Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CYMRU A'I HYNAFIAETHAU.

News
Cite
Share

CYMRU A'I HYNAFIAETHAU. Y mae un Dirprwyaeth nodedig ar gilio o olwg y cyhoedd, ac yn swn ei ymadawiad wele hysbysiad fod Dirprwyaeth Gymreig arall arfin cael ei ffurfio Wrth glywed y newydd, y mae'n anhawdd ar y cyntaf i ni gadw rhag gwenu, pan feddyliom am hanes y Dirprwyaethau Cymreig yma yn y gor- ffenol. Maent, yn ddieithriad, wedi troi yn ffaeleddau chwerthinllyd, ac nid ydynt wedi bod o fawr werth i ni, fel cenedl, i sicrhau un math o ddeddfau arbennig. Llwyddodd y diweddar Tom Ellis gael gan weinydd- iaeth Gladstone i greu Dirprwyaeth i ymholi i hanes pwnc y Tir yng Nghymru, a chaed y fath gyfrolau o adroddiad fel y mae pob Gwleidyddwr o'r adeg honno hyd yn awr wedi ofni darllen eu cynnwys. Yn y Wein- yddiaeth bresennol wele Mr. Lloyd-George wedi trefnu Dirprwyaeth arall, i ymholi i hanes yr Eglwys, ac wfft i'r fath drybini y mae wedi achosi! Ond y mae gobaith fod gwawr newydd ar dorri ynglyn a'r Ddir- jprwyaeih sydd ar gychwyn yn awr Yn y lie cyntaf, nid Dirprwyaeth yn ym- wneud a materion dadleuol ydyw, eithr un er gwneud ymchwiliad i hanes a sefyllfa hynafiaethau ac adfeilion henafol perthynol i ni fel gwlad. Mae gennym lu o hen feini coffa o adeg y Derwyddon gynt, a does neb a wyr eu hanes. Addurnir ein gwlad a llu mawr o gestyll talgryf, rhai wedi dal ger- winder yr oesa-LL, tra mae ereill wedi syrthio i ddinodedd ond nid oes modd i'r cyhoedd gael cyfle i'w hachub rhag llwyr ddifodiad. Mae llu o hen adeiladau gwerthfawr ar hyd a lied Cymru, yn werthfawr oherwydd y traddodiadau cenedlaethol ynglyn a hwy; eto nid oes gan y bobl na llais na gallu i wneud dim ynglyn a'u cadwraeth. Felly, amcan pennaf yr ymholiad hwn fydd dod o hyd i'r hynafiaethau hyn a chael allan pa nifer sydd o werth i'r cyhoedd, pa beth yw eu cyflyrau, a phwy sydd yn eu perchenogi. Mae'r Ddirprwyaeth yn werth ei ffurfio, a chan fod y mater yn beth uwchlaw plaid ac enwad, hyderwn y bydd o fudd cenedlaethol; ac y ceir undeb cyffredinol, fel ag i. sicrhau cadwraeth yr hen adfeilion dyddorol ac, hanesyddol hyn.

[No title]