, a phan geir y cyfle, boed i ni, fel pobl, sicrhau y gwyr ieuainc hynny sydd wedi eu trwytho a'r ysbryd newydd, ysbryd a gred yn ddiysgog yn nyfodol llewyrchus ein gwlad pan yn cael ei rheoli gan ei phlant ei hun. Yn hyn y gorwedd gobaith Cymru'r dyfodol.
Wedi'r Diwygiad.
Wedi'r Diwygiad. Dengys adroddiadau blynyddol y prif enwadau yng Nghymru fod y trai crefyddol wedi dechreu ar ol y llanw mawr a welwyd ar adeg y Diwygiad dair blynedd yn ol. Yr oeddem yn disgwyl gweled ychydig leihad yn niter aelodau y gwahanol eglwysi, ond nid agos cymaint ag y dengys y ffigyrau sydd wedi eu eyhooddi y ddwy flynedd di- weddaf hyn. Mae'n eglur fod cryn lawer o ddifrawder wedi bod ynglyn a'r Diwygiad, fod y penrhyddid a ganiatawyd yn yr eglwysi ar y pryd wedi gwneud niwed aruthrol, ac fod y parch dyladwy i bethau crefyddol wedi cilio o'r tir. Unwaith mewn canrif y ceir y fath ymweliadau ysbrydol, a thrueni fod y cyfan yn cael ei droi yn fath o rialtwch crefyddol yn hytrach nac yn fudiad llesol i ddyrchafu moes a chymeriad yr addolwyr. Mae cyfrifoldeb aruthrol ar ysgwyddau ein harweinwyr crefyddol, ac i'r llacrwydd ddangoswyd ganddynt yn adeg y diwygiad y mae i ni briodoli y dirywiad anffortunus presennol sydd wedi dod tros ein gwlad. Jeremiah yr Anibynwyr. "Rhagolygon Crefydd yng Nghymru" oedd testun yr araith o'r gadair gan Lywydd Undeb yr Anibynwyr eleni, a golwg brudd- aidd iawn roddwyd ganddo ar gyflwr ein cenedl. Megys Jeremiah gynt a'r genedl Iddewig, cyhoeddodd alarnadau uwchben y diffygion canlynol ynglyn a chrefydd Cymru -Diffyg parch i bethau cysegredig Diryw- iad yn nghadwraeth y Saboth yn Nghymru; Diffyg defosiwn yr Ymneillduwyr pan yn nhy Dduw; Esgeulusdra cynyddol o Air Duw; Ysfa gynyddol am ddifyrwch; Cariad at y byd yn ei gyfoeth a'i wychder Cystadleuaeth afiach rhwng aelodau o'r un eglwys yn ami i ragori ar eu gilydd mewn gwell tai, gwisgoedd, &c., ac yn bennaf oil ynglyn a chynnydd Seisnigaeth yn ein gwlad. Y Bwgan Seisnig. Nid oes neb (meddai y Llywydd) a ddy- munai Oes y byd i'r iaith Gymraeg yn fwy na myfi, oblegid ystyriaf pe byddai i ni golli ein hiaith y byddai i ni golli llawer o'n neilltuolion cenedlaethol. Credaf mewn bod yn foesgar a charedig i Saeson pan y digr zn gwyddant fod yn bresennol yn ein cyfarfod- ydd arbennig ond nid wyf yn credu mewn gwthio yr hen iaith i'r gornel-ac yn ami y tu allan i'r drws-ar bob achlysur o'r fath. Ond er mor anwyl yw y Gymraeg gennym, ac er y credaf y bydd hi byw, ac yn cael ei siarad yn groew, wedi y cleddir cenedlaethau eto o ddaroganwyr ei thrancedigaeth, nis gellir anwybyddu y ffaith fod yr iaith Saes- neg yn dod i wasgu yn boenus ar ei thiriog- 0 ZD aethau mewn manau. Bu yr Efengyl yn cael ei phregethu yn Gymraeg yn Maesyfed flynyddau yn ol; ond ni cheir hynny yno yn awr, oddieithr yn Llandrindod am ychydig yn yr haf, pan y bydd yr ymwelwyr yno. Y mae Mynwy yn diodde yn drwm dan newid- iad yr iaith, ac nid ydyw Brycheiniog heb fod yn teimlo oddiwrth yr un peth. Y mae Penfro yn rhanedig er's amser maith ac am Forganwg, codi yn uwch y mae y llanw Seisnig ynddi hithau o flwyddyn i flwyddyn. Nid dyfodiaid Seisnig i'r gweithfeydd yn unig sydd i gyfrif am hyn, ond y ffaith ofidus fod llawer o'r plant sydd yn cael eu magu mewn teuluoedd Cymreig yn tyfu i fyny yn Saeson mewn iaith. Dichon nad yw yr eglwysi yn y Gogledd yn dioddef cymaint yn y mater hwn ag yn y De, oddieithr ar y gororau, ac yn y trefi. Gwedd ddifrifol ar y mater hwn yw, y ceir llaweroedd o blant a phobl ieuainc yn britho cynulleidfaoedd Cymreig heb fod yn deall ddigon o'r iaith i allu manteisio ar y pregethu mwyaf syml o'r Efengyl; ac y mae methu cyrraedd deall a chydwybod y cyfryw mewn oedran mor dyner a phwysig yn rhwym o ddyweyd yn ddrwg ar y dyfodol. Nid da gennyf yw gweled hen eglwysi Cymreigy bu y tan sanctaidd yn llosgi yn loew ar eu hallorau am dymor hir-yn gorfod newid yr iaith ond gwell hynny o lawer na'u gadael i ddi- hoeni a marw o ddiffyg iaith i gyfarfod ag anghenion ysbrydol yr oes sydd yn codi o'u cylch. Buasai yn well, er mwyn crefydd, fod ambell i eglwys Gymreig wedi mynd trosodd yn gynt-a hynny yn fwy crynno a chyfan, gan gario gyda hi ei harddull a'i hysbryd Cymreig. Y mae iaith yn bwysig, ond mae crefydd yn bwysicach ac os rhaid i ni newid ein hiaith, ni raid i ni newid ein crefydd. Yr A-xibyawyr Cymreig. Dyma grynhodeb o Ystadegau yr Anibyn- wyr a gyflwynwyd yn yr Undeb yn Rhos- llanerchrugog yr wythnos ddiweddaf gan y Parch. Eynon Lewis :—Rhif yr eisteddle- oedd, 683, 536 cynydd o 2,516 yr aelodau, 173,306—lleihad o 3,326; diaconiaid, 6,966 -cynydd o 28 aelodau yr Ysgol Sul, 161^298—lleihad o 6,027 athrawon, 17,157 —cynydd o 590. Y capelau, 366 ysgolion, 66-yn y Gogledd. Yn y De: Capelau, 717 ysgolion, 155. Llundain a Lerpwl a'r cylch, 30; ysgolion, 4. Yr holl eglwysi, 1,113-cynydd o 5; ysgolion, 227—cynydd o 6. Derbyniadau: Y,214,727 lis. 5§c.- cynydd o 9,1,559 18s. 5c Cyfanswm Y 4 ddyled, C331,201 Is. lclleihad o £6,492 lis. Gle. Gwerth yr holl eiddo, 11,602,673 63. 5,"c,-cynydd o £45,734 13s. 4c.