Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. Miss GWLADYS ROBERTS.—Dywed papur Seisnig am dani ei bod yn dangos llais bendigedig (a glorious voice) yn ei datganiad o A Summer Night." Dylasai fod wedi dweyd rhywbeth newydd am y Gymraes hon. Y mae ei chenedl yn gwybod er's talm am ei Uais a'i gallu, a dylai holl Loegr wybod hynny hefyd erbyn hyn. Miss LLEWELA DAYIES.—Y mae gwr y golofn hon yn llawenychu yn llwyddiant ei chyngerdd hi yn Stafford House. Y dystiol- aeth ydyw ddarfod iddi roddi boddhad mawr i'r gwrandawyr yn ei chwareuad, ar y Ber- doneg, o drefniant Liszt o Spinnelied" (Wagner) a Liebestraum," a'r Ballade yn A fflat" (Chopin), &c. Bu gwybodaeth y gerddores hon o gryn wasanaeth i Bwyll- gor Eisteddfod 1909, ac y mae wedi bod yn ifyddlawn iawn yn mynychu y cyfarfodydd. Os dywed Syr Marchant fod y rhestr yn un mor ragorol, tybed fod yr adran gerddorol ynddi wedi apelio ato? 0 brin, hwyrach, canys wrth gofio, Bardd, a Beirniad y Beirdd ydyw y Marchog dawnus. Miss LAURA EVANs.-Er fod y gantores Gymreig hon wedi dod allan ymhlith ei chenedl ei hun er's talm, ni ddaeth "allan yn ffurfiol ger bron y Saeson hyd nos Iau, y 9fed cyfisol, pryd y rhoddodd Recital yn y Bechstein Hall. Yr oedd gyda hi ei hath- raw adnabyddus, Mr. Edward lies, a Mr. S. Liddle yn cyfeilio. Nid oes angen dodi rhestr caneuon Miss Evans yma—deunaw mewn rhif, heblaw iddi gymeryd rhan mewn dwy Ddwyawd gyda Mr. lies. Gwyr darllenwyr y CELT fy marn am dani, fel na raid ond dweyd ei bod o hyd yn cadw at y safon uchel y mae wedi ei osod o'i blaen. 0 ran purdeb a disglaer- deb llais y mae yn rhagorol; hefyd y mae yn cario argyhoeddiad yn yr oil a wna. Mewn gair, y mae y petli anhebgorol hwnnw yn ei chanu-temperament. Yn y cyngerdd hwn profodd Miss Evans fod ganddi y gallu i gyflwyno'r ballad yn ei symlder yn ogystal a'r Alawon trymach- operataidd. Cafodd dderbyniad cynes a chymeradwyaeth y dorf gyda'i holt ymdrech- ion. Y syndod yw iddi orphen rhestr ei chaneuon yn well nag y dechreuodd Fel y mwyafrif o gantorion, yr oedd yn amlwg grynedig ar y dechreu; ac yr oedd yr ym- wybyddiaeth o bwysigrwydd yr amgylchiad yn naturiol helpu yn y cyfeiriad hwn ond fel yr oedd yn cynefino a'r dorf ac yn dod yn ymwybodol o'u cydymdeimlad, yr oedd yn meddiannu ei hun, a'r don yn dod yn sefydlog. Synnais weled rai o sylwadau y wasg Seisnig ar ei chanu. Cof gennyf am gyngerdd Miss Teifi Davies yn yr un ystafell y llynedd. Yr oedd y beirniaid Seisnig yn eistedd yn rhes odditan yr oriel wrth y drws, ac yn ymddangos fel pe yn cymharu nodiadau ond y gwaetbaf ydoedd eu, bod wedi cilio o'r ystafell cyn i banner y cyngerdd fyned heibio. Bore' trannoeth yr oedd adroddiad o'r gweithrediadau yn y papurau Yn y sylwadau ar ganu Miss Evans y mae yr oil wedi cytuno fod y canu yn dangos ol gormod o gryndod. Ai tybed ddarfod iddynt gofio fod gwahaniaeth rhwng y vibrant a'r vibrato voice ? Fod yr olaf i'w gondemnio nid oes amheuaeth ond y mae y blaenaf i'w gymeradwyo. Hyd y sylwais i-ac yr wyf wedi clywed Miss