Co-operation enwadol. Os oes angen am engraifft o lwyddiant y mudiad cydweidredol co-opeia live ni raid myned ym mhellach nag i'r Bookrooms ynglyn a'r enwadau Cymreig. Mae y rhai hyn yn talu yn rhagorol i'r enwad am eu sefydlu. Mae elw Llyfrfa'r Methodistiaid yn filoedd o bunnau bob blwyddyn, ac yn ol adroddiad blynyddol yr Anibynwyr, gwneir elw dirfawr oddiwrth y Caniedydd a ddefnyddir gan yr enwad. Yr un yw'r hanes gyda'r Bedyddwyr; ac ar ol profi y gellir gwneud elw mor hawdd ynglyn a'r fasnach lyfrau paham nas eangir y maes ? Mae digon o adrannau ereill ym myd mas- nach y gellid yn hawdd gwneud elw oddi- wrthynt, a'r hyn sy'n pery syndod i bob awdwr yw paham y rhaid i'r enwadau ymyrryd a'u masnach hwy, rhagor na mas- nach pobl ereill ? Yr ateb cyffredin yw nad yw'r enwadau yn cyhoeddi dim ond a fo o werth neillduol i'r enwad-megys Llyfrau hymnau, esponiadau, llawlyfrau, a'r cyffelyb. Ac mae'r ffaith eu bod yn llyfrau'r enwad yn rhoddi rhyw fath o hawl i'r bobl i fasnachu ynddynt ar y Sabboth! Cyhoeddiadau'r Enwad. Os dygir allan unrhyw gyhoeddiad tan nawdd yr enwad rhydd hyn fath o drwydded iddo i gael ei werthu ar y Sul; ond naw wfft i'r gwr a feiddia gynnyg cyhoeddiad o enwad arall, neu waith anenwadol ar yr un adeg. Gwyddom am gapelau yn Llundain lie y caniateir gwerthu'r Tyst, ond byddai'n heresi i werthu'r Drysorfa neu y caniateid gwer- thu'r Golenad, tra byddai'n bechod i gynnyg y CELT yn ei gysgod. A'r gwrthwynebwyr mwyaf yw'r llaethwyr eu hunain sy'n mas- nachu yn egniol ddigon tan hanner ddydd Sul! Mae'r Anibynwyr, drwy sefydlu Llyfrfa newydd yn Abertawe, yn dechreu cangen newydd o waith, a dengys adroddiad y flwyddyn gyntaf fod y rhagolygon yn bur addawol. Llenyddiaeth yr Enwad. Yn anffodus, llenyddiaeth gwneud yw llenyddiaeth yr enwad bob amser. Llyfrau wedi eu paratoi to order ydynt, fel rheol, ac fel pob math o waith llenyddol sydd yn cael ei wneud er mwyn elw yn unig, nid oes gwerth parhaol ynddo. Yn wir, ni cheir fod gan y Methodistiaid na'r Anibynwyr ond gweithiau hynod o ail-raddol yn eu rhestri. Rhyw fan lawlyfrau ydynt gan mwyaf, a'r rhai hynny wedi eu troi allan yn ddigon sal hefyd. Gan fod y gwahanol Bookrooms yma yn gwneud y fath elw, onid doeth fyddai i'r pwyllgor ynglyn a hwy i sicrhau rhyw waith safonol bob blwyddyn a'i gyhoeddi er lies eu darllenwyr a'u cefnogwyr? Gormod o awydd i wneud pres sydd wrth wraidd y mudiadau cydweithredol enwadol yma, ac nid awydd am fod o les i'r rhaid sydd yn eu cefnogi. Newyddiadur i' Enwad. Dyma hen fater sydd wedi bod o flaen y ddau enwad-Methodistiaid ac Anibynwyr -ers talm. Mae gan y blaenaf y Goleuad, fel newyddiadur hanner swyddogol, ond teimla rhai o'r brodyr, nad ydyw yn rhoddi'r sylw priodol i brif faterion yr enwad, ac yn enwedig ddim yn talu digon o sylw i brif bersonau y pulpud. Y mae'r Tyst yn fath o newyddiadur cyffelyb gan yr Anibynwyr, ond eiddo personol yw. y naill a'r Hall, a chred rhai o'r bobl anfoddog y buasai gwell mantais ganddynt hwy i gael eu henwau i fewn yn amlach yn y papur pe buasent hwy yn cael rhedeg papur enwadol! Ow'r fath ffoledd! Dyna'r hanes erioed. Cred rhai pobl nas gall neb olygu papur ond hwynt- hwy, a phan roddir cyfle iddynt, wfft i'r fath gawlwaith wneir ganddynt. Angen pennaf Cymru heddyw yw rhoddi gwell cefnogaeth i'r cyhoeddiadau sydd ar