Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
"ALLEN RAINE."
"ALLEN RAINE." Dydd Sul diweddaf bu farw'r lenores enwog Allen Raine yn ei chartref, Bronmor, Traethsaith, Ceredigion ac yn ei marwol- aeth mae Oymru wedi colli ei nofelydd mwyaf poblogaidd. Merch i gyfreithiwr parchus yng Nghastell Newydd Emlyn oedd Allen Raine," a chafodd yr addysg oreu oedd yn bosibl pan yn eneth ieuanc. Hanai o hen deulu Dafis, Castellhywel," ac roedd ei thad, Mr. Benjamin Evans, yn wr o gryn chwaeth lenorol. Ymbriododd Miss Evans a chlerc mewn banc-Mr. Beynon Puddi- combe, o Winchmore Hill-yr hwn a fu farw ar ol hir gystudd yn 1906. Un o blant yr Eisteddfod oedd "Allen Raine." Eoillodd ei gwobr gyntaf am nofel yn yr wyl Genedlaethol, a chafodd ganmol- iaeth uchel gan y beirniaid. Yn 1896 ysgrifennodd A Welsh Singer," a mabwys- iadodd yr eaw Allen Raine fel ei henw llenorol, ond ni chafodd gyhoeddwr i'r gwaith cyn 1897. Cafodd y nofel gyntaf hon dderbyniad calonog gan y cyhoedd Seisnig, ac nid hir y bu'r awdures cyn paratoi gwaith arall i'w osod ger bron y cyhoedd. Yn 1898 cyhoeddodd Torn Sails," yna yn 1899 By Berwen Banks yn 1900 Garthowen yn 1901 A Welsh Witch"; yn 1903 "On the wings of the wind"; yn 1905 "Hearts of Wales"; yn 1906 Queen of the Rushes"; ac yn olaf Neither Storehouse or Barn." Mae yr oil o'r cyfrolau hyn wedi cael cylehrediad helaeth. Yn wir, nid oes ond ychydig o awduron Seisnig wedi cael mwy o ddarllenwyr na Allen Raine ac mae ei gweithiau wedi eu Iledaenu drwy bob rhan o'r ddaear. Yr oedd rhyw swyn arbennig yn ei gweithiau, a'r naturioldeb yn eu gwneud yn dderbyniol gan y cyhoedd darllengar. Hwyrach nad oeddent ya borfcreii cywir o'r bywyd Oymreig ar ei oreu, ond rhaid prio- doli hyn yn bennaf i addysg foreuol yr awdures. Barn pabl o ddosbarth Mr. Evans, y cyfreithiwr, o Gisfcsll-newydd, ydoedd mai addysg Seisnig oedd y peth goreu i'r plant, C) ac mewn awyrgylch snobyddol a gwrth Gymreig, i raddau, y dygwyd Miss Evans i fyny. Ond er eu holl ddiffygion y mae yn nofelau "Allen Raine" y portread goreu y mae'r Sais wedi gael hyd yn hyn o'r bywyd syml Cymreig, ac am hynny bydd y genedl a wasanaethodd mor rhagorol ar faes llenydd- iaeth yn gofidio am golli un mor athrylithgar ac Allen Raine cyn fod dyddiau henaint wedi gadael yr ol lleiaf ar ei gruddiau gwelw.
Merched y Bleidlais.
