Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

Y DYFODOL.

[No title]

Advertising

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

o'r hen ffyddloniaid yn y cylch Cymreig yn Llundain. Daeth i'r brif-ddinas 53 mlynedd yn ol, a glynnodd yn ffyddlon i'r eglwys yn Fetter Lane a King's Cross ar hyd y maith flynyddau hyn. Yr oedd yn ymwelydd cyson ag uchel wyliau yr eglwysi ereill o bob enwad, a gwyddai gymaint a neb am hanes mudiadau ym mywyd Cymreig y ddinas. Genedigol o ardal Talybont, Ceredigion, ydoedd, a'r cyntaf o'r plant i gael ei galw adref. Hedd fo i'w gweddillion yn naear santaidd Abney Park, lie y gorwedd y fath dorf o Gymry enwog. RHAGLEN YR EISTEDDFoD.-Mae'r holl fan- ylion ynglyn a'r rhaglen wedi eu cwblhau bellach, a daw'r gwaith allan ar fyrder. Ni fydd yn llyfr trwchus iawn, a deallwn nad yw ym mwriad y pwyllgor i'w lanw gydag hysbysiadau am Faco Amlwch na chwrw Buckley. Tipyn 0 gamp yw tynnu allan raglen wreiddiol, a byddai yn werth cael un Mn am unwaith oddiwrth yr ysbryd mar- siandiol sydd yn ddiweddar wedi andwyo ein heisteddfodau. Y DDRAMA.—Mae'r d drama Geltaidd i gael sylw arbennig yn ystod y dyddiau nesaf yma yn Llundain. Mae'r Gymdeithas Geltaidd wedi trefnu i roddi cytres o chwareuon yn y Royal Court Theatre, Sloane Square, fel a ganlyn Gorphenaf 2il, am 8 o'r gloch.—Dwy ddrama; un yn ymwneud a Llydaw, a'r llall a'r Iwerddon. Gorphenaf 3ydd, am 8 o'r gloch, ceir opera fer, Wyddelig, i'w dilyn am 8.45 gan The Quest of the Grail," o waith Mr. Ernest Rhys a Vincent Thomas. Gorphenaf 4ydd, am 3 o'r gloch, ceir chwareuad o Rhys Lewis," gan gwmni Mr. J. Morgan Edwards, M.A.; ac am 8 o'r gloch rhoddir chwareuad o ddwy ddrama Geltaidd. Mae'r gyfres yn hynod o eang, ac yn sicr o fod yn ddyddorol dros ben. Ceir tocynau o'r swyddfa hon ond gwneud cais am danynt. COR YR EISTEDDFOD.-A ydyw Eisteddfod Llundain yn bwriadu cael cor Cymreig i roddi detholiadau o weithiau Cymreig ger bron y cyhoedd Seisnig. Mae'n hen bryd rhoddi'r syniad ffol heibio y dylem ni ym- gymeryd a rhai o weithiau mwyaf clasurol y byd Seisnig, fel pe gallai ein cor bychan ni wneud gwell cyfiawnder na dim a geir gan gorau mawr gwlad y Sais Os gwnawn ni y sylw priodol o'r iaith, ac o weithiau Cymreig ni fydd y Sais yn disgwyl dim rhagor. CANTORES ARALL.—Llongyfarchwn Miss May Morgan ar ei llwyddiant yn cael ei gwahodd, ac ar effeithiolrwydd y datganiad roddodd, mewn organ recital fawreddog, yn un o eglwysi pwysicaf Wolverhampton, y dydd o'r blaen. Aelod siriol yn eglwys Falmouth Road yw Miss Morgan, ac un o pupils disgleiriaf Miss Marie Stuart. Meddai lais melus, swynol, sydd yn awgrymu enaid wyneb yn wyneb a'r anrhaethadwy. Canodd, hefyd, yn ystod y Cymundeb yn Falmouth Road, nos Sul diweddaf; ac yr oedd ei dat- ganiad yn help i'r gynulleidfa addoli. Hir oes iddi, a llwyddiant mwy eto. WILTON SQUARE.—Nos Lun, Mehefin 1, anrhegwyd Mrs. Hugh Edwards, gweddw y diweddar flaenor anwyl, Mr. Hugh Edwards, a drawing-room clock and ornaments gan eglwys Wilton Square ar ei hymadawiad i fyw yn Prestatyn. Cyflwynwyd yr anrheg gan Mrs. Gwilym H. Havard, a siaradwyd gan lawer, yn ferched ac yn feibion. Unai pawb i ddymuno y goreu i Mrs. Edwards a Megan fach yn eu cartref newydd. Colled fawr i Wilton fydd ennill mawr Prestatyn, yn ddiau. EIN HAELODAU.—Gyda bod y Ddirprwyaeth Eglwysig yn cau y drws wele yr Aelodau Cymreig yn llawenhau i gyd. Dydd Mawrth penderfynasant i wasgu ar yr Ysgrifennydd Cartrefol i orfodi'r Dirprwywyr i gyhoeddi eu hadroddiad cyn diwedd y tymor presen- nol. Lied dda, wir! Miss IDA PARRY.—Dyma enw newydd ym myd y Gan i Gymry Llundain, a diau y bydd amryw am ei chlywed yn Steinway Hall nos lau nesaf. Genedigol o Aberyst- wyth ydyw Miss Parry, ac mae wedi cael nawddogaeth amryw o wyr urddasol ynglyn a'r cyngerdd yma o'i heiddo. Yn wahanol i'r arfer cyffredin, mae Miss Parry wedi dewis nifer o hen alawon Cymreig i'w cyf- lwyno yn y cyngerdd, a dylai y rhai hyn apelio at ei chefnogwyr o'r hen wlad. COR OYMREIG NEWYDD. Gwelir mewn colofn arall fod Mr. Vincent Davies ar ffurfio cor o Gymry yn y ddinas. Gan fod gennym ddigon o ddeInyddiau ymhlith y dinasyddion i wneud tri neu bedwar o gorau, hyderwn y try ymgais Mr. Davies allan yn dra llwydd- ianus. Rhy fach o sylw sydd wedi ei roddi gennym hyd yn hyn i ganu corawl. CORAU'R PLANT.—Mae pwyllgor yr Eis- teddfod Genedlaethol wedi cau cystadleu- aeth corau plant allan o'u rhaglen, a daw achwyniad yr wythnos hon fod pwyllgor Undeb Ysgolion M.C. yn rhedeg i'r un cyfeiriad drwy reolau sy'n cau allan y posi- bilrwydd i eglwysi bychain gystadlu mewn corau plant yng ngwyl Boxing night nesaf. Rhoddi pob cefnogaeth i gorau plant ddy- lid wneud yn ein heglwysi Cymreig, ac nid gosod rhwystrau ar eu ffordd a chreu pob math o reolau caeth a di-alw-am-danynt.