Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
LABOUR NOTES FOR LONDON WELSHMEN.
LABOUR NOTES FOR LONDON WELSHMEN. There is a very characteristic story of Ralph Waldo Emerson that is not inappli- cable to the London Welshman. One day, at his dinner table, mention was made of a certain person well known for his anxiety to be in touch with the lions of his day and in speaking of him, Mrs. Emerson described him as a snob to this Emerson objected. His wife asked how would he then characterise him. Speaking very slowly, Emerson said, "I should say that he was a person having a great sympathy with success." The London Welshman has a good deal of sympathy with success; especially com- mercial success. With the great organising talents, the far-reaching foresight, and the almost mystic knowledge of human nature that our great captains of industry are credited with, ranks the ability of money- getting as the supreme test of exceptional ability, and it manifests itself in our smaller captains in a decreasing ratio down to the vanishing point of merely earning a living. So far, however, is it from being an ex- ceptional ability, that it is the most ordinary and commonplace of them all, as witness the growth of the co-operative movement. Co-operation itself is a great moral ideal that sprang from the brain of Robert Owen, the Welshman, whose character was too great to be brought between the fair corners of the Cyffes ffydd," and was, therefore, unknown to his countrymen, or ignored by them. But the work of carrying out the business side of co-operation has been in the hands of ordinary commonplace men, untrained work- men, uncommercial artizans with nothing to distinguish them but ordinary common- sense, and yet these grey-coated, ordinary individuals, from the time that three of them took down the shutters of a tiny shop in Toad Street, Rochdale, in 1844, with a capital of Y,28, have developed a business that makes the efforts of our biggest captains of industry to appear like the play of children. To-day the capital of the tiny store has developed into the colossal sum of £ 32,055 229. and their turnover last year was £ 105,717,699, and their profits were over 12 millions sterling. Hearing these facts in mind when esti- mating our merchant princes, we can ensure a great saving in our superlatives. WHY TRADE IS BAD. We have, by this time, become so used to the phenomenal figures of the Board of Trade, denoting the great expansion of business during the last four or five years, that the ordinary man can hardly account for, or explain the general cry that is heard, on all sides, that trade is bad. When it is borne in mind that, with some exceptions, the most important factor in distribution is the spending power of the worker, the following facts, taken from official figures, may indicate some reasons why trade is bad. During the last eight years, in spite of our great expansion of trade, there has been a reduction in the aggregate wages received by the workers of this country. During last April there was reported a decrease of £ 10,000. Among trade unionists, not counting those on strike, there are 7.V per cent. out of em- 2 ployment a higher number than we have had, except in December 1904, for 25 years. The number of paupers has increased 16 per cent. since 1900 and since that year the increase in Customs and Excise duties, four-fifths of which are paid by the worker, has been 9-20,000,000. As is customary during all trade booms, there has been an inflation of prices; and during the last boom there has been an estimated rise of 25 per cent. So with prices higher and wages lower, the worker, in spite of our great increase in trade, is poorer than he was seven or eight years ago. And yet, during the last 10 years, the increase in incomes assessed for Income-Tax amounts to no less a sum than C246,000,000 per annum. These are some of the reasons that have influenced the South Wales miners to sever their allegiance to the Liberal Party, and, by a majority of over 30,000, to decide on joining the Labour Party in the House of Commons in order to secure a more equit- able share of this enormous increase of wealth, that is being monopolised more and more by a decreasing number of the nation. MERLIN.
