Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDB ALAW, Mus.Bac. MR. DAVID JENKINS.—Y mae'r cyfansodd- wr a'r cerddor adnabyddus hwn wedi bod yn siarad yn blaen" iawn yn y Rhos yn ddiweddar. Gwelais yr adroddiad mewn papur Seisnig-yr hwn sydd wedi pwys- leisio cyn hyn ar safle cerddoriaeth ymhlith ein cenedl. Siaradodd Mr. Jenkins ar awgrym a wnaed, sef y dylid penodi Pwyllgor Cyffred- inol Cerddorol ynglyn a'r Eisteddfodau. Yr oedd efe yn credu mai peth da iawn fuasai hynny, ond ofnai y tybiai y pwyllgor lleol fod hynny yn ormod o ymyriad a'u gwaith hwy. Yr oedd rhai pwyllgorau gweiniaid (meddai) elent at gorau i ofyn pa ddarnau y byddent yn foddlawn dod i ymgystadlu arnynt! Ni chanai corau ereill os na fyddai y darnau yn rhai oeddynt wedi eu hen faeddu Dyma," meddai Mr. Jenkins, "un o felldithion cystadJeuthau yng Nghymru Y chwaneger at hyn ddewisiad C, darnau gwael o'r eiddo cerddorion lleol, a chedwir safon cystadleuol yn isel." Dywed fod gweitbiau goreu cyfansoddwyr "diweddar" yn anhysbys, ac fed darnau goreu cyfansoddwyr Oymru yn cael eu cadw o'r neilldu. Y mae feUy yma heddyw," meddai, ynglyn a'r brif gystadleuaeth, a'r un i Gorau Meibion, canys y mae yr olaf yn un o'm darnau o waith fy hun—a gyfan- soddwyd bum-mlynedd-ar-hugain yn ol. Byddai yn ddrwg gennyf os na chyfan- soddais rywbeth lawer iawn rhagorach erbyn hyfi! Y mae y cynlliin preseanol yn ein hamddifadu o gerddoriaeth oreu Lloegr a Chymru." Dylai geiriau Mr. Jenkins gael eu har- graphu ar gardiau, a dylai y cynghor gael sylw ac yatyriaeth pob pwyllgor cerddorol Cymreig o fewn yr ugain mlynedd nesaf. Tebyg, felly, y byddai y pwyllgorau yn ddigon chwaethus i wneud detholiadau teilwng. Gresyn fod y Sais yn cael cyfleus- terau i gyfeirio at safon isel cerddoriaeth gorawl yn ein mysg Y mae y feddygin- iaeth yn ein Haw ni ein hunain Wrth alw sylw at y mater hwn, y mae y gwyn yn erbyn esgeuluso cerddoriaeth deilwng yn un hen iawn-hyd yn oed yn Lloegr, ac, fel y mae yn resyn gorfod dweyd, ynglyn a'r prif Eglwysi—lie y disgwylid i'r organwyr roddi prawf o'u chwaeth goeth. Tystiolaeth Samuel Wesley, dros bedwar ugain mlynedd yn ol, ydoedd y cenid darnau gwael yn y gwasanaethau, ac, meddai, Henry Purcell's immortal service in B mat is very, very rarely performed at St. Paul's, Westminster Abbey, or at the Chapel Uoyal; but the harmless chords of King and Kent are in constant request all over England in the cathedrals." Da, felly, 'fyddai i'r Saeson gofio y gallai safon eu Cerddoriaeth Gysegredig hwythau fod yn uwch. Buasai yn ucbel iawn heddyw pe buasai dylanwad gwr fel Wesley wedi ei deimlo yn fwy byw a chyffredinol. « EISTEDDFOD MUNSTER PARK.—Y mae y Saeson cysylltiedig a'r "achos" yn y lie hwn wedi dwyn allan restr o destynau i gystadlu arnynt yn yr ail Eisteddfod, a Rvnhelir nos Fercher a Iau, Tachwedd yr lleg a'r 12fed. Y prif ddarnau ydynt: — Corau Cymysg: The Lord is my Shepherd (Mac- farren) gwobr £6 Emyn-don, "Lead, kindly lisrht" (Sullivan) gwobr 13 3s. "The night is departing" (Men- delssohn) gwobr £15 Corau Meibion The Pilgrims (Dr. Parry) gwobr C5 Caray, l'lant: "I will sing of mercy" (Vincent) gwobr 12 28. Ceir yn y rhestr ddarnau i Bartion, ac Unawdau, &c. Y mae y detholiadau yn rhai chwaethus, a gobeithio y bydd i'r Cymry benderfynu cystadlu. Y maent yn sicr o ddod oddiyno ar eu mantais. Yr ysgrifennydd ydyw y Cymro aiddgar, Mr. C. Evans, 28, Cloncurry Street, Fulham, S.W. Miss KATE CORDELIA RHYS.