Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
GWLEDD Y CYHOEDDI.
GWLEDD Y CYHOEDDI. le, diwrnod mawr i'r beirdd Cymreig yn Llundain oedd dydd Mercher, y lOfed o'r mis hwn. Profodd gwyl y cyhoeddi yn un o'r cyfarfodydd mwyaf llwyddiannus a welwyd ynglyn a'r Orsedd era llawer dydd. Yr oedd yr hin ar ei goreu, y cwmni mewn cywair llawen ac yn barod i gynnal gwyl; a'r man mor fanteisiol fel nad oedd yn syndod i filoedd lawer ddod ynghyd. Yr unig an- fantais, hwyrach, oedd y ffaith fod meini y cylch o anghenraid yn rhai bychain. Nid oedd yn bosibl sicrhau meini o rhyw ddeng tunnell yr un, a phe cawsid rhai trymion ni fuasai caniatad i'w dwyn i faes Gwyr y Gyfraith. Felly bu raid gwneud y goreu a'r rhai bychain a bwrcaswyd at y gwaith. Addefai yr oil o'r urddasolion oeddent wedi dod i'r wyl i'r holl weithrediadau gael eu dwyn ymlaen gyda gweddeidd-dra a dif- rifwch teilwng o hen ddaliadau y Derwyddon gynt. Os oes gwerth neu amcan o gwbl mewn seremoni neu ddefod, wel boed i ni ei chadw yn ei dwyster a'i difrifwch beth bynnag fo'n barn am dani. Chwareu teg i reolwyr yr Orsedd hon aed a'r gwaith ym- laen yn hollol weddaidd; yr hyn a fawr edmygid gan y rhai oeddent wedi dod yno i wylied y gweithrediadau. Er mwyn cwblhau y diwrnod yn ei flas y trefnwyd y cinio mawr yn yr Holborn— yng ngwesty Nant-Hen, fel y tystiai cerdyn y pwyllgor. Yno yr oedd neuadd y brenin wedi ei. sicrhau, a daeth y cannoedd yno yn fyrddeidiau lliosog. Wrth y prif fwrdd eisteddai Arglwydd Aberdar fel LLYWYDD Y WLEDD, a chefnogwyd ef gan Dyfed, yr Archdder- wydd, ac Elfed, heb son am amryw o wyr enwog ym myd lien ac addysg. Yn eu plith gellid enwi Gwynedd, Gwynfe, Dr. D. Thomas, Mr. J. T. Lewis, Ben Davies, Herbert Roberts, A.S., T. H. W. Idris, A.S., a Mr. Herbert Morgan. Llywyddid yr is fyrddau gan y rhai canlynol :-Mr. P. W. Williams, Mr. Tom Davies. Mr. W. Price, Mr. Tom Hinds, Mr. G. W. Jones, a'r Capten Jenkins, a gofalent fod y rhai oedd ar eu byrddau yn mwynhau eu hunain ym mhob ystyr. Gofalodd y Mri. W. E. Davies a D. R. Hughes fod bwydres foetbus wedi ei threfnu, a theimlai pawb oedd yno yn bwyta, na cbaed gwell cinio yn Nant-Hen ers amser hir. Ar derfyn y bwyta, caed y llwncdes- tynau arferol gan y llywydd, ac yn ddilynol, yfair yn dymuno llwydd Cymru." Yn ystod ei araith yr oedd yn llawenhau with weled y croesaw oedd Cymry LJundain wedi ei roddi i'r Eisteddfod, fel yr am]ygwyd yng ngweithrediadau yr Orsedd yn y pryd- Dawn. 'Roedd Cymru wedi cymeryd camrau breision ymlaen ar lwybr diwylliant yn y blynyddoedd diweddaf hyn, a diau fod hynny i'w briodoli yn bennaf i'r mudiad addysgol o'i mewn. Ar un adeg ni ellid enwi ond ychydig o wyr bydenwog a berth- ynent i'n cenedl, ond erbyn heddyw 'roedd y xhod wedi troi; a Chymry glewion oedd yn llanw y safleoedd mwyaf pwysig yn y wlad- Wriaeth. Yr oedd yr ysbryd cenedlgarol edi myned yn fwy byw, a hyderai y byddai ein gwyr ieuainc yn y dyfodol, nid yn unig ya genedlgarwyr pybyr ond yn iaith garwyr hefyd, fel ag i roddi ei lie haeddianol i'r hen Gymraeg. Atebwyd ar ran Cymru gan Syr Marchant Williams a