Evans lawer gwaith-ni ddarfu imi erioed sylwi ei bod yn jmarfer y vibrato. Wele rai o sylwadau y Saeson ar ei chanu:— Y Times: With a fresh soprano voice, a vivacious manner, and an instructive feeling for the character of her songs, this young singer was able to delight an audience at Bechstein Hall. Y Telegratit: She is a young soprano with a really magnificent voice and great natural ability. Morning Post: Her soprano voice has power and pleasant quality her attack and intonation are just, and artistic endeavour and training are evident in all that she does, with one important exception-her indul- gence in the pernicious vibrato habit. Standard Miss Laura Evans is a born singer She has been gifted by nature with a beautiful voice and inborn tempera- ment The material is there all the same, and, equipped as she is, Miss Evans may aspire to anything if patience is mingled with ambition. Her command of expression for one of her years is wonderful. Star: She has a very rich and powerful voice Her production is good, except for a slight tremolo, which, however, wore off as the evening progressed Liddle's How lovely are Thy dwellings showed her to have the makings of Oratorio singer. Os yw barn y Star yn gywir ynghylch y tremolo, y mae y lleill yn anghywir Ond y mae yr oil o'r beirniaid, fel y gwelir, yn cytuno fod yma gantores a dyfodol sicr iddi —can tores y mae gan y Cymry reswm dros ymfalchio ynddi, a lie i ddisgwyl llawer iawn oddiwrthi. CANU PLANT.—Dywed Mr. R. J. Pitcher, yn y Mother's Magazine, fod yn dda cymhell plant i ganu pan yn bur ieuanc. Dilyn Natur ydyw hyn, ac nid ei gor-drethu. Y mae yn bwysig, modd bynnag, i ofalu am ddefnyddio y "lIais canol." Dylid ar bob cyfrif ochel nodau pur uchel a phur isel. Dylai y cynnyrchiad" hefyd fod yn un rhwydd a rhydd, a gofaler na fydd gwaeddi. Gyda bechgyn ni ddylid defnyddio llais y frest'uwchlaw B fflat (trydedd linell erwydd y treble), ac byd yn oed y pryd hynny ni ddylai t6n y frest (chest tone) fod yn rhy amlwg (inarked). Nis goddef rhai awdur- dodau i fechgyn gynnyrchu llais y frest o gwbl, gan ddewis llais y pen yn unig; ond gan fod yn naturiol iddynt gynnyrchu y math cyntaf y mae yn ddiogel dilyn natur. Dull da ydyw gwneud i fechgyn ymarfer y graddau (scales) oddifyny i lawr. Fel hyn gochelir defnyddio rhestr y frest at y nodau uwchaf. Da ymarfer plant ar sillau megys Mah a Pah, yn hytrach na llafariaid pur. O'r llafariaid, goreu ydyw yr "oo" a'r Oh," gan eu bod yn tueddu i ddod a'r don ymlaen" (forward), a thrwyddynt gochelir jorcio y llais' a gwaeddi. Meddylier am hyn. HEN GERDDORION CYMREIG. ROBERT DAVIES (Cyndeyrn).