Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Gohebiaethau.

MOLAWD

MAE'R DYDD YN BYRHAU.

News
Cite
Share

MAE'R DYDD YN BYRHAU. Eisteddwn ryw noson dan gangau y coed, Tra'r haul yn machludo mor dlws ag erioed, I'm clyw daeth rhyw sibrwd wnaeth i mi dristhau Mae'r haf yn myn'd heibio, mae'r dydd yn byrhau." Edrychais o'm hamgylch gan ofyn yn syn, Mewn dull ymofyngar, Ai gwir ydyw hyn ? Ac awel yr hwyrddydd atebodd yn glau, Mae'r haf yn myn'd heibio, mae'r dydd yn byrhau." Mewn enyd disgynodd rhyw ddeilen fach grin I I'r ffos yn fy ymyl yn welw a blin, Ac yn ei gwynebpryd, canfyddais mor frau Yw einioes yr hafddydd tra'r dydd yn byrhau. Canfyddaf, er hynny, uwch stormydd y byd Ryw wlad heb dymorau ond haf ar ei hyd, Lie bydd y presenol byth byth yn parhau, Heb haf yn myn'd heibio, na dydd yn byrhau. Putney. ROSSERONIAN.

[No title]

Advertising