Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. LAURA EVANS.-Mae y gantores hon yn rhoddi Recital arbennig ar y 9fed o OrfTennaf. I Fel y dywedais eisoes yn y golofn hon, sieryd ei hathraw, Mr. lies, yn uchel am dani, a gwn ei fod yn disgwyl llawer oddi- wrthi fel cantores. Bellach caiff beirniaid y wasg Seisnig gyfle i roddi barn ar ei chanu. Rhydd ganeuon Eidalaidd, Ellmynaidd, Seisnig, a Chymreig-y rhai olaf yn hen iaith ei thadau. Hwyrach na fydd y beirn- iaid Seisnig yn gallu ei dilyn gyda'r cyfryw, ond yn sicr cant yn y caneuon ereill ddigon o gyfleusterau i ddodi eu liinyn mesur ar ei chyrraeddiadau hi. Da fod y gantores yn ddigon Cymreig o ran ysbryd i ganu yn yr hen iaith. Clywais am rai yn dewis ei 'hangofio, cyn o brin ddysgu yr iaith fain Y mae Laura Evans yn haeddu pob cef- nogaeth gan Gymry Llundain, a hyderaf yr a llu mawr i'w grandaw ar y 9fed o Orffennaf. Y MODD I DDOD YN GANTOR.-Clywodd y darllenydd yr hen ddywediad mai ag "ymenydd" yr arlunir. Y mae hyn yn ddigon gwir ond wrth gwrs rhaid wrth ddefnyddian a phethau ereill. Os yw y ilais i'r cantor yn cyfateb i'r paent i'r Arlunydd y mae "ymenydd" yn beth mor hanfodol i'r naill ag i'r Hall. Ond a chaniatau fod gan fab neu ferch his da ag "ymenydd" yn ol yr an gen, y mae yn naturiol iddo neu iddi garu gwybod pa fodd y llwyddodd ereill i ddod i enwog- rwydd. I ddechreuwyr yn enwedig, y mae cael profiad rhai ydynt wedi cyrraedd i'r uchel-fannau o werth mawr. G-allant felly fanteisio ar eu camgymeriadau hwy- i'w gochel; a dal ar y pethau hynny yn .eu hanes fuont o wasanaeth iddynt ar eu .gyrfa gyhoeddus. Yn ol Madam Tetrazzini, rhaid i'r cantor ieuanc wrth y pethau canlynol:— Yn y lie cyntaf, rhaid wrth lais da cyn penderfynu ar ganu am fywoliaeth. Hefyd, rhaid fod yn y cantor wir gariad at y gel- fyddyd ddatganyddol. Nid cariad ati -oblegid y gellir gwneud elw oddiwrthi; na, y rhywbeth uwch hwnnw a eilw yr Italiaid yn "dandwyfol" (holy fire). Rhaid hefyd wrth wir gariad tuagat y chwareudy—y stage," fel y dywed hi. Dywed fod y gwaith yn un pur galed- llawer caletach nag a feddylia yr ieuanc dibrofiad. Rhaid i'r cantor, gan hynny, wneud ei feddwl i fyny i ymroddi o lwyr- iryd calon i'r gwaith, po galeted a fyddo. Bywyd "caled" ydyw bywyd y cantor yn fynych, a rhaid i'r ieuanc sylweddoli hyn cyn taflu ei hun i'r Hi, i ymladd yn ei erbyn. Wedi'r brentisiaeth, y mae yn fynych yn anhawdd cael gwaith, a gall hynny olygu "caledi" ond rhaid cadw'r pen uwchlaw y don a phenderfynu ymladd nes cyrraedd y lan-sef llwyddiant. 0 berthynas i astudio, dywed Madam Tetrazzini nad yw o bwys ym mha wlad y gwneir hynny. Y peth mawr ydyw meddu llais cwbl naturiol. Dyma i'r darllenydd frawddeg fach i fyfyrio arni: It is not with the teacher that you make the most progress." HEN GERDDORION CYMREIG.