—Ychydig, fe ddichon, o gerddorion ieuanc a wyddant am Cyndeyrn," er nad oes ond 41ain o flyn- yddoedd er pan y bu farw. Fel y dengys y Ifeithiau canlynol, yr oedd yn gerddor galluog a llwyddiannus yn ei ddydd. Yn ol a ddarllenais, cerddor hunan-addysgol ydoedd, gan mwyaf; ond drwy astudiaeth ddyfal a thuedd naturiol gref tuag at gerdd- ddoriaeth, daeth yn gyfarwyddwx cerddorol i laweroedd. Ganwyd ef yn Henllan, Sir Ddinbych, Mehefin yr 16eg, 1814. Paentiwr a phlwm- wr ydoedd o ran galwedigaeth, a gweithiai yn Llanelwy. Pan yn 20ain mlwydd oed symudodd i Fangor. Yno y daeth i sylw fel cantor a hyfforddwr cerddorol. Penod- wyd ef hefyd yn arweinydd y canu yng nghapel y Wesleyaid yno. Yn y flwyddyn 1840 aeth yn ol i Lanelwy ac ymunodd a Chor yr EgLwys Gadeiriol, ym mha un y canai alto. Llanwodd y swydd hon am tua 27ain o flynyddau. Tra yma parhaodd i astudio cerddoriaeth, a threuliodd lawer iawn o'i oriau hamddenol i fyned oddiamgylch i hyfforddi corau Eglwysig. Efe sefydlodd y Glee Society a'r Philarmonic Society, rhai fuont yn bur llwyddianus. Anrhegwyd ef ag Arweinffon (baton) werthfawr fel arwydd o barch a chydnabyddiaeth o'i lafur. Ar sefydliad Cylchwyl Gerddorol Eglwysi Esgobaeth Llanelwy, efe ddewiswyd yn Arweinydd i'r gylchwyl gyntaf. Yn Eisteddfod Bethesda, 1852, enillodd y brif wobr a thlws am yr anthem, "Mawl a'th erys di yn Seion." Y pryd hyn y def- nyddiodd y ffug-enw "Cyndeyrn." Dywed y feirniadaeth fod yr awdwr yn berffaith feistr ar ei waith, gyda'r holl elfenau han- fodol wrth ei law ac at ei orchymyn." Gwelais y darn hwn mewn llyfr o Gyfan- soddiadau Buddugol Eisteddfod Bethesda," ond nid wyf yn cofio dim am dano neu buasai yn bleser gennyf fanylu arno yma. Am Anthem arall fuddugol o'i eiddo, sef "Mor hawddgar yw Dy bebyll," dywed y beirniad, y Parch. E. Stephen, "Tany- marian "Dyma gampwaith na fyddai yn gywilydd i'r un o gampwyr y Cyfandir ei arddel Y mae pob theme, bar, a tharawiad o'r gerddoriaeth yu gwisgo yr hawddgarwch penaf. Nid wyf yn meddwl y buasai peraidd Ganiedydd Israel yn gallu rhoi allan deimladau blysig ac hiraethus ei enaid yn fwy rhagorol nag y darlunia Pererin' hwynt." Yn 1853 cyfansoddodd Anthem Angladdol ar "I heard a voice from heaven," er cof am Mrs. Hicks Owen, chwaer Mrs. Hemans. Yn 1860 enillodd y wobr am Anthem Crist ein Pasc ni," yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Y beirniaid oeddynt J. Ambrose Lloyd ac Owain Alaw. Cvhoeddwyd hon yn Greal y Corau, Mehefin, 1861. Cyfausodd- wyd ganddo ddarnau ereill, ac ymddangos- odd rhai yn y Cerddor Cymreig. Ei donau mwyaf adnabyddus ydynt St. Kentigern," "Pechadur," Gethsemane," St. Asaph," Hope," &c. Ceir yr olaf mewn amryw o gasgliadau o dan yr enw Gobaith." Byddai galw mynych arno i feirniadu mewn Eisteddfodau a Chyrddau Llenyddol. Bu farw yn Hydref 1867, yn 53 mlwydd oed, wedi gweithio yn galed gyda'r gan yn ei oriau hamddenol. Y mae dynion o'r fath yn haeddu cael eu cofio. Gresyn na ellid dod a'r darnau goreu i sylw ac arferiad y dydd- iau hyn. A yw yn bosibl eu bod yn rhy elfenol ? Nac ydyw, os yw barn Tany- marian am yr anthem, Mor hawddgar yw dy bebyll," yn un gywir. Beth pe bae pwyll- gor un o'r prif Eisteddfodau yn cynnyg gwobr o, dyweder, bum-punt-ar-hugain am ganu yr Anthem olaf a enwyd, a threfnu ar yr un pryd gyda rhyw argraffydd i'w chy- hoeddi ? Gwnelai y cyfryw bwyllgor was- anaeth i gerddoriaeth Gymreig.

[No title]