Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

URDDAU'R BRENIN.

News
Cite
Share

URDDAU'R BRENIN. Uchelgais pennaf y Seneddwr cyffredin ym mhob oes yw ceisio esgyn i'r cyntedd cyfrin hwnnw lie y gwasgerir ffafrau swydd- ogol ac urddau Brenhinol ym mhlith y rhai fo'n ymgiprys am danynt. Nid camp hawdd ydyw hyn i bob dosbarth. Gall fod gwr yn meddu ar ddawn ac athrylith tuhwnt i fesur, ac eto fod yn alltud o'r gymdeithas gyseg- redig hon, ac nid yw maith wasanaeth yn y Senedd na ffyddlondeb i etholaeth ac egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb ynddynt eu hunain yn un cymhwyster i gael y dyrchafiad cymdeithasol hwn. Yn yr oes faterol hon rhaid cael allwedd o aur i agor y drws i'r lie dymunol yma, a phan geir ychydig dalent yn ogystal a chyfoeth, y mae'r ffordd yn dod yn hawddach fyth. Cyflwynir yr urddau Brenhinol ddwy waith yn y flwyddyn. Gwasgerir y rhoddion cyntaf fel math o galenig dechreu blwyddyn, ac yna daw ail fasgedaid o'r rhoddion hyn ganol haf pan yn gwneud dathliad swyddogol o ddydd pen blwydd y teyrn. Dydd Gwener diweddaf gwnaed y rhestr o enwau derbynwyr y ffafrau penblwydd, am j eleni, yn hysbys i'r cyhoedd. Yr oedd cryn ddyfalu wedi bod er's dyddiau pwy fuasai'r dewis, ddynion y tro hwn, ac er fod llu yn cael eu henwi, teimlid fod y rhestr yn rhy faith, hyd yn oed i ryddfrydigrwydd y Weinyddiaeth hael hon, i ofyn i'r Brenin i fendithio yr holl haid. Y canlyniad fu i'r nifer gael eu cwtogi, a llwyddwyd, yn ol y syniad cyffredin, i wneud cyfiawnder am y tro, a rhoddi ffafrau i bawb oeddent yn wir- ioneddol haeddu y trysorau anrhydeddus a adwaenir fel teitlau. O'r pedwar person sydd wedi eu danfon i'r Ty uchaf, mae un yn aelod tros ranbarth o Gymru. Mae Mr. John Wynford Philipps wedi cynrychioli Sir Benfro yn y Senedd er's 1898, ac er mai aelod distaw ydyw, y mae yn wr amlwg iawn. Yn un peth, mae o daldra corfforol uwchlaw'r cyffredin, ond ar wahan i fesur ei gorff y mae'n gyfar- wyddwr blaenllaw ar In o longau sy'n cysylltu y wlad hon ag Affrica ac India. Oherwydd ei safle fel perchennog llongau a'i fedr masnachol, yn ogystal ac am ei gyfoeth, y mae wedi haeddu y dyrchafiad presennol, a diau y caiff Cymru gymaint o'i wasanaeth yn y Ty uchaf ag a gafodd oddi- C) MR. WYNFORD PHILIPPS, A.S. [Yr Arglwydd Cymreig newydd. Nid yw eto wedi- penderfynu pa enw i'w ddewis.] wrtho pan eisteddai fel gwr cyffredin dros bobl Penfro yn y Ty isaf. Fel y rhaghysbyswyd gennym yn ein rhifyn diweddaf, gwr arall i dderbyn o ffafrau'r blaid Ryddfrydol y tro hwn oedd Mr. J. Herbert Roberts, yr aelod tros ran- SYR J. HERBERT ROBERTS, Barwnig, A.S. barth o swydd Dinbych. Gwnaed ef yn farwnig, ac o hyn allan bydd Syr Herbert Roberts yn un o berchenogion teitlau yn ein cenedl. Gweithiwr tawel a chyson yw Mr. Roberts wedi bod ar hyd y blynyddau. Glynodd yn ffyddlon i egwyddorion Ym- neillduaeth drwy yr holl amser, ac ni cheir neb yn y Senedd yn fwy cadarn nag ef dros ddirwest a phurdeb cymdeithasol. Merch i'r hyglod W. S. Caine yw ei briod, ac er mai Saesnes yw, mae'n ddigon Cymreig ei hysbryd i ddysgu hen iaith y Cymry i'w phlant. Nid oedd yr un aelod o Gymru yn fwy teilwng o'r anrhydedd hwn nag efe, a sicr y bydd Cymry ym mhob man yn eyd- lawenhau ar roddiad y teitl yma arno. Mae dau ereill wedi cael anrhydedd Ilai. Gwnaed Mr. W. Howell Davies, yr aelod Cymroaidd tros ran o Fryste, yn farchog, ac hefyd Mr. R. J. Price, gwr a welodd oleu dydd ym mhellfaoedd Sir Benfro, ond sydd yn awr yn trigo yn Lloegr. Gwr arall a enwir yn y rhestr hon yw Mr. T. Rees Price, o Ddeheu Affrica, y gwr sydd yn rheoli rheilffyrdd Trefedigaeth y Transvaal, a brodor o Aberdare. Diau y teimla ambell un fod ei hawliau ef wedi eu hanwybyddu y tro hwn, ac fod y Prif Weinidog wedi gwneud anhegwch ag ef drwy ei anwybyddu, ond ar y cyfan mae'r rhestr yn lied foddhaus, ac os oes gwerth o gwbl yn yr urddau hyn y mae o ryw gysur i ni ddeall fod personau tra theilwng wedi eu meddu y tro hwn.

[No title]