Mr. L. J. Roberts, Arolygwyr yr Jsgolion. Dywedodd Syr ^Marchant, yn ei "dull marsiandiol, fod llawer obobl yn barod 1 anwybyddu*?!glewion einj gwlad ac i i anghofio fod Cymru wedi rhoddi magwr- aeth i lu o wyr urddasol. Mewn cyfrol newydd am hanes enwogion y Wyddgrug 'doedd yr un gair am Richard Wilson, yr arlunydd, a chai'r awdwr wybod hynny pan yr adolygai ef y mis nesaf. Nid yn unig yr oedd rhai yn anwybydduein enwogion, ond hefyd yn ceisio diraddio ein llenyddiaeth a'n hiaith. Yr oedd ef, er hynny, yn ymladdwr cadarn dros ragoriaeth y naill a pharhad y Hall. Yr oedd ef yn amcanu at gyfieithu rhai darnau o Omar Khayam i'r Gymraeg, a chredai ef y llwyddai i ryw fesur hefyd ac yna caed rhai engreifftiau o'i waith. Araith fer gaed gan Mr. L. J. Roberts, a baich ei genhadaeth oedd, mai prif gyfoeth Cymru oedd ei chyfundrefn addysg. Wrth gynnyg yfair yr Eisteddfod a'r Orsedd," clywyd Mr. Vincent Evans ar ei oreu; ac nid syndod iddo gael hwyl yn ei bregeth, gan fod y testyn yn un hoffus ganddo. Yr oedd yr Eisteddfod yn hen, ac wedi goroesi ami i flinder. Cenhadaeth yr Orsedd a'r Eisteddfod, yng ngeiriau Dafydd ap Edmund gynt, oedd cof am a fu, ystyr am y sydd, a barn am a fydd a phan fydd ymosodwyr yr Eisteddfod yn ceisio ei difetha, bydd yn ysbrydiaeth i ni gofio am a fu yn ei hanes, ei bod wedi goroesi pob ymosodiad hyd yn awr. Fel Cymry Llundain, yr oeddem yn teimlo yn falch o'r Eisteddfod, ac yn benderfynol o'i chadw yn ei hurddas Gym- reig pan y deuai ar ymweliad a ni yma y flwyddyn nesaf. Atebwyd gan yr Archdderwydd Dyfed, yr hwn a ddywedodd ei fod wedi ofoiunwaithy buasai yn rhaid iddo ddweyd gair yn Saes- neg, ond yr oedd yr awyrgylch Gymreig ynglyn a'r cyfan, drwy weithrediadau y dydd, wedi peri cryn foddhad iddo. Yr oedd ef ar ran yr Orsedd yn diolch i Gymry Llun- dain am y modd tywysogaidd oeddent wedi gwahawdd a derbyn y beirdd i Wyl y Cyhoeddi. Ategwyd hyn gan Gwynedd mewn araith ymfflamychol. Llwyddiant Eisteddfod Llundain oedd testyn araith Mr. J. Herbert Roberts, A.S., a chaed gair canmoliaethus ganddo ar werth yr hen sefydliad fel magwrfa ein beirdd a'n cantorion. Atebwyd ar ran y pwyllgor Llundeinig gan y ddau drysorydd, Mr. J. Pritchard Jones a Mr. J. Hinds. Dywedodd y blaenaf ein bod, fel Cymry oddicartref, wedi pender- fynu i wneud yr oil a allem ar ran yr Wyl y flwyddyn nesaf, a chredai nad oedd neb yn fwy cenedlgarol na Chymry Llundain. Hawliai Mr. J. Hinds fod Cymru yn fwy nodedig yn awr nag erioed, ac fod Cymry Llundain yn dechreu dod i'w hetifeddiaeth. Yr unig ffordd i wneud yr wyl yn llwydd- iant oedd, ar i ni oil uno gyda'n gilydd, a chyfranu ar unwaith tuag at gyllid y mudiad, fel ag i wneud y pwyllgor yn hollol rydd oddiwrth ofalon arianol. I derfynu, caed araith edmygol gan Dr. Hartwell Jones ar Arglwydd Aberdar fel llywydd y wledd, a rhoed derbyniad cynnes i'w eiriau tyner. Yn ystod y noson caed detholiadau o hen alawon Cymreig gan feibion Cor Merlin Morgan, y rhai a fawr fwynhawyd gan y dorf hefyd engreifftiau o ganu penillion gan Miss Cordelia Rees ac Eos Dar, gyda Mr. Tom Davies, fel Telynor, yn cyfeilio.
