Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LABOUR NOTES FOR LONDON WELSHMEN.

CYFARFODYDD.

[No title]

News
Cite
Share

MYNED ar gynnydd mae dilynwyr Camp- bell yn Neheudir Cymru. Mae rhyw swyn rhyfedd yn athrawiaethau amhenodol y Ddiwinyddiaeth Newydd i'r gwrandawr Cymreig. NID yw'r Barnwr Bryn Roberts yn ffefryn gan bobl y Deheubarth; yn wir, byddai'n dda gan rai o'r glowyr glywed ei fod wedi cael ei alltudio yn ol i gilfachoedd anghys- bell yr Eryri. Y rheswm am hyn yw, mae'n debyg, fod Bryn ar y fainc, fel yn ei ddydd- iau Seneddol gynt, yn hoffi gweithredu yn anibynol. Mae yn fwy hoff o lynnu wrth lythyren y gyfraith, nag yn ol ei hysbryd, fel ag y gwna barnwyr ereill ar adegau.