Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. WIL BRYAN.—Gobeithio nad oedd y Ddrama Gymraeg a gaed yn y Royal Court Theatre ddydd Sadwrn diweddaf yn true to nature, neu ffarwel i'r Ddrama yng Nghymru. YR ORIENT. Arddangosfa lwyddianus iawn fu'r arddangosfa genhadol a gaed y mis diweddaf yn yr Agricultural Hall. Dygir y cynulliadau i derfyn heno, nos Sadwrn, a disgwylir y ceir elw sylweddol oddiwrth yr anturiaeth i gyllid y Gym- deithas Genhadol. CYNORTHWYWYR. Bu llu o Gymry yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau, a bu tua hanner cant o aelodau y Tabernacl yn gweithredu fel stewards yno. Rhoddodd plant yr eglwys hefyd ddau berfformiad rhagorol yn yr arddangosfa, a llwyddasant, drwy eu hymdrechion, i sicrhau swm da o arian tuag at y gwaith cenhadol. YR UNDEB.—Mae Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol wedi dechreu eisoes ar waith y tymor newydd, a chaed cyfarfod arbennig o'r pwyllgor unedig yn Charing Cross nos Fercher cyn y diweddaf. Yn llywydd am y flwyddyn newydd penodwyd Dr. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, yn olynydd i'r Cymro twymgalon, Mr. John Hinds, a chan mai undeb anenwadol yw, prawf y dewisiad yn un hynod o dderbyniol gan yr Eglwyswyr ym mhob man. Cadeirydd y pwyllgor yw Mr. Cyrus J. Evans (Canonbury), gydag Mr. A. E. Rowlands (yr hen ysgrifennydd), fel is-gadeirydd am y flwyddyn. Yn is-lywydd- ion dewiswyd y brodyr a ganlyn ar ran y gwahanol enwadau: Parch. W. Richards Dewi Sant (Eglwys); Mr. Watkin Jones King's Cross (Anibynwyr); Mr. Arthur Griffith, Castle Street (Bedyddwyr); Mr. Goronwy Owen, Charing Cross (Methodist- iaid); a'r Parch. J. Humphreys, City Road, ar ran y Wesleyaid. PARCH. G. HARTWELL JONES, D.D. [Rheithor Nutfield, a llywydd Undeb y Cym- deithasau Llenyddol Cymreig Llundain am 1908-9].

---NODIADAU LLENYDDOL.

[No title]