-Wrth edrych dros hanes y rhai hyn, yn llyfr Mr. M. 0. Jones, Treherbert, meddyliais y byddai yn dda gan lawer o gerddorion ieuanc y dydd- lau presennol ddarllen ychydig am danynt- dynion nad yw, fe ddichon, ond eu henwau yn wybyddus iddynt. Ar un cyfrif y mae nid yn unig yn fuddiol, ond yn ddyledswydd arnynt—drwy gyfrwng hanes-i adnabod y rhai fuont yn flaenllaw i gadw'r gan yn fyw yng Nghymru cyn eu geni hwy. Oof da gennyf y fath symbyliad i mi fu MRS. MARY DAVIES, Y Bencerddes Gymreig, a Chadeirydd Pwyllgor Cerddorol Eisteddfod Caerludd 1909. darllen self help gan Smiles! adylaifod darllen hanes cerddorion ein gwlad yn sym- byliad i ni sydd yn ceisio gwneud rhywbeth dros y gelfyddyd ymhlith ein cenedl, er o dan f anteision Ilawer gwell. Y cerddor cyntaf y caf roddi ychydig o'i hanes ydyw JOHN ELLIS, LLANRWST. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1750, mewn amaethdy bychan o'r enw Caer Gerryg, ger Glyn Diphwvs, plwyf Llangwm, Sir Ddin- bych. Cyfrwywr (sadler) ydoedd o ran ei alwedigaeth. Tua'r flwyddyn 1780, symud- odd i Lanrwst, ac yno y bu am yn agos i ddeugain-mlynedd. Priododd ddwywaith. Pa bryd y dechreuodd astudio cerddor- iaeth nid ydyw hysbys, ond yn y flwyddyn 1800 ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd; a phenodwyd ef i fyned oddiamgylch i ddysgu cerddoriaeth i gynulleidfaoedd yr enwad. Prawf hyn ei fod yn gerddor da, ac yn ddyn o gymeriad da. Pwy wyr y lies wnaeth drwy hynny-pa symbyliad fu ei wersi syml ef i nifer o'i wrandawyr Yn y flwyddyn 1816-pan yr oedd yn 66 mlwydd oed, cyhoeddodd y rhan gyntaf o'i lyfr "Mawl yr Arglwydd." Daeth allan yn dair rhan. Gwnaed plates y rhan gyntaf yn Llundain, ac argraphwyd oddi arnynt gan wr lleol, o'r enw Ishmael Dafydd, yn Nhref- riw; ond yr oedd y papur a'r gwaith yn wael, fel y penderfynodd John Ellis ddwyn y rhannau ereill allan yn Llundain. Bu yma am fisoedd yn arolygu a chywiro y gwaith. Symudodd o Lanrwst i Lanfyllin, Sir Drefaldwyn, ac oddiyno i Lerpwl, lie y treuliodd weddill ei oes. Bu farw yn y flwyddyn 1834. Yn y gwaith Mawl yr Arglwydd," ceir darlun o John Ellis; hefyd gyfarwyddiadau at ddarllen a chanu, yna nghydag hyffordd- iadau i ddysgu cerddoriaeth. G-wneiryddwy ran olaf o'r gwaith i fyny, bron yn gyfan- gwbl, o'i ddarnau ef ei hun. Er ei fod yn gyfansoddwr melus a natur- iol, nid oedd wedi meistroli egwyddorion cerddoriaeth yn ddigon da fel ag i gyfan- soddi yn ddiwall; a chydnabyddir y brithir ei holl gyfansoddiadau a gwallau cynghan- eddoL Y mae ei don Elliot" yn adnabyddus i bawb o'r bron ac y mae Owain Alaw wedi ad-drefnu a chyhoeddi Molwch yr Arg- lwydd," "Duw yn ddiau a glybu," a Chan Moses," yn y Gyfres Gerddorol. Y mae yr hanes byr hwn o John Ellis ar unwaith yn profi ini ystad gerddorol ein gwlad gan mlynedd yn ol. Y pryd hynny elai y gwr hwn oddiamgylch i hyfforddi'r cynulleidfaoedd mewn cerddoriaeth, er na cheir fod gwaith ei flynyddau addfetaf ef ei hun ond amherffaith. Y pryd hynny yr ydoedd gweithiau cewri y byd cerddorol yn cael eu hastudio yn Lloegr. Awgryma hyn gymaint o rwystr i gynnydd y Cymry ydoedd gwybodaeth o ddim ond un iaith Ond y pennaf peth ynglyn a John Ellis ydyw, ddarfod iddo wneud a allai dros y Gân; ac er iddo fyned yn dylawd yn ei henaint, cyfoethogodd yr ysbryd cerddorol yng Nghymru. Y mae Gwalia Wen heb orffen talu ei dyled i'r cerddor anghenus hwn! Ond cafodd Mozart waeth triniaeth nag ef yn adeg ei gladdedigaeth, ac am ysbaid ar ol hynny. Hanes rhyfedd yw hanes "troion yr yrfa" i lawer

Am Gymry Llundain.