CYFARFODYDD.
CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. JEWIN, Mai 27.-Llywydd, y Parch. R. O. Williams. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. J. Morgan, Holloway Darllenwyd Ilythyr trosglwydd- iad y Parch. D. Tyler Davies o Gyfarfod Misol Brycheiniog i undeb a Chyfarfod Misol Llundain. Rhoddwyd cymeriad uchel iddo fel gweithiwr ffydd- lon, pregethwr poblogaidd, a gwr cadarn o fewn cylch ei Gyfarfod Misol. Cafodd dderbyniad cynnes dros ben yn ein plith gan y Llywydd ar ran y Cyfarfod Misol, ac atebodd yntau mewn ychydig eiriau pwrpasol. Penodwydd y Parch. J. E. Davies, M.A., a Mr. J. Burrell i gynrychioli y Cyfarfod Misol ar Bwyllgor Cymdeithasfa y De ynglyn ag achos Hermon, Tonypandy. Rhoddodd Mr. Daniel Williams adroddiad y cenhadon fu yn Falmouth Road, ac hysbysodd fod eglwys yno wedi llwyddo i ddewis tri o flaenoriaid newydd, sef Mri. John Jones, H. J. Lewis, a William Williams. Cadarnhawyd yr adroddiad, ac appwyntiwyd y Parch. J. Wilson Roberts a Mri. J. Morgan a John Thomas i fyned yno Mehefin 4ydd i'w holi a'u gosod yn eu swydd. Rhoddodd Mr. O. M. Owen adroddiad y cenhadon fu yn Wilton Square, ac hysbysodd fod yr eglwys yno wedi llwyddo i ddewis pump o flaenoriaid newydd, sef Mri. J. M. Davies, J. Herbert, William Jones, Edward Jones, ac O. M. Owen. Cadarnhawyd yr adroddiad, ac appwyntiwyd y Parch. P. H. Griffiths, Mri. O. M. Owen ac Owen Williams i fyned yno i holi a gosod y brodyr hyn yn eu swydd. Pasiwyd i anfon cofion y Cyfarfod Misol at y cyfeillion canlynol:-Mr. Stephen Jones, Stratford, a'r Parch. Robert Parry, B.A., Llanrug ynghyda llythyrau cydymdeimlad i'r cyfeillion canlynol:—Mr. James Evans, Clapham, ar farwolaeth ei dad Mr. David James, Clapham, ar farwolaeth ei frawd ac hefyd gweddw y diweddar Barch. J. Williams, B.A., Wrex- ham. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor Enwi, a phasiwyd i ofyn i Mr. R. 0. Jones barhau fel ysgri- fennydd y Gymanfa Ganu y flwyddyn nesaf eto. Rhoddodd y Parch. J. E. Davies, M.A., adroddiad cynwysfawr a gwerthfawr o weithrediadau Cym- deithasfa y De yn Cilgerran. Da iawn oedd gennym weled yn bresennol y Parch. Edward Evans, yr hwn sydd ar fyned allan yn gen- hadwr dan nawdd y Sudan United Missionary Society i Upper Nigeria. Rhoddodd y Llywydd dderbyniad caredig iddo. ac wedi ychydig eiriau cynnes, llawn ysbrydiaeth, gan ein brawd, pan y dangosodd angen mawr Canolbarth Affrica am gen- hadwr, cynygiwyd gan y Parch. J. E. Davies, M.A., ac eilwyd gan y Parch. F. Knoyle, B A., a phasiwyd yn unfrydol ein bod fel Cyfarfod Misol yn datgan ein teimladau da tuag ato, ac yn dymuno bendith Duw arno yn ei faes pwysig. Penodwyd Mr. William Evans, Wilton Square, i gynrvchioli y Cyfarfod Misol yn y Gymanfa Gyffre- dinol yn lie Mr. M. Morgan. Galwodd y Parch. J. E. Davies sylw at Gofiant y diweddar Barch. Roger Edwards, yr Wyddgrug, gan y Parch. T. M. Jones, Colwyn Bay. Rhoddodd ganmoliaeth uchel iddo fel Cofiant o radd uchel iawn, ac anogai bawb i'w brynu. Rhoddodd y Parch. P. H. Griffiths rybudd y byddai yn cynnyg yn y Cyfarfod Misol nesaf i ystyried y priodoldeb o ethol Pwyllgor er penderfynu a ellir gwneud rhywbeth i ysgafnhau dyled rhai o Eglwysi Llundain. Cadarnhawyd yr adroddiad canlynol o eiddo y Pwyllgor Arianol: (a) Fod yr Ysgrifennydd i anfon i'r Goletiad a'r CELT LLUNDEINIG adroddiad swyddogol o weithrediadau y Cyfarfod Misol (b) Ein bod yn gofyn i Mr. E. W. Evans, Swyddfa'r Gnleuid, argraffu 150 o gopiau o'r adroddiad swydd- ogol am Is. 6d. y mis am y chwe' mis nesaf o Gor- phenaf hyd Ionawr, a'u danfon vn uniongyrchol i'r eglwysi ddau Sul cyn v Cyfarfod Misol. (c) Ein bod yn derbyn ymrwymiad Messrs. Burt & Sons i argraffu yr Ystadegau am y tair blynedd nesaf yn ol eu llythyr, dyddiedig Mai 27, 1903. (d) Fod eglwys Willesden Green wedi dangos receipt" ac endorsement" a'r "promissory note" am addaliad o £ 150. (e) Fod Cadeirydd, Ysgrifennydd, a Thrysorydd y Cyfarfod Misol i lawnodi yr ymrwymiad ar ran Ealing a Wood Green am 2150 yr un. Fod awdurdod yn cael ei roddi i Ealing i fenthyca B300 ar ddau promissory note," ac i'w nodi gan dri swyddog y Cyfarfod Misol. Cadarnhawyd yr adroddiad canlynol o eiddo Pwyllgor yr Achosion Newyddion :—(a) Fod grant o 230 i'w chaniatau i Clapham Junction am eleni yn unig. (h) Fod y mater o ddarparu gwasanaeth grefyddol ar nos Sabothau yn Hyde Park, dan nawdd y Cyfarfod Misol, i'w drosglwyddo i ddyddiad am- henodol. Rhoddodd Mr. William Jones hanes y darpariadau wneir yn yr eglwysi ar gyfer y "bazaar yn Lewisham. Cafwyd araith rymus gan y Parch; J. Thickens ar gysylltiad yr eglwysi a'r casgliad at yr Achosion Newyddion, a gwnaeth apel gref am ych- wanegiad yng nghyfraniadau yr eglwysi. