Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Llyfrau Ysgol. Un o'r arwyddion mwyaf gobeithiol ynglyn a pharhad ein llenyddiaeth ydyw'r nifer liosog o Lyfrau Ysgol a droir allan y blynyddoedd hyn at wasanaeth y dosbarth- au Cymreig. Un o'r cyhoeddwyr mwyaf blaenllaw yn yr anturiaeth hon yw Cwmni'r Cyhoeddwyr Addysg ym Merthyr ac mae'r cyfrolau sydd wedi eu dwyn allan ganddynt yn cael derbyniad calonog yn y gwahanol ysgolion. Mae'r Mri. Hughes a'i Fab, o Wrexham, wedi dwyn allan rai llyfrau pwr- pasol dros ben, ac anhawdd yw gwella ar y gyfrol fechan, A guide to Welsh," sydd ganddynt. Cyhoeddwr blaenllaw arall yw Mr. J. Southall, o Gasnewydd, ac mae ei gyfrolau yn ddysgedig a defnyddiol. Yr hyn sydd eisieu yn awr yw ar i Ysgolion Cymru wneud eu goreu i gynorthwyo y cyhoeddwyr lleol hyn. Mae'r maes yn gyfyng iddynt, ac os yw ei gwladgarwch yn werth rhywbeth dylai fod yn ddigon rhydd- frydig i gefnogi a chalonogi y ihai sy'n anturio fel hyn ar ran ein llenyddiaeth. Robert Owen. Y dydd o'r blaen daeth cyfrol fechan y Parch. Richard Roberts, B.A., i'n llaw, megys ar antur. Rywsat neu gilydd, nid oeddwn wedi clywed yn flaenorol am ei cliyhoeddiad, ond ar ol ei chael y mae'n haeddu sylw. Ysgrifenwyd y gwaith gogyfer ag Eisteddfod Lerpwl yn 1900, a chafodd Mr. Roberts y wobr a gynnygid y pryd hwnnw. Yn anffodus, nis gallodd Cym- deithas yr Eisteddfod weled y ffordd yn glir i gyboeddi'r gwaith, a disgyn y gorchwyl hwnnw ar yr awdwr ei hun. Trwy gymorth Mr. 0. M. Edwards, wele'r gyfrol gyntaf o'r gwaith wedi cael goleu dydd,a chyfrol ddydd- orol iawn ydyw. Mae hanes Robert Owen, y Sosialydd, yn darllen fel rhamant, ac mae eisieu ei dvsgu i'r t6 ieuanc o Gymry sydd yn codi. Efe oedd rhagredegydd y mudiad cydweithiol; ond, yn anffodus, nid ydyw wedi cael ei le gennym ni yng Nghymru hyd yn hyn. Gobeithio y caiff cyfrol fechan Mr. Roberts gylchrediad helaeth, ac y llwydda i ennill edmygwyr o'r newydd i gredo gymdeithasol y llanc hynod o Dref- newydd. Drychfeddyliau detholedig. Anaml y ceir cyhoeddwyr Seisnig i ddwyn allan gyfrol Gymraeg, ond wele eithriad i'r rheol yng ngwaith y Mri. Allenson yn danfon allan i'r byd gyfrol ddestlus o berlau myf- yrdodol y diweddar Barch. William Jones, Abergwaen. G-weinidog enwog gan y Bedyddwyr oedd y Parch. W. Jones, ac yn un o feddylwyr cadarnaf ei oes a'i enwad. Cesglir yma gyfres nodedig o'i ddywediad- au, a rhoddir cymeradwyaeth iddynt gan enwogion ereill ym mhersonau y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George a'r Parch. J. Thomas, Lerpwl. Mae meddyliau yr hen seraph bregethwr hwn yn werth eu hail- adrodd, a gall ein pulpud a'n pobl gyhoedd- Us eu defnyddio yn ami, bellach, diolch i'r gyfrol hon. Gwrandewch arno yn siarad 4 Y concro pennaf fu yn y byd erioed oedd y concro fel y gwnaeth Iesu trwy garedig- rwydd, gwneud pob un yn ewyllysgar." Eto, "Nid yw Atheist yn gwneud yr un aberth. Y mae'n gystal gwrandaw ar deiliwr yn ceisio profi doctoriaeth a chlywed Atheist yn dywedyd yn erbyn Cristionog- aeth." Hefyd, "Fe fydd eisieu llywod- raeth wedi i bechod fyn'd o'r byd. Y drychfeddwl o lywodraeth yw cyfiawnder." Mae'r gyfrol yn llawn gemau drwyddi, ac er ei fod yn arfer llawer a'r iaith lafaredig, y tnae hynny yn ami yn rhoddi nerth i'r genhadaeth a fwriadai draethu. Pris y gyfrol yw tri swllt, a gellir ei chael gan Mri. Allenson. Ll enyddiaeth Gyfieithiedig. MAE'R ysfa am gyfieithu barddoniaeth Gymraeg i'r Saesneg yn fyw iawn y dyddiau hyn, ond mae rhai o'r cynyrchion yn ein hadgoffa o'r hen frawd hwnnw a gredai ei fod wedi cyflawni gwrhydri llenyddol pan drodd y pennill a ganlyn i Saesneg clasurol. Dymar llinellau gwreiddiol:— 0 bydd i ddyn fy nhwyllo unwaith Duw faddeuo i hwn ei ddrygwaith Ond o'm twylla ddwy o weithiau Duw faddeuo am hyn i minnau. ac fel hyn yr oedd ei gyfieithiad o'r gwaith If a bloke should cheat me oncely God forgive him very muchly; Should he cheat me tho' two timeses The Lord forgive me for my crimeses. Bardd Disgrifiadol. Dyma ddisgrifiad un bardd Ileol yn ddi- weddar o'r arweinydd canu cymanfaol:— Gwelwch e'n taflu ei freichiau Yn rhwyfo fel pe mewn ffits Paffio yn wyllt a'i ddyrnau Pan mae am special hits! Wincia a'i lygad arall, Yna a'i lygad de, Pan mae y bas neu'r alto I daro mewn i dre Marchant fel Bardd. HIRAETH AM FAIR ELUNED. Pe cawn i Mair yn ol! Y mawl a'r clod sy'n d'od o byd- Yr oil a feddaf yn y byd- Os rhoddais arnynt gynt fy mryd- Wel dyma nhw Ti cei nhw'i gyd, Os Mair a ddaw yn ol. O'r hiraeth ar ei hoi! Fy ngeneth dyner, deg, ddinam- Ti aeth a hi, nis gwn paham- Nid wyf yn dweyd y cefais gam- Ond beth yw'r byd i mi a'i mam Os Mair ni ddaw yn ol ? O'r hiraeth ar ei hoi! Mae'r plant mor llawen ag erioed Maent fel yr adar yn y coed- A ninnau wedi colli'n hoed Drwy golli clywed swn ei throed- A Mair ni ddaw yn ol. O'r hiraeth ar ei hoi 0 fewn fy nghalon gwnaeth ei thr6, Ac yno 'roedd yn llond ei lie; Yn awr y mae o fewn y Ne', A minnau 'rwyf—ni waeth ymhle- Y Mair ni ddaw yn ol. •

Am Gymry Llundain.

[No title]