y maes yn barod, ac nid rhedeg cylchgronau newydd, y rhai sy'n marw yn ami yn eu babandod o ddiffyg cefnogaeth. Eisteddfod Amlwch. Mae'n debyg mai yn Amlwch y cynhelir Eisteddfod fawr Mon yn 1909 a chan mai lie cydmarol dylawd yw Amlwch, mae'r pwyllgor yno yn gwneud apel at bawb o garedigion Mon a'r Eisteddfod am anfon tanysgrifiadau er cadw i fynu'r hen wyl flynyddol yn ei hurddas a'i defnyddioldeb. Dywed Mr. Lewis Hughes, ysgrifennydd yr Eisteddfod, mai Tref fechan neullduedig ar y goreu ydyw Amlwch, ar dueddau culfor Ynys Manaw, ac wedi gweled dyddiau gwell. Mae yr anturiaeth yn fawr iddynt, ond nid mwy nag y bwriada y cyfeillion Ileol ei wneud yn llwyddiant. I gadw teilyngdod uchel yr Eisteddfod, bydd y treuliau oddeutu £ 500. I amlwch, fel y mae, anmhosibl yw hyn, ond y mae iddi feibion a merched, caredigion a chymwynaswyr, ym mhell ac yn agos, dros Gymru, Lloegr, a Llanrwst, ie, hyd yn oed i dueddau Aberdaron. Y mae gennym o Foelfra, Amlwch, a Chemaes, gannoedd o Drafnidwyr a morwyr nad oes eu hamgen ar eigion ddyfroedd y moroedd mawrion. Llawer o honynt yn ddynion o safleoedd a moddion sylweddol, a'u cariad at Hen Wlad eu genedigaeth fel cariad gwragedd. A gawn ni, yn enw, a thros hen dreflan eu mebyd, wneud apel gyffredinol a chalonog at ein holl Garenydd a chymrodyr, ym mhob man, fel y Llef o Macedonia, Tyred drosodd i'n cymhorth ni." Hawdd iawn y gallai brodorion ardaloedd Amlwch, sydd ar wasgar yn Llundain, a mannau ereill, wneud eu hunain yn genhadon drosom yn awr, Er mwyn yr hen amser gynt," i ddiogelu Eisteddfod Amlwch rhag profedig- aeth i'w haneswyr." Diau y caiff yr apel hwn wrandawiad parod gan y Monwyson yn Llundain, ac y gwnant eu goreu er cefnogi plant Amlwch yn yr anturiaeth hon.
PASIO PENDERFYNIADAU. Nis gall yr Anibynwyr adael llonydd i Comisiwn Crefydd Cymru, a bu raid i'r enwad yn Sir Gaernarfon gael Iluchio pelen arall at y Barnwr Vaughan Williams ychydig ddyddiau yn ol:— Cynnygiodd y Parch. Glynn Williams, Rhoslan, benderfyniad maith i'r perwyl nad oedd y Ddir- prwyaeth wedi gwneud ei gwaith fel y dylasai, ac na roddid chwareu teg i Ymneillduaeth fel y gwnaed ag Eglwysyddiaeth yn y dystiolaeth, ac mai methiant mawr ydoedd ym mhob modd. Condemniai y Parch. W. J. Nicholson, yr hwn oedd wedi ei nodi i gefnogi, rai rhanau o'r pender- fyniad. Nid gwir oedd mai methiant oedd gwaith yr aelodau Ymneillduol a roddodd eu lleoedd i fyny na'r rhai oedd yn aros, beth bynnag a ddywedid am y Cadeirydd, a'i ran ef yn y gwaith. Buasai ef yn hoffi gwneud rhai diwygiadau yn ngeiriad y pender- fyniad cyn ei basio, er ei fod yn barod i gefnogi ysbryd y penderfyniad (chwerthin). Cynygiodd Mr. ilichard Roberts, Pwllheli, well- iant eu bod yn condemnio y Llywodraeth am benodi y Ddirprwyaeth. Galwodd y Parch. Ellis Jones, Bangor, sylw at anghysondeb y Parch. W. J. Nicholson yn beirniadu y penderfyniad er yn ei gefnogi! Cynnygiai iddynt symud at y mater nesaf. Dyna yr unig gwrs posibl ac anrhydeddus iddynt. Dadleuai y Parch. W. J. Nicholson nad oedd y Llywydd mewn trefn, ac fod cynnyg o'i flaen i ddiwygio y penderfyniad, ond nad oedd wedi ei roddi i fyny." Wedi pleidleisio unwaith neu ddwy mewn ysbryd da pasiwyd trwy fwyafrif mawr i fyn'd at y mater nesaf, ac mae'n hen bryd myn'd at y mater nesaf" o hyn allan, a gadael y Comisiwn yn llonydd.