MANION EISTEDDFODOL.
MANION EISTEDDFODOL. Ni chafodd Cymry'r ddinas y fath sylw ers hir amser, ag a gawsant gan y wasg Seisnig trannoeth i'r Orsedd, yr wythnos ddiweddaf. RHODDODD Mr. Llewelyn Williams, A.S., groesaw cynnes i'r hit farddol yn ei ystafell-T oedd eang yn y DemL Bu dros ddau cant yn cael te yn ei gwmni, a diolchwyd yn gynnes iddo ef a'i briod am eu caredig rwydd. Os caed areithiau da yn yr Orsedd, rhaid addef mai gwan oedd y mwyafrif a gaed yn y wledd yng ngwesty Nant-hen. Y rheswm, yn ddiau, oedd fod y traddodwyr yn lludd- edig ar ol gorchwylion y dydd. Gellid meddwl fod amcan arbennig gan C3 bwyllgor y wledd yn dewis Syr Marchant a Mr. L. J. Roberts i siarad tros Gymru. Gwnaeth y ddau hynny mewn areithiau cymysglyd o Saesneg cyffredin a Chymraeg clogyrnaidd. Hawyr a yw'r ddau am droi yn Ddic Shon Dafyddion. Deallwn fod y pum brawd Llundeinig a dderbyniwyd i gylch yr Orsedd ar eu goreu y dyddiau hyn yn dysgu'r cynghaneddion. Mae Eifionydd wedi gwneud ami i orchest ddewr, ond os llwydda i wneud beirdd o'r rhain, bydd cynhaliaeth Eisteddfod Caerludd wedi ei Iwyr gyfiawnhau.
YR HAUL.
YR HAUL. 0 wely clyd y nos Daw'r haul i wenu'n lion, Adfywia natur dlos Rhydd yni yn ein bron; Yr awel fwyn wasgara'n der Swynhudol sawr rhosynau per. Gwyrddlesni ddyrch ei ben Edmyga wên yr haul, Ei gusan rydd o'r nen f I'r blodau rhwng y dail; Mae popeth byw yn hoffi gwres Gwroli wna mewn hafaidd des. Adlonydd daear yw A Iluniwr anian dlos, Cynbesa ruddiau byw Y lili wen a'r rhos Diolcha'r byd i gyd yn grwn Am hyfryd haf dan wenau hwn. Ar wybren las y nen Ymdeithia cawr y dydd, Sibryda'r lleuad wen Ysblander ynddo sydd, Addolir ef mewn Ilawer gwlad Nad oes o'i mewn Efengyl rad. Harrow. LLINOS WYRE.
[No title]
YN ol pob argoelion, ni lwyddir i gael Mesur y Tiwyddedau drwy'r Senedd cyn diwedd y tymor Hydrefol. Mae'r Wein- yddiaeth wedi trefnu y fath raglen hirfaith fel nlai anhawdd fydd iddi gwblhau y ddeg- fed ran o'i bwriadau. Er hynny, mae'n benderfynol, i wneud ei goreu i gwblhau pwnc y dafarn os yn bosibl.
[No title]
AR FYNY.—Does neb fel y Cymry, meddir, am lwyddo yn y Drapery Trade. Wel, mae llu o fechgyn glew o'r hen wlad yn gwneud yn rhagorol ar hyn o bryd yn y ddinas. Yr wythnos hon clywsom fod y gwr ieuanc, Mr. D. J. Thomas, trysorydd Cymdeithas Lenyddol King's Cross, wedi ei benodi yn brynwr ar y Dress Department yn masnachdy mawr y Mri. Shoolbred. Pob llwydd iddo yn y safle mae wedi esgyn iddi mor ieuanc yn ei hanes.