Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. RHYS LEWIs.-Cofier am y Ddrama Gym- reig sydd i'w chwareu prydnawn Sadwrn (heddyw), yn Sloane Square. Gwelir y manylion mewn colofn arall. Miss LAURA EVANS.-Nos Iau nesaf, rhoddir y cyngerdd ynglyn a'r gantores hon yn Bechstein Hall. Mae'r rhagolygon yn dra addawol, a hyderwn y bydd y Cymry yn cael eu cynrychioli yno yn llu. BARROW AR AMERICA.—Nos Tau ddiweddaf, yng Nghapel Sussex Road, Holloway, cafwyd darlith odidog gan y Parch. Barrow Williams ar "Bum mis yn yr Amerig." 'Roedd y darlithydd, fel arfer, yn ddyddorol ag yn hynod addysgiadol. Cynnwysa ei araith drem ar bynciau mawr y dydd yng Ngwlad y Gorllewin: megis cwestiwn y Coed, a chwestiwn y Dyn Du. Dyddorol iawn, hefyd, oedd ei ddarluniad o fywyd y Cymry, ar wasgar yn yr Unol Daleithau. Yn ol efengyl Barrow, saif y Cymro yn ucbel ei fri yng ngolwg yr Americanwr, a hynny am ei hoffder o waith, a'i gariad at grefydd. Llywyddwyd y cyfarfod, mewn modd de- heuig, gan Mr. D. R. Daniel-y Cymro pybyr o Arfon. GWIBDAITH Y TYLAWD.—Dydd Mercher nesaf, cynhelir y wibdaith flynyddol ynglyn a'r achosion cenhadol yn yr East End. Dyma un o uchelwyliau tylodion y rhan- barth, a daw tyrfaoedd ynghyd i fwynhau o'r moethau a drefnir ar eu cyfer. I Epping Forest yr a'r cwmni, fel arfer a gofelir am y trefniadau gan y pedwar cenhadwr sy'n llafurio mor ffyddlon ar eu rhan. MISS IDA PARRY.—Dyma gantores newydd yn ein plith, a gwnaeth ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn Steinway Hall, nos Iau, Mehefin 25ain, pryd y daeth cynulliad bodd- haus i'w gwrando, ac i'w beirniadu. Yr oedd un peth yn y rhaglen a hawliai sylw'r Cymro ar unwaith, sef y lie helaeth a roddid i alawon Cymreig. Yr oedd saith o'r rhai hyn wedi eu dethol ganddi, a phan ddeallir iddi ganu'r saith, yn ogystal ag wyth o ddarnau Seisnig, gellir dirnad i Miss Parry gael cyflawn orchwyl am un noson. Medda'r ferch ieuanc hon lais melodus a swynol, yn geirio yn eglur, ac yn medru rhoddi llawer iawn o fynegiant yn y gwahanol ddarnau. Hwyrach nad yw'r llais yn ddigon cyfoethog eto i lanw'r prif neuaddau, ac mai fel mezzo- soprano y bydd iddi enwogi ei hun ond, gan mai dechreu y mae, ni ddylem ddisgwyl gormod oddiwrthi. Am y cyngerdd a roddodd y tro hwn, nid oes gennym ond y clod uchaf. Canodd yn hynod felus o'r dechreu i'r diwedd, ac nid oedd ol gorludded yn y llais ar derfyn rhaglen m'or faith. Diau y ceir ei chlywed yn ami yn y gauaf dyfodol, ac yn sicr mae'n haeddu cefnogaeth am ei hymlyniad wrth gynyrchion gwlad ei thadau. EI G-YP.FA.-Genedigol o Aberystwyth yw Miss Parry; ond symudodd y teulu yn ddiweddarach i Pwllheli, ac yno y dech- reuodd ymroddi i ddysgu cerddoriaeth. Mae wedi dod i aros yn Llundain ers rhai blynyddau bellach, a bu yn cymeryd rhan yn Nghor Merched y Kymric cyn hyn. Yr oedd yn fwy amlwg fel contralto y pryd hwnnw, ond dywed ei hathraw fod defnydd soprano gwych ynddi. Pob llwydd iddi yn ei gyrfa newydd ym myd y gan. YMADAWIAD BUGAIL.