Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

I 'Eisteddfod Caerludd, 1909.…

News
Cite
Share

I Eisteddfod Caerludd, 1909. — 1 • mm—. GWYL Y CYHODDI. CYNULLIAD MAWR 0 GYMRY LLUNDAIN. Ar awr anterth ddydd Mercher diweddaf gwnaeth y beirdd eu hunain yn amlwg yng ngerddi hardd yr Inner Temple. Yno, trwy ganiatad arbennig aelodau enwog y Demi Gyfreithiol, y cynhaliwyd Gwyl y Cyhoeddi, a chafwyd llu o wyr blaenaf ein cenedl i roddi eu presenoldeb yn y gweithrediadau. Yn ol rheolau Gorsedd y Beirdd rhaid cynnal cyhoeddiad" o flaen pob Gwyl Gened- laethol, a gwnaed hynny gan yr Archdder- wydd yn yr araith a ganlyn, oddiar y Maen Llog BYDDED IIYSBYS. Pan y bydd oed Crist yn 1908 a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Prvdain yn Alban He fin ar Ddydd Alban Hefin ai syrth ar y ddegfed ddydd o fis Mehefin a dydd cyntaf yr Haf yw a dydd hwyaf yr Haf ar ol y gwys ar Gwahawdd hynn i Gymru oil, gann Gorn Gwlad, o'r amlwg yngolwg, yn nghlyw Gwlad a theyrnedd, dan osteg a rhybydd un dydd a blwyddyn Cynhelir Gorsedd wrth Gerdd yn Ngerddi y Demi (Nesaf i mewn) yn Ninas Caerludd ag hawl i bawb a geis- iont Fraint a thrwydded wrth Gerdd Dafawd a Cherdd Dant i gyrchu y Dref honno, yn awr cyntefin Anterth, a chynud gan Haul: lie ni bydd noeth arf yn eu herbyn, ac yno yn Erwynebol y Tri Chyntefigion Beirdd Ynys Prydain, nid amgen Plenydd, Alawn, a Gwron a chyda hwy Dyfed, Cadvan, Berw, Gwynedd, Alavon, Gwynfe, Pedrog, Ben Davies, Elfed, Llwyd o Eifion, Rhys Blaen Rheidol, Cynhaiarn lob, Vinsent, Ap yr Hen Wyliedydd, Machreth, Rhuddwawr, Elphin, Marchant, Llwydfryn, Moras Glaslyn, Meurig Wyn, Ap Gwyneddon, Pencerdd Gwalia, Ap Idanfryn, Tecwyn, Llew Tegid, Arlunydd Penygarn, Eifionydd, Pencerdd Ogwen, Pen- cerdd Llyfnwy, leuan Arfon Bencerdd, Pen- cerdd Peris, Lewis Glan Aeron, ac eraill; a hwynt oil yn Feirdd a Thrwyddedogion, wrth Fraint a Defawd Beirdd Ynys Prydain ac yno cynnal Barn Gorsedd ar Gerdd a Barddoniaeth, ac ar bawb, parth Awen, a Buchedd, a Gwybodau, a geisiont Fraint, ac Urddas a Thrwyddedogaeth wrth Fraint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, yn wyneb haul, llygad goleuni. LLAFAR BID LAFAR." Y GWIR YN ERBYN Y BYD." "DUW A PHOB DAIONI." Wedi i'r corn gwlad gael ei seinio, ac i'r Orsedd gael ei hagor yn ffurfiol, offrymwyd y weddi a ganlyn gan Gwynedd :— Dyro, Dduw, dy nawdd, Ag yn nawdd, nerth, Ag yn nerth, deall, Ag yn neall. gwybod, Ag yn ngwybod, gwybod y cyfiawn, Ag yn ngwybod y cyfiawn, ei garu, Ag o garu, caru pob hanfod, Ag yn mhob hanfod, caru Duw. ANERCHIADAU BARDDONOL YR ORSEDD. Dan wawdlyd ser