Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

GWYL Y CYMMRODORION

News
Cite
Share

GWYL Y CYMMRODORION YN NEUADD Y PYSGODWYR. Hen arferiad y Cymmrodorion yw cynnal cwrdd diddan i derfynu'r tymor. Yn yr hen amser gynt, pan oedd Sior yn teyrn- asu," roeddent yn fwy diddan fyth. Y pryd hynny 'roedd pob cyfarfod yn wledd a phob cynulliad yn csel ei gadw ymlaen tan oriau man y boreu, os ydym i gredu beth ddywed Llywelyn Ddu o Fon am danynt. Mewn llythyr at ei frawd William, yn Awst 1757, dywed Llywelyn fel hyn am Risiart-y brawd arall oedd yn y Navy Office-" Last night was the Cymmrodorion meeting for August, and I suppose brother could hardly write to you, for he was busy in ye office till seven, and at eight they (the Cymmrodorion) meet, and seldom part till twelve or two in the morning-all boozy." Yn yr un llythyr addefa eu bod yn bobl ddysgedig, yn hoff o ganu, "and admire poetry, for they are people of high taste." Mae Cymmrodorion yr oes hon wedi cadw i fynu y cymeriad olaf hwn, maent yn bobl ddiwylliedig, ac o chwaeth lenorol dda, a diolch i Mr. Vincent Evans, mae'r oriau ,cyfarfod wedi eu lleihau. Y tro hwn dechreu- wyd y gweithrediadau am hanner awr wedi wyth, a chanwyd Hen Wlad fy Nhadau i derfynu cyn unarddeg o'r gloch, ac nid oedd neb wedi meddwi, oherwydd diodydd titotal- yddol yn unig yw arlwy arferol y Finsent. Ydyw, mae cant a hanner o flynyddau wedi gwneud cyfnewidiad mawr yn hanes yr hen Gymdeithas anrhydeddus. Er hynny oil, yr un yw'r amcan heddyw ag yn y dydd- iau gynt, sef noddi ein llenyddiaeth a chadw yr hen iaith yn fyw, a hawdd y gellid deall fod mwy o fri ar y Gymraeg yn awr nag y bu er's talm, oherwydd clywyd mwy o'i hacenion y tro hwn nag a glywid er's blyn- yddau yn y cyfarfodydd cymdeithasol hyn ar ddiwedd tymor. Eleni llwyddodd y frawdoliaeth i gael gwahoddiad caredig gan Gwmni'r Pysgod- wyr, i dreulio noson yn eu neuadd hardd, gerllaw pont Llundain. Mae cwmni'r pys- godwyr yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y ddinas, a'r neuadd sydd ganddynt yn adeilad hardd, yn llawn o drysorau drudfawr a daeth tua chwe chant o wahoddedigion yno i f wynhau noson lawen mewn ymgom a chan. Croesawyd yr aelodau gan Arglwyd Tre- degar, llywydd y Gymdeithas, a Mr. Wrench Towse, un o awdurdodau Cwmni'r Pysgod- wyr ac ymhlith y dyrfa urddasol ddaeth ynghyd, gwelsom y Dr. Henry Owen (trys- orydd), Mr. Wynfford Philipps-yr Arglwydd newydd—a Mrs. Philipps; Arglwydd Glan- tawe, Syr J. Herbert Roberts a'i briod Mr. Ellis J. Griffith, A.S., a'i briod Syr Clifford Cory Mr. Timothy Davies, A.S., a'i briod Y Cadfridog Syr James Hills Johnes a'i briod a Mrs. Johnes Dolaucothi y Cad- fridog R. Owen Jones, C.B. yr Henadur Robert Hughes, Caerdydd, a Mrs. Hughes; Mr. a Mrs. Aeron Thomas; Mrs. Llewelyn Williams; Parchn. Hartwell Jones, J, E. Navies, M.A., a'i briod, J. Crowle Ellis, Francis Knoyle, J. Hugh Edwards, a Mardy Rees; Mr. a Mrs. J. T. Lewis Mr. a Mrs. J. Foulkes Jones; Mr. a Mrs. Wilfred Rowlands Mr. a Mrs. W. Price Mr. a Mrs. L. J. Griffith; Mr. J. Burrell; Mr. P. W. Williams; a Mr. a Mrs. A. Rhys Roberts. Yn y brif neuadd yr oedd cerddorfa'r "Coldstream Guards," o dan arweiniad Dr. MacKenzie Rogan, Hon. R.A.M., a rhodd- asant ddetholiad nodedig o gerddoriaeth yn ystod y noson. Yn yr ail neuadd yr oedd Cor Merlin Morgan yn canu alawon Cym- reig gyda mawr swyn, a rhoddasant fodd- lonrwydd eyffredinol yn eu detholiadau. Bob yn ail a'r cor daeth Miss Cordelia Rhys, yr hon oedd mewn gwisg Gymreig swynol, gan ganu penillion i ddyddori'r cwmni, a chaed cryn foddhad wrth ei gwrando yn canu a ganlyn :— Hoffa Cymry gwladgar Llundan Glywed telyn Cymru'n tincian Swyn y delyn sy'n hudoliaeth Ar hyd diroedd Cymmrodoriaeth. Hoffa'r boneddigion gwladgar Sydd heb ch ac 11" i'w llafar, Garu'r wlad a gar eu calon Ar hyd dyrrau'r Cymmrodorion. Mae i'n Llywydd enw gloew- Cymru lan a bia hwnnw Tredegar" sydd yn barod wron, 0 waed eirias Cymmrodorion. Yma 'n neuadd y Pysgodwyr, Vincent" geir yn ddigon difyr, Mae'n arweinydd pererinion Ar hyd dir y Cymmrodorion. Ond rhaid i'r Cymmrodorion presennol gymeryd dalen o lyfr eu hynafiaid a phwr- casu telyn eto er gwneud eu rhaglen yn gyflawn. Hyd y flwyddyn hon yr oedd Pencerdd Gwalia yn harddu'r wyl a'i delyn her, ond y mae dyddiau henaint wedi ei orfodi yntau bellach i fod yn fwy gofalus o'i oriau, a dyna, yn ddiau, oedd y rheswm na chaed clywed tine ei delyn y tro hwn. Hwyrach y ceir rhyw delynor ieuanc i lanw'r bwlch cyn hir, ac y daw canu penillion yn beth arferedig yn y cynulliadau hapus hyn. Yn y ddwy ystafell eang arall yr oedd byrddeidiau llawn o foethau wedi eu paratoi, ac o amgylch y rhai hyn y gwelid ugeiniau yn mwynhau eu hunain bob yn ail a'r gan a'r gleber, a theimlad pawb oedd, eu bod yn ddyledus iawn i Mr. Vincent Evans, yr ysgrifennydd, ac i Gwmni'r Pysgodwyr am drefnu a rhoddi y fath fwyniant i'r aelodau am y tro. Ar derfyn y canu a'r mwynhad, caed gair o ddiolch gan Arglwydd Tredegar ar ran y Gymdeithas i Gwmni'r Pysgodwyr am roddi'r ystafelloedd at ein cysur a threfnu'r fath foethau yn rhad i ni; ac wrth gydnabod y diolch, dywedodd eucynrychiolydd y byddai yn bleser ganddynt eto ar ryw adeg fod o wasanaeth i bobl mor anrhydeddus a Chym- deithas y Cymmrodorion.

A BYD Y GAN..

[No title]