-Dydd Iau diweddaf rhoddodd y Parch. J. Wilson Roberts ffarwel i'w eglwys yn Stratford, ar ei ymadawiad i gymeryd gofal o eglwys Ynyshir, Deheudir Cymru. Mae Mr. Roberts wedi gwasan- aethu yr eglwys yn Stratford gyda medr a ffyddlondeb ar hyd y blynyddau, a bydd yn chwith gan lawer ei golli o gylch Cymreig y ddinas. Y DYDD o'r blaen cyfarfu Machreth a brawd o weinidog sydd wedi newid maes ei lafur dair neu bedair gwaith yn ystod llai na phum mlynedd, ac fel hyn y cyfarchodd ef Dyn a. dawn hoew adeiniog-at alwad Apostoliaeth wiliog Hyawdledd ansefydlog Fyth ar gylch 'run fath a'r gog. JEWIN NEWYDD.—Nid yn ami y ceir ctvrdd mwy dyddorol na'r hwn a gaed gyda'r plant, yn Jewin, nos Wener ddiweddaf, yn y ffurf o de parti a chyngerdd diben pa un ydoedd anrhegu Mr. Thomas, Hackney, fel cydna- byddiaeth am y dyddordeb a gymer ef yn yr ieuenctyd. Mrs. D. Williams, Wood Green, a gyflawnodd y ddyledswydd o drosglwyddo yr anrheg i Mr. Thomas. Cafwyd sylwadau dyddorol iawn gan y Cadeirydd, Mr. Evan Davies, Wood Green, a'r Parch. J. E. Davies, M.A., ac ereill. Rhoddwyd y danteithion gan y merched ieuainc canlynolMisses J. Lucretia Jones, Annie Benjamin, Jennie ^or^.a?3' a Mary Morgan. Cafwyd canu ac adrodd dymunol iawn gan y rhai canlynol -Misses Mary Morgan, Jennie Morgan, Susie Williams, Carrie Jones, Lalla Thomas, Annie Benjamin, a Lucretia Jones. Talwyd diolch i bawb a'r y diwedd gan ddau o'r plant, sef Roger Pugh a Lily Noel. YIT^,1 Purfleet yr aeth gwibdaith Ysgol Sul Sibley Grove eleni, a chafwyd amser dyddorol a dymunol. Yr oedd nifer fawr wedi dod yn brydlon i Orsaf East Ham am 7 o'r gloch. Daeth nifer arall yn hwy. Yr oedd y nifer y tro hwn oddeutu 80. Nis gallesid cael gwell tywydd. Yr oedd y trefniadau yn bopeth allesid ddymuno. Bu y cyfaill ffyddlon, Mr. J. L. John, yn ddiwyd tros ben yn cwblhau y trefniadau, a chasglodd Miss Annie Evans, Miss Jones, a Mrs. Griffiths ddigon, a thros ben, i glirio treuliau y plant. Teimlad pawb ydoedd eu bod wedi cael gwibdaith ragorol. PRIODAS YN EAST HAM.—Unwyd mewn,, gldn briodas, yng nghapel Anibynwyr Seis- nig East Ham, foreu ddydd Tau, Mehefin 25, Mr. John Thomas Evans, Ceinewydd gynty yn awr o China, a Miss Sarah James, Caer- dydd. Cymerodd y briodasle am 10.30 a.m., a gwasanaethwyd gan y Parch. Llewelyn Bowyer. Y "gwas a'r forwyn" oeddent Captain James a Mrs. James, East Ham. Genedigol o Ceinewydd yw y priodfab, ac a ddygwyd i fynu yng Nghapel Towyn, ond a, adawodd Gymru flynyddau yn ol, ac sy'n awr yng ngwasanaeth y China Navigation Co. Shanghai. Mae y briodferch yn enedigol o Gaerdydd, ac yn aelod ffyddlon yn eglwys Mount Stuart, ac yn drysoryddes y genhad- aeth yno am yr wyth mlynedd diweddaf. Yr oedd yn athrawes yn ysgol ddyddiot Eleanor Street. Wedi'r gwasanaeth priod- asol aethpwyd i dy Captain a Mrs. James, He yr oedd gwledd o'r fath oreu yn aros y parti. Yr oedd Captain J. D. James, o Shanghai, yn bresennol, ynghyda Elizabeth Mona James,. ei ferch. Gwasanaethwyd wrth y bwrdd gan Mrs. Williams, chwaer y briodasferch- Bob llwydd a bendith.

Bwrdd y Gol.

A BYD Y GAN..