Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

"ALLEN RAINE."

Merched y Bleidlais.

News
Cite
Share

Merched y Bleidlais. Beth bynnag yw barn ein gwleidyddwyr am hawliau merch ynglyn a'r bleidlais, y mae'r cyhoedd wedi datgan mewn modd pendant ei bod yn teilyngu hyn o ymddir- iedaeth oddiar eu dwylaw. Yn ystod y pythefnos diweddaf hyn yr ydym wedi cael y fath ddangoseg o gydymdeimlad ar ran y cyhoedd na chaed ei gyffelyb ynglyn ag unrhyw fudiad arall er's mwy na chwarter canrif. Y Sul diweddaf bu'r fath dorfeydd yn Hyde Park na chaed eu cylfelyb o ran nifer erioed o'r blaen, a rhyw bythefnos yn flaenorol bu 11a o wragedd parchus a dys- gedig yn ymdeithio tua'r Albert Hall gyda gweddeidd-dra teilwng o un o'r achosion mwyaf cysegredig. Ac mae'r holl boblog- rwydd hyn wedi ei ennill drwy gynlluniau nad oes neb yn eu hedmygu na'u cymera- dwyo! Ar waethaf arweinwyr y merched, megys, y mae'r cwestiwn wedi dod i'r amlwg. Mae ystranciau ffol y gwrageddos wedi rb.oddi math o hysbysrwydd i'w hachos, mae'n wir, ac mae'r ymddygiadau amharchus a wnaed gan y rhyw deg yn rhai o'r ethol- aethau yn ddiweddar yn ddigon i'w con- demnio fel arweinwyr a deddf-wneuth urwyr ond y mae egwyddor y bleidlais, er hynny, wedi cael amlygrwydd, ac mae pawb bellach yn dod i sylweddoli nas gall yr an blaid wrthod cydnabod y gofynion a wneir ar eu rhan. Mae'r ferch wedi hawlio cael ei chyd- nabod fel un addas a phriodol i dalu treth- oedd, a chymeryd ei lie fel dinesydd ym mhob cylch, ond nid yn deilwng o gael pleidlais ac y mae'n eglur fod yr anhegwch hwn bellach ar fin cael ei symud hefyd. Ac os oes unrhyw genhadaeth yn yr arddangos- feydd aruthrola, phoblogaidd hyn a wnaed ar ei rhan, y maent yn llefaru yn groyw fod y ferch wedi llwyddo i gael clust ymwran- dawiad y werin, a goreu po gyntaf iddi gael calon ac ymddiriedaeth y Gwleidyddwr hefyd. Ergyd arall. Mae'r Weinyddiaeth wedi cael ergyd trwm arall drwy fuddugoliaeth anisgwyl- iadwy y Toriaid yn etholaeth Pudsey, swydd y I York. Dyma'r tro cyntaf yn ei hanes i'r rhanbarth ddanfon Tori i'r Senedd, ac mae'n amlwg mai drwy ymyrriad yr ymgeisydd Sosialaidd y mae hyn i'w briodoli yn bennaf. Gwr poblogaidd iawn yn y rhanbarth oedd Mr. George Whiteley, yr aelod diweddar ac o herwydd ystyfnigrwydd arferol yr etholwyr yn y rhan yma o'r wlad, yr oedd pawb wedi credu mai gwaith hawdd oedd cadw y sedd gan unrhyw ymgeisydd a broffesai fod yn Rhyddfrydwr. Yn anffodus daeth y Sosial- ydd i fewn, gan wneud ymladdfa daironglog, a thrwy hyn gadawyd i'r Tori fyned i'r Senedd. Nis gwyddom a yw plaid llafur yn llawenhau yn y fuddugoliaeth a'i peidio, ond yn sicr nid dyna'r ffordd i gyfanu'r rheng- oedd ar hyn o bryd. Pan ddaw yr adeg i ni gael mesur o ddiwygiad ynglyn a'r bleid- lais rhaid i ni hefyd sicrhau cynllun a rydd i ni gynrychiolydd priodol dros fwyafrif arbennig ym mhob etholaeth. Mae ein cynllun o ddewis aelod Seneddol yn myned yn hen, a goreu po gyntaf i ni gael diwygiad gwerinol arno ac ond cael hynny, ni fydd eisieu i'r naill blaid na'r llall ymddadleu pa un ai colled ai ennill yw brwydrau etholiadol fel ag a gaed yn Pudsey. Y Fasnach Lechi. Dydd lau diweddaf gwnaed yn hysbys yn ardaloedd Arfon fod rhybudd wedi ei roddi yn chwarelau Dinorwic i leihau'r amser gweithio un diwrnod yr wythnos (dydd Sadwrn) ar ol y laf o Orffennaf. Ynglyn a' hyn atelir y percentages neu bonuses fyddai'n cael eu rhoddi i'r bargeinwyr. Golyga hyn ostyngiad difrifol yn enillion y gweithwyr- mewn rhai achosion dros 15 y cant. Dywed rhai sydd mewn safle i farnu na fu'r fasnach lechi yng Ngogledd Cymru erioed mor wan a difywyd ag yw yr amser presennol. Y mae'r dirwasgiad cyffredinol sydd yn cael ei deimlo trwy'r wlad wedi effeithio yn drwm ar y fasnach hon. Yn adeg helynt y Penrhyn, rhoddwyd cyfleustra rhagorol i lechi tramor ddod i'r wlad, ac y maent yn parhau i ddyfod o hyd, ac yn cynyddu i raddau. Dywedir y gellir cael llwyth llong o lechi Americanaidd i Lundain yn rhatach nag y ceir yr un nifer o Arfon neu Feirion. Hefyd y mae llawer llai o adeiladu yn y wlad nag oedd bum mlynedd yn ol. Fel, rhwng popeth, y mae rhagolygon y dyfodol i'r chwarelwyr yn dywyll ac anobeithiol. Mae hanes chwarelau Dinorwic-chwarelau Mr. Assheton Smith-yn nodedig er's llawer o flynyddoedd am y teimladau da ffynnai rhwng y perchennog a'i weithwyr. A'r tebyg yw nad yw'r awdurdodau wedi cym- eryd y cwrs difrifol hwn heb fod dan orfod- aeth i geisio lleihau ychydig ar y stoc sy'n dechreu crynhoi, ac os yw'r argoelion mor ddrwg yn ardaloedd Llanberis pa faint mwy yn yr ardaloedd ereill sydd heb fod llawn mor alluog i sefyll yn eibyn grym y dir- wasgiad ? Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan hysbyswyd am un chwarel yn ymyl Capel Curig wedi cau yn gyfangwbl, ac mae'r cyflogau wedi bod mor isel yn Nantlle, Corris, a Blaenau Ffestiniog yn ystod y tair blynedd diweddaf nes peri i'r bechgyn ieuainc ymfudo i'r Unol Daleithau, Canada, a British Columbia wrth yr ugeiniau, yn ychwanegol at y llu mawr sydd yn myned i'r gweithfaoedd glo yn Neheudir Cymru. Sibrydir y bydd i rai o brif chwarelau Blaenau Ffestiniog eto leihau'r amser gweithio, os nad cau i fyny yn gyfangwbl, am beth amser. Ofnwn nad oes fawr obaith am adfywiad buan. Tybed fod gwaith y chwarelwr yn un o'r dying industries" ?

Advertising

MURMUR Y GORNANT.