Merched y Bleidlais. Beth bynnag yw barn ein gwleidyddwyr am hawliau merch ynglyn a'r bleidlais, y mae'r cyhoedd wedi datgan mewn modd pendant ei bod yn teilyngu hyn o ymddir- iedaeth oddiar eu dwylaw. Yn ystod y pythefnos diweddaf hyn yr ydym wedi cael y fath ddangoseg o gydymdeimlad ar ran y cyhoedd na chaed ei gyffelyb ynglyn ag unrhyw fudiad arall er's mwy na chwarter canrif. Y Sul diweddaf bu'r fath dorfeydd yn Hyde Park na chaed eu cylfelyb o ran nifer erioed o'r blaen, a rhyw bythefnos yn flaenorol bu 11a o wragedd parchus a dys- gedig yn ymdeithio tua'r Albert Hall gyda gweddeidd-dra teilwng o un o'r achosion mwyaf cysegredig. Ac mae'r holl boblog- rwydd hyn wedi ei ennill drwy gynlluniau nad oes neb yn eu hedmygu na'u cymera- dwyo! Ar waethaf arweinwyr y merched, megys, y mae'r cwestiwn wedi dod i'r amlwg. Mae ystranciau ffol y gwrageddos wedi rb.oddi math o hysbysrwydd i'w hachos, mae'n wir, ac mae'r ymddygiadau amharchus a wnaed gan y rhyw deg yn rhai o'r ethol- aethau yn ddiweddar yn ddigon i'w con- demnio fel arweinwyr a deddf-wneuth urwyr ond y mae egwyddor y bleidlais, er hynny, wedi cael amlygrwydd, ac mae pawb bellach yn dod i sylweddoli nas gall yr an blaid wrthod cydnabod y gofynion a wneir ar eu rhan. Mae'r ferch wedi hawlio cael ei chyd- nabod fel un addas a phriodol i dalu treth- oedd, a chymeryd ei lie fel dinesydd ym mhob cylch, ond nid yn deilwng o gael pleidlais ac y mae'n eglur fod yr anhegwch hwn bellach ar fin cael ei symud hefyd. Ac os oes unrhyw genhadaeth yn yr arddangos- feydd aruthrola, phoblogaidd hyn a wnaed ar ei rhan, y maent yn llefaru yn groyw fod y ferch wedi llwyddo i gael clust ymwran- dawiad y werin, a goreu po gyntaf iddi gael calon ac ymddiriedaeth y Gwleidyddwr hefyd. Ergyd arall. Mae'r Weinyddiaeth wedi cael ergyd trwm arall drwy fuddugoliaeth anisgwyl- iadwy y Toriaid yn etholaeth Pudsey, swydd y I York. Dyma'r tro cyntaf yn ei hanes i'r rhanbarth ddanfon Tori i'r Senedd, ac mae'n amlwg mai drwy ymyrriad yr ymgeisydd Sosialaidd y mae hyn i'w briodoli yn bennaf. Gwr poblogaidd iawn yn y rhanbarth oedd Mr. George Whiteley, yr aelod diweddar ac o herwydd ystyfnigrwydd arferol yr etholwyr yn y rhan yma o'r wlad, yr oedd pawb wedi credu mai gwaith hawdd oedd cadw y sedd gan unrhyw ymgeisydd a broffesai fod yn Rhyddfrydwr. Yn anffodus daeth y Sosial- ydd i fewn, gan wneud ymladdfa daironglog, a thrwy hyn gadawyd i'r Tori fyned i'r Senedd. Nis gwyddom a yw plaid llafur yn llawenhau yn y fuddugoliaeth a'i peidio, ond yn sicr nid dyna'r ffordd i gyfanu'r rheng- oedd ar hyn o bryd. Pan ddaw yr adeg i ni gael mesur o ddiwygiad ynglyn a'r bleid- lais rhaid i ni hefyd sicrhau cynllun a rydd i ni gynrychiolydd priodol dros fwyafrif arbennig ym mhob etholaeth. Mae ein cynllun o ddewis aelod Seneddol yn myned yn hen, a goreu po gyntaf i ni gael diwygiad gwerinol arno ac ond cael hynny, ni fydd eisieu i'r naill blaid na'r llall ymddadleu pa un ai colled ai ennill yw brwydrau etholiadol fel ag a gaed yn Pudsey. Y Fasnach Lechi. Dydd lau diweddaf gwnaed yn hysbys yn ardaloedd Arfon fod rhybudd wedi ei roddi yn chwarelau Dinorwic i leihau'r amser gweithio un diwrnod yr