Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

SWN YMRANIADAU.

News
Cite
Share

SWN YMRANIADAU. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yr ydym wedi cyfeirio, o bryd i'w gilydd, am yr anhawsterau sydd ar ffordd Mr. Lloyd- George i sicrhau eu lleoedd priodol i bynciau Cymreig, a'r gwrthwynebiad parhaus a roddir gan rai o'i gyd-aelodau yn y Wein- yddiaeth i'w gynygion a'i gynlluniau. Yr wythnos hon daw un o bapurau blaenllaw y blaid Doriaidd i sylw drwy gyfeirio at yr un ffaith, gan ychwanegu fod agwedd beryglus ar bethau yn y Weinyddiaeth ar hyn o bryd, ac fod llwyddiant eithriadol, a gallu cyd- nabyddedig y gwr o Arfon wedi creu iddo lu o elynion ymhlith ei blaid ei hun. Hawdd canfod oddiwrth raglen a mesur- au'r Weinyddiaeth fod gwahanol farnau yn bodoli ymhlith yr aelodau blaenaf, ac fod elfen gref o'r hen Whigiaeth eto'n aros yn y tir. Gwelir yn ami mai hannerog yw'r dull yr ymdrinir ag ami i gwestiwn, ac oni bae am bresenoldeb Plaid Llafur ar lawr y Ty, diau na chawsem hanner o'r gwelliantau chwyldroadol sydd eisoes wedi eu sicrhau. Y mae'n eglur mai i'r rhengoedd mwyaf Radicalaidd a mwyaf chwyldroadol y perthyn Mr. Lloyd-George, ac mae ei gynlluniau ymarferol wedi profi ar bob adeg ei fod yn fyw i ofynion cyffredin y werin. Mae penod ei hanes ym Mwrdd Masnach yn dar- llen fel rhamant, ac hwyrach na welir yr un gweinidog yn yr oes hon a ddaw i fynu i'w boblogrwydd ef fel Llywydd Bwrdd Masnach. Diau fod y llwyddiant eithriadol hyn, a'r poblogrwydd enillodd drwy ei weithredoedd amserol, wedi creu eiddiged ym mynwes nifer o'r hen ffosils sydd yn cydeistedd ag ef yn y cyngor mewnol; ond credwn ar yr un pryd fod ganddo ddigon o gefnogwyr brwd- frydig hefyd a'i galluoga yn y diwedd i sicrhau ei hawliau. Bu darogan i uchel- wyr y blaid wneud ymgais i'w gadw rhag y safle bresennol, ac mai ymyrriad pendant rhai o'r gwyr ieuainc barodd i'r hen gyn- llunwyr ildio'r maes. Os gwir yr hanes y mae'n ddyledswydd arnom i weithio yn llawer mwy egniol ar ei ran er cynnal ei freichiau yn nydd ei frwydrau cuddedig. Rhy barod i gondemnio a chwilio am frychau ydym wedi bod hyd yn awr, ond dylem gofio fod gair o galondid yn llawer mwy gwerthfawr ac yn debyg o wneud canwaith mwy o les na phe lluchid miloedd o'r penderfyniadau pigog yna sydd wedi bod yn rhan o'n bywyd cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf hyn.

Cyfle Penfro.I

Advertising

[No title]