- Y mae hi. gyda'i dull hapus o ganu Penillion, yn dod yn fwy i'r amlwg o hyd-a 'does ryfedd am hynny, canys medd lais hyfryd, penillioi-i tarawiadol a'r ddawn i'w cyflwyno. Ni chafodd hyfforddiant gerddorol gan neb ond ei mam, ond gwyr Cordelia Rhys beth ydyw canu da Ymhlith ei lliaws gyhoeddiad- au" ceir honno yn yr Eisteddfod Genedl- aethol, Llangollen, eleni. Bydd yn ymweled a'r Unol Dalaethau y flwyddyn nesaf. « HEN GERDDORION CYMRU. ROSSER BEYNON (Asaph Glan Taf).— Ganwyd ef yn y flwyddyn 1811 yng Nglyn Nedd, Sir Forganwg. Yr oedd y tenlu oil yn gantorion nodedig. Pobl gyffredin, di-ddysg, ydoedd ei rieni; ac yr oedd yr amgylchiadau y cyfryw fel nas cafodd ein gwrthddrych ond ychydig iawn o addysg yn ei ieuenctyd. Yr oedd yn gweithio pan yn 8 mlwydd oed. Dywedir mai hunan-addysgol ydoedd mewn cerddoriaeth. Gweithiau y dydd a chyda'r nos elai i ysgol y nos, neu arall, ac wedi hynny, hyd oriau man y boreu, byddai yn ei ystafell yn astudio cerddoriaeth. Cadwodd ysgol nos gerddorol am amryw dymorau, a byddai tuag ugain yn dod o Dowlais i restr y Cwar, Merthyr, lie yr oedd Rosser Beynon yn byw, er cael gwersi cerddorol. Yn eu plith yr oedd Robert James, Abraham Bowen, Dowlais Dan Price, Gwernllwyn, Dowlais [A'i tad Dan Price, Llundain, ydoedd ?la David Francis, Treforis. Yr oedd ganddo, hefyd, ddos- bartbau yn Caerdydd a lleoedd ereill. Yr oedd yn aelod yng nghapel Soar, Merthyr, am ran o'i oes, ac arweiniodd y canu yno am flynyddau lawer. Dywedir ddarfod iddo wella y canu yn fawr yno, a gweithiodd yn erbyn anhawsterau, i ddwyn i mewn i'r gwasanaeth donau gwell, mwy chwaethus. nag oedd mewn arferiad y pryd hynny. Yn y diwedd daeth canu capel Soar i gryn fri. Rhwng 1845 a 1848 ymddangosodd ei lyfr, Telyn Seion. Ceid ynddo 130 o donau, 22ain o Anthemau, cydganau, &c. Yr oedd ynddo ryw ugain o ddarnau o waith y Golygydd. Wele ddyfyniad o'i Ragymadrodd i'r llyfr Buasai yn llawer mwy bodd- haol gan ddosbarth lliosog o'n cantorion, pe cyhoeddasid nifer o'r tonau gwylltion afreolaidd hynny sydd mewn arferiad, ysywaeth, mewn llawer parth o'r Dywysog- aeth, y rhai lygrant chwaeth gerdd- orol y sawl a ymarferant a hwy, i raddau helaeth, fel nad ydyw y tonau cynulleidfaol goreu ond tra annerbyniol gan lawer o honynt." Dengys hyn ar unwaith fod yma ragfiaen- ydd teilwng i Ieuan Gwyllt, Llyfr Tonau yr hwn ymddangosodd ryw ddeng mlynedd ar ol hynny ac er nad oedd Ieuan yn byw yn Merthyr rhwng 1845-1848, y mae yn bur bosibl ei fod wedi cyfnewid syniadau gyda Mr. Beynon. Darllenaf nad ydoedd casgliad Mr. Beynon y cyfryw ag a foddlonai chwaeth yr oes hon, tra y mae casgliad Ieuan Gwyllt gyfuwch a hi. Ceir yn y cerddor hwn ei fod yn fwy o Arweinydd Corawl na'r un o'r cerddorion wyf eto wedi dodi eu hanes yn y golofn hon. Ystyrir mai efe ydoedd tad holl arweinydd- ion Merthyr a'r cylchoedd. Cafodd gynnyg deugain punt y flwyddyn, ei dy a'i dan, ynghyda gwaith cyson, os elai i Sir Fynwy i arwain y canu. Yr oedd yn feirniad cerddorol rhagorol. Enillodd J. Ambrose Lloyd wobr am gyfan- soddi, o dan feirniadaeth Rosser Beynon, a sicr ddarfod i lwyddiant mawr dilynol Ambrose Lloyd gadarnhau cywirdeb barn y beirniad uchod, a pheri llawenydd iddo ef, fel ag i Gymru oil. Bu farw yn Ionawr 1876, a chladdwyd ef ym mynwent Cefncoed-y-Cymer. Yn haf 1876, cynhaliwyd Eisteddfod Goffadwriaethol iddo yn y Drill Hall, Merthyr, ac aeth yr elw i drysorfa er codi cofadail iddo. Yn yr Eisteddfod enillodd Mr. Emlyn Evans y wobr am gyfansoddi Anthem Goffa- dwriaethol iddo. Wele bennill sydd yn argraffedig ar y gofadail:— Yma yn isel mae un o weision Miwsig a'i mawredd ymysg y meirwon Cenad dirwest ac Athraw Cantorion, Hunodd yn Ngwalia dan nawdd angylion, Ac yn Iesu cysga'i noson—a'i ffydd Roes aur-obenydd i Rosser Beynon.

Advertising