wythnos (dydd Sadwrn) ar ol y laf o Orffennaf. Ynglyn a' hyn atelir y percentages neu bonuses fyddai'n cael eu rhoddi i'r bargeinwyr. Golyga hyn ostyngiad difrifol yn enillion y gweithwyr- mewn rhai achosion dros 15 y cant. Dywed rhai sydd mewn safle i farnu na fu'r fasnach lechi yng Ngogledd Cymru erioed mor wan a difywyd ag yw yr amser presennol. Y mae'r dirwasgiad cyffredinol sydd yn cael ei deimlo trwy'r wlad wedi effeithio yn drwm ar y fasnach hon. Yn adeg helynt y Penrhyn, rhoddwyd cyfleustra rhagorol i lechi tramor ddod i'r wlad, ac y maent yn parhau i ddyfod o hyd, ac yn cynyddu i raddau. Dywedir y gellir cael llwyth llong o lechi Americanaidd i Lundain yn rhatach nag y ceir yr un nifer o Arfon neu Feirion. Hefyd y mae llawer llai o adeiladu yn y wlad nag oedd bum mlynedd yn ol. Fel, rhwng popeth, y mae rhagolygon y dyfodol i'r chwarelwyr yn dywyll ac anobeithiol. Mae hanes chwarelau Dinorwic-chwarelau Mr. Assheton Smith-yn nodedig er's llawer o flynyddoedd am y teimladau da ffynnai rhwng y perchennog a'i weithwyr. A'r tebyg yw nad yw'r awdurdodau wedi cym- eryd y cwrs difrifol hwn heb fod dan orfod- aeth i geisio lleihau ychydig ar y stoc sy'n dechreu crynhoi, ac os yw'r argoelion mor ddrwg yn ardaloedd Llanberis pa faint mwy yn yr ardaloedd ereill sydd heb fod llawn mor alluog i sefyll yn eibyn grym y dir- wasgiad ? Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan hysbyswyd am un chwarel yn ymyl Capel Curig wedi cau yn gyfangwbl, ac mae'r cyflogau wedi bod mor isel yn Nantlle, Corris, a Blaenau Ffestiniog yn ystod y tair blynedd diweddaf nes peri i'r bechgyn ieuainc ymfudo i'r Unol Daleithau, Canada, a British Columbia wrth yr ugeiniau, yn ychwanegol at y llu mawr sydd yn myned i'r gweithfaoedd glo yn Neheudir Cymru. Sibrydir y bydd i rai o brif chwarelau Blaenau Ffestiniog eto leihau'r amser gweithio, os nad cau i fyny yn gyfangwbl, am beth amser. Ofnwn nad oes fawr obaith am adfywiad buan. Tybed fod gwaith y chwarelwr yn un o'r dying industries" ?
Advertising
THE CAMBRIAN CHORAL SOCIETY. 'r'J' Conductor Ifflr. T. VINGENT DAVIES. L-¡ above Society is now preparing for the V—' coming "Winter Season. Ladies and Gentlemen, with good voices, and desirous of becoming members, should write to the Secretary— Mr. LEWIS WILLIAMS, B.A., 83, Kelvin Road, Highbury, N.
MURMUR Y GORNANT.
MURMUR Y GORNANT. 0 mor swynol ydyw murmur Per y nant risialaidd, fwyn, Ar ei thaith ymdreigla'n brysur Ddydd a nos dan werdd-las awyr,— Gornant ddifyr a di-gwyn. Denol yw eithreiddgar fiwsig Yn yr awel falmaidd ber, Hyfryd yw adgofion gwledig I fy nghalon dawel unig O'r caredig froydd ter. Caraf beunydd Walia dirion- Tannau'm calon chwery'n braf, Bythol erys ei halawon Ar y cof yn fyw acenion Fel murmuron neint yr haf. Os yw'n egwan ar ei gyrfa Llona ysbryd, nodda gerdd Bywyd ynddi a gartrefa, Yn y byd o hyd tra llifa,— Gwynfa hon yw'r goedwig werdd. Sawra meillion ar ei glenydd- Gwenant beunydd ger ei Hi Ar eu seddau mewn llawenydd Dan belydrau haul ysblenydd O'r wybrenydd uchel fry. I fy awen gornant fechan Diddan yw dy furmur tlws, Wyt yn loew megys arian Byw ar lan garegog raian Egyr anian it' ei drws. LLINOS WVRE.