Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YR EGLWYS A'l CHYFLWR.

News
Cite
Share

YR EGLWYS A'l CHYFLWR. Yn ystod y pythefnos sydd newydd der- fynu caed cyfres nodedig o gyfarfodydd yn Llundain yn ymwneud a chenhadaeth ar- bennig yr Eglwys yn y byd. Gan mai o dan nawdd, a chan gynrychiolwyr neillduol o Eglwys Loegr y cynhelid y cyfarfodydd, yr Eglwys, sydd yn cael ei hadnabod fel Eglwys Loegr, oedd yn unig dan ystyriaeth gan y gwahanol gynhadleddwyr oeddent wedi cyrchu o bob gwlad i'r Gyngres hon. Yr oedd o leiaf ddeng mil o gynrychiol- wyr wedi dyfod i'r uchel wyl. Pob gwlad a thalaith, a phob trefedigaeth lie y ceir cangen o Eglwys Loegr oeddent yma yn cael eu cynrychioli. Ar wahan i'r cynrych- iolwyr a'r arweinwyr crefyddol yr oedd yn agos i dri chant o esgobion o bob maes wedi gwneud ymdrech i fod yn bresennol yn yr wyl. Bu arweinwyr Eglwysig pob gwlad yn cyhoeddi eu barn yn y gwahanol gyfarfodydd. A beirniadaeth hynod lem a gaed ganddynt Dangosai yr areithiau a gaed fod yr Eglwys mewn proffes yn llawer mwy rhyddfrydol nag ydyw mewn gweithred. Addefai ei gwyr blaenaf fod y gyfundrefn bresennol yn anaddas i anghenion yr oes, ac fod eisieu diwygio cymaint ar y sefydliad heddyw ag ydoedd ar yr hen Eglwys yn adeg y chwyl- droad Protestanaidd. Ac amcan pennaf y gynhadledd oedd ffurfio cynllun priodol er adenill i'r Eglwys ei safle fel arweinydd ysbrydol i ddynoliaeth yn gyffredinol. Gan fod esgobion ac archesgobion o'r gwahanol drefedigaethau wedi dod ynghyd, yr oedd yn bosibl cael gwedd eangach ar y gwahanol bynciau nag a geir yn gytfredin yn Uysoedd eglwysig Lambeth, ac mae'r rhydd- frydigrwydd a nodweddau y cenhadon, ddaethant o'r gwledydd tros y mor, wedi cael argraff neillduol ar yr awdurdodau ym Mhrydain. Tuedd yr offeiriadaeth ym mhob oes yw, cyfyngu ar ryddid y lleygwr a gosod y bobl gyffredin fel pethau is wasanaethgar; ond cywair cyffredin y gynhadledd hon oedd mwy o ryddid i'r aelod cyffredin, a llai o'r ysbryd unbenaethol oedd wedi nodweddu yr esgobaeth drwy yr oesau. Bu rhai o wyr blaenaf yr Eglwys mor hyf a phleidio Sosial- aeth noeth yn rhai o'r cyfarfodydd, ac er syndod i bawb yr oedd y mwyafrif yn eu cymeiadwyo. Er hyn oil, y mae'r Eglwys, fel cyfundrefn, heddyw ym Mhrydain y gallu cryfaf yn erbyn Sosialaeth a chydraddoldeb crefyddol. Ond fe ddaw lies o'r cyfarfydd- iadau hyn. Wrth gydymgynghori a gwa- hanol farnau o'r gwahanol wledydd, y mae i bob sefydliad ennill nerth a dylanwad. Does yr un plaid na mudiad wedi bod ar eu colled crioed o ddal cymundeb a'r cyhoedd; a chredwn mai cadarnhau ei safle wna yr Eglwys dros y byd, os bydd iddi weithredu yn unol a'r ysbryd eangfrydig a ddangoswyd yn y cynhadleddau hir-gofadwy hyn.

[No title]

[No title]

POBL Y MAE SON AM DANYNT.

- Bwrdd y Gol.

Advertising

CYFANSODDIADAU

[No title]