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. Edward Evans Cynhelir y Cyfarfod Misol nesaf yn Jewin, nos Fercher, Mehefin 24.—Llundain, Jewin, nos Fercher, Mehefin 24. F. KNOYLE, Ysgrifennydd. ORGAN RECITAL BARRETT'S GROVE. Un o orchwylion diweddaf Mr. D. Jones, Com- mercial Road, oedd trefnu cyngerdd ynglyn ag organ eglwys y "Gohebydd" ar nos Iau, Mehefin 4ydd. ond cyn i'r noson ddod yr oedd ef yn gorwedd yn ei arch. Bu hyn yn achos i daenu ton o brudd-der tros y cyfarfod, ac er y credid unwaith y buasai yn well gohirio'r cwrdd, eto yr oedd y fath nifer o docynau wedi eu gwerthu fel mai anheg i rai o bellder flordd fyddai cael drws cauedig pe buasid yn ei ohirio heb rybudd. Trodd y noson allan yn anffafriol o ran tywydd, ond daeth y cantorion yno ar eu goreu, a chaed canu teilwng o safle uchel caniadaeth Barrett's Grove. Llywyddwyd gan Mr. J. W. Williams. Earl's Court, yr hwn a wnaeth gyfeiriad teimladwy at golled yr eglwys ym marwolaeth Mr. David Jones. Yr oedd yn un o golofnau yr achos ar hyd y blyn- yddau, ac wedi aberthu ei oes ar ran y capel a'r enwad. Canwyd gan Madame Eleanor Jones- Hudson yn rhagorol, a daeth Mr. David Evans ar fyr rybudd i lanw lie Mr. Herbert Emlyn gan roddi caneuon mewn dull hynod gymeradwy. Rhoddwyd unawdau ar yr organ gan Mr. D. Richards, King's Cross, a chaed nifer o ddarnau swynol gan gor y Tabernacl, tan arweiniad Mr. Stanley Davies. Ar y diwedd rhoed pleidlais o ddiolch i'r cadeirydd ac ereill ar gynygiad y Parch. J. Machreth Rees. CYMANFA'R PLANT, JEWIN. Dyma restr o'r buddugwyr yn y Gymanfa hon. Caed enwau y goreuon yn y gwhanol arholiadau yn ein rhifyn bythefnos yn ol :—Adroddiad i rai dan 8 oed: 1, Maggie Edwards, Shirland Road; 2. Doris Morris, Mile End Road; 3, Augustine Harvard, Wilton Square. Adroddiad i rai dan 11 oed: 1. Mattie Oliver, Mile End Road 2, Willie Morris. Mile Road;, 3, Jennie Jones, Charing Cross. Ad- roddiad i rai dan 14 oed 1, Llewelyn Jones, Fal- mouth Road; 2, Sophia Jones, Charing Cross; 3. Bessie Edwards, Shirland Road. Adroddiad i rai dan 16 oed: 1, Cassie Jones, Jewin Newydd; 2. Myfanwy Hughes, Shirland Road 3, Lizzie Davies, Jewin Newydd. Unawd i rai dan 8 oed 1, Hannah Edwards, Shirland Road; 2, Getta Davies, Jewin Newydd 3, Hannah Davies, Portobello Road. Un- awd i rai dan 11 oed 1, Willie Morgan, Shirland Road; 2, Megan Foster, Portobello Road; 3, Getta Morgan, Jewin Newydd. Unawd i rai dan 14 oed: 1, Violet Jones, Shirland Road; 2, Gwladys Price. Portobello Road 3, Bessie Edwards, Shirland Road. Unawd i rai dan 16 oed 1, Mary Morgan, Jewin Newydd; 2, Lizzie Davies, Jewin Newydd: 3. Florence Harris, Portobello Road. Unawd ar y Berdoneg i rai dan 12 oed: 1, Olwen Evans, Hollo- way 2, Megan Foster, Portobello Road; 3, Annie Davies, Jewin Newydd. Unawd ar y Berdoneg i rai dan 16 oed: 1, Mary Morgan, Jewin Newydd; 2. Maggie Jones, Jewin Newydd; 3, Gracie Jones, Charing Cross. Ton Efelychadol (Action Song), i barti o 12 o blant dan 16: 1, Portobello Road. Coro Blant dan 16 oed: 1, Mile End Road; 2, Jewin Newydd.
[No title]
MYNED ar gynnydd mae dilynwyr Camp- bell yn Neheudir Cymru. Mae rhyw swyn rhyfedd yn athrawiaethau amhenodol y Ddiwinyddiaeth Newydd i'r gwrandawr Cymreig. NID yw'r Barnwr Bryn Roberts yn ffefryn gan bobl y Deheubarth; yn wir, byddai'n dda gan rai o'r glowyr glywed ei fod wedi cael ei alltudio yn ol i gilfachoedd anghys- bell yr Eryri. Y rheswm am hyn yw, mae'n debyg, fod Bryn ar y fainc, fel yn ei ddydd- iau Seneddol gynt, yn hoffi gweithredu yn anibynol. Mae yn fwy hoff o lynnu wrth lythyren y gyfraith, nag yn ol ei hysbryd, fel ag y gwna barnwyr ereill ar adegau.