bu Gwalia wen, Ond braint yw 'nawr ei henwi; Caerludd a'i brad ddifrododd wlad Llywelyn, eilun Cymru; Ond gorsedd lan mewn kwyliog gan A godwn yn y ddinas, Anghofiwn hynt y Saeson gynt, A'u creulawn, erch, alanas. Bu Buddug dderch, a'i thanllyd serch, Yn arwain y Brythoniaid, Ag uchel lais, yn erbyn trais, Echryslon y Rhufeiniaid. Ei hysbryd hyf sydd eto'n gryf Mewn bardd a cherddor hylon, Eu cynghan mwyn, sy'n llawn o swyn, Yn fflamio serch ein calon. Y Tafwys gu, a glywodd gri, Tywysogion gore Cymru Yn ngharchar du y Twr y bu Ein dewrion gynt yn gwaedu. Ond heddyw sain, yr udgorn cain Uwch Tafwys sydd yn adsain Molawdau byw, ein gorsedd wiw, Dros fyd sy'n diaspedain. T. Manly Rees. I. Bu'r Demi gynt yn gartref iach Mynachod a Marctiogion; Fe haera llawer 'nawr nad yw Y lie ond ogof lladron fae heno'n annedd Awen fyw Sy'n canu ym mhob calon II. Bu amser gynt pan hen Gaerludd Berthynai i bob Brython Dcteth tro ar fyd, a phawb 'nawr sydd Yn sisial iaith y Saeson Ond heddyw gwelir Cymru Fydd Yn eofn ger yr afon III. Rhuthro wnelai'r Cymry clen Dros hen Glawdd Off a'n fentrus, A dychwel wnant ag aur y Sais Yn grog wrth bais a gwrègys; Rhagorach cynllun Cymru 8ydd- Llwyd Sior sy'n y Trysorlys IV. 0 flaen drws y Deml hon Fe grogwyd pen Llewelyn; Gwatwarwyd ef a'i lawryf gwyrdd Gan fyrdd o wyr y gelyn Llewelyn heno sy'n rhoi te Yn melus swn y delyn. V. Prifddinas Cymru yw Caerdydd," Medd gwyr Morganwg gymhen Archdderwydd dedwydd da syn byw Ar lanau'r Taf yn llawen Cydfloeddia pawb mai Llundain Fawr 'Nawr yw Prif-ddinas Awen! VI. Hi yw cartrof Elfed fwyn, A Rhuddwawr, brif-fardd hylon Ac Ernest Rhys, a'r Pencerdd glan, A Machreth ddawnus ddigon A mwy na'r cyfan, llyma ceir Cymraeg y Cymmrodorion! VII. 0 bob rhyw wlad sydd dan y rhod Yr oreu ydyw Cymru, A bydd y byd, mae'r dydd ar ddod, O'i blaen yn isel blygu Pryd hynny clywir seinio clod Uwmscwt yn MhiccadilJy! VIII. Croesaw fil i Ddyfed lwys, A Gwynedd, bwysig berson I Gadfan hardd, i Farchant fardd, I ardd yr hen Farchogion, Ac i Eifionydd, fawr ei fltSS- Gwr nervous o Gaernarfon IX. C-well gan rai y rhosyn del Na cheinder ffel y pansi; Gwell gan inau enw Nel Na Morfydd, Gwen, na Nansi; Ac o'r gler 'does neb un fel Y Vinsent 'not fy ffansi! X. Mae Cymru'n dringo yn ei blaen- Rhy hwyr i neb ei hatal- Fe sengir Lawnt y Demi Lân. Gan draed ei beirdd mewn sandal; Llwyd Sior a aeth i'r top bob cam, A Sam yn SoJicitor-General Llwydfryn a'i Cant. Yn wyneb haul hudwenol,-seiniau cerdd Sy'n y cylch hynafol; Cyn troi'r can hen Walia'n ol Y Dafwys dry'n dAn deifiol. DyJeà,

MARWOLAETH MR. DAVID JONES