Am Gymry Llundain. Y COR MAWR.—Gwelir fod cor mawr Mr. Merlin Morgan yn bwriadu rhoddi cyngerdd arbennig nos Iau nesaf. Rhodder iddo'r gefnogaeth a haedda. I GAERDYDD.—Mae'r cor yn myned i gys- tadlu ar wyl y bane yng Nghaerdydd, a deallwn fod rhagolygon tra addawol yno am Eisteddfod hynod o lewyrchus. Y LLEISIAU.-Beth bynnag fydd ei dynged yng ngwyl y Deheudir nis gall neb sydd wedi cael y fraint o'i glywed yn ymarfer lai na chanmol y defnydd sydd ynddo. Mae Merlin wedi llwyddo i gael torf rhagorol o leiswyr a'r rhai hyn yn berffaith unol. Gydag ychydig o ymarfer bydd y cor yn sicr o wneud enw campus iddo ei hun. EISTEDDFOD 1909.—Hwn, mae'n debyg. fydd sylfaen y cor mawr sydd i roddi per- fformiadau yn Llundain ar adeg yr Eistedd- fod Genedlaethol. Bwriedir cael nifer o gyngerddau yr adeg honno, ac ond cael cor teilwng o Gymry Llundain ni fydd eisieu i'r Sais gwyno am ddirywiad ein canu corawl. YR YSBRYD EISTEDDFODOL.-Er fod yr wyl Genedlaethol i ddod yma ganol y flwyddyn nesaf, nid yw'r ymweliad yn myned i rwys tro dim ar y mSn eisteddfodau gynhelir ynglyn a'r capelau Cymreig. Gwelwn fod pobl Hammersmith a City Road eisoes ar y maes yn trefnu eu rhagleni, a diau y bydd: llawer o honynt yn fanau addas i gael ym- arferiad gogyfer a'r brif wyl ei hun. TESTYNAU 1909. Deallwn fod rhestr- testynau 1909 wedi eu cwblhau i'r wasg, ac yr oedd disgwyliad y buasai allan cyn dechreu'r mis hwn. Tipyn yn araf mae'r argraffydd yn gwneud ei waith, ond gellir ei disgwyl yn gyflawn o hyn i bythefnos bellach. Ac mae'n hen bryd iddi ddod hefyd. GWIBDAITH CYMRY'R DWYRAIN. Dydd Mercher, Gorffennaf 8fed, oedd diwrnod mawr Cymry'r East End. Dyma ddydd y wibdaith flynyddol i Epping Forest, ond trodd yr hin yn eithriadol o anffafriol, a chaed gwlaw ac anghysur drwy'r prydnawn. Er hyn oil aeth tua chwe chant o dan ofal y Cenhadon, ac yr oedd neuadd eang a chyf- leus wedi ei sicrhau er arlwyo y byrddart ynddynt, a mwynhaodd pawb y wledd foethus oedd wedi ei pharatoi. Ar ol y te caed cyfarfod diddan, tan lywyddiaeth Mr. B. Rees, a thraddodwyd anerchiadau gan y Parchn. G. H. Havard (Wilton), D. C. Jones (Boro'), H. Watkins (yr Eglwys Gymraeg), W. Edmund Evans, a Mri. Price, Paddington. Datganodd Miss Price, Shirland Road Miss Maggie Evans, R.A.M., a Miss James, R.A.M., Boro', ac ereill, er mawr foddhad y dorf. Gwnaed cyfeiriadau at y colledion yn ystod y blynyddau, anhawsterau y gwaith, a ffydd- londeb y cenhadon. Teimlir yn fawr drwy fod y sefyllfa arianol yn dioddef drwy far- wolaeth hen danysgrifwyr, a neb yn llanw y bylchau. Y mae ugain mlynedd o brofiad ym mhlith y cenhadon yn rhoddi maintais i farn, ac ni bu un amser yn galw am fwy o ffyddlondeb yn y gwaith mewn llafur a.
there, for if he was there turned out for drunkenness, he must beg his bread, and never be able to see the old country." Ac ym mhellach ym mlaen, ar ol cyfeirio at ei laniad ef a'i wraig yn yr America, medd Lewis Morris, Dyna lie bydd yfed 4 rum' rhwng y wraig ac yntau." Gwnaeth y brodyr hyn lawer iawn tros Gymdeithas y Cymmrodorion, gan gadw'r ysbryd Cymreig o'i mewn pan oedd yr elfen Seisnig yn ceisio ei difetha. Dywed Lewis yn un o'i lythyrau nad oedd ond ychydig o'r aelodau yn medru ysgrifennu a darllen Cym- raeg ond eu bod oil o chwaeth lenorol dda. Mae'r un peth yn wir am dani heddyw er hynny, mae'n haeddu ein parch a'n hed- mygedd ar ol byw am gant a hanner o flynyddau.