Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. Y CYHOEDDi. Diwrnod pwysig yma fydd dydd Mercher nesaf. Diagwylir llu o feirdd o'r wlad i gyd-uno yn y dathliad. GwYR Y GvFRAiTH.—Os caniata'r hin ceir prydnawn hapus yng ngerddi gwyr y Deml. Mae llawer o honynt wedi addaw rhoddi te i'r ymwelwyr, a rhoddir croesaw cynnes i bawb. Y CiNlo.—Yn yr Holborn Restaurant— neu fel y dywed y beirdd, yng ngwesty Nant Hen—y rhoddir y wiedd lawr yr un noson. Gan fod llawer o'r Cymry yn myned allan o'r ddinas ar adeg y gwyliau, hyderir y gwna pob un sydd am fod yn bresennol anfon ei enw ar fyrder i ysgrifenyddion yr Eis- teddfod. CADW El WRAiG.—Mae rhyw John Jones, o ardal Llangranog, ond sydd yn awr yn y ddinas hon, mewn helbul ynglyn a chadwr- aeth ei wraig. Gofyna gwarcheidwaid Castellnewydd-Emlyn ar iddo dalu tuag at ei chynnal, ac ysgrifennodd John atynt i ddweyd ei fod wedi addaw ei chadw yn glaf ac yn iach," a'i fod yn barod i wneud hynny, ond fod yn rhaid iddi ddod i Liundain. Mae hithau, druan, yn methu dod oherwydd gwaeledd iechyd, ac mae John yn credu ei fod yn rhydd oddiwrth ei gyfrifoldeb. Os nad oes ganddo gariad tuag at ei briod, diau y gwel y gwarcheidwaid na chaiff y druan ddioddel dim eisieu, ac y caiff John y fraint o dalu'r gost yn ol iddynt. Y CoMisiWN.—Parhau yn ffyddlon gyda'r gwaith mae aelodau y Ddirprwyaeth Eg- lwysig yn ardal Westminster, ac mae argoel- ion fod y tystion ar nn gorSen. 0 un i un daw'r bobi sy'n cynrychioli y gwahanol enwadau i roddi eu barn, ac ar y cyjfan y maent yn dra addawol i achos yr Ymneill- duwyr. Ond y drwg yw fod llawer o honynt yng anghyson a'u gilydd ar fan faterion, er yn cytuno ar brif Neithiau yr enwadau. Ar ol i'r tystion gwblhau eu gwaith, dechreuir ar unwaith i dynnu allan yr adroddiad swyddogol, a bydd hwnnw, yn ol pob banes, yn lied ddyddorol. GwESTY NANT-HEN y gelwir Tafarndy-yr- Holborn yn y CELT diweddaf, Mat 30, gan swyddogion Eisteddfod Genedlaethol y Cymry. Gan mai enwau y bonwyr W. E. Davies a D. R. Hughes sydd ynglyn a'r bysbysebiad, caraswn ofyn iddynt y can- lynol :—(1) Ai Nant-Hên yw y Gymrapg am Holborn ? (2) A roddant yn y CELT nesaf darddiad, ystyr, a banes treigliad yr enw Holboi-m. E.R.I. YMDRECHFA DAFARCH RHWNG WiLTON SQUARE A WiLLESDEN GREEN.—Un o amcan- ion ein heglwysi ydyw dadblygu bywyd cymdeithasol yn y wedd oreu arno, ac i'r graddau y Ilwyddant i wneutbur hynny, gwnant wasanaeth anrhaethol i'n pobi ieuainc trwy roddi cyfle iddynt i ymgydna- byddu a'u gilydd, ac yna manteisio ar y cyfeilJgarwch hwn er hyrwyddo yr hyn sydd dda a rhinweddol mewn byd ac eglwys. Rhyw argyhoeddiad fel hyn barodd i gyf- elllion Willesden Green roddi gwahoddiad i'w cyfneseinaid o Wilton Square i ym- weled a hwynt, ac i gymeryd rhan mewn ymdrechfa. Derbyniwyd y gwahoddiad yn aiddgar, a phrydnawn Sadwrn diweddaf daeth nifer dda o feibion grymus Wilton Square i gyfarfod cynrychiolwyr Willesden Green yn Gladstone Park, a chaiwyd chwareu rhagorol. Dewis ddynion Wilton Square ydoedd y Mri. D. T. Davies (Cadben), G. H. GriBith, Roberts, Thomas, W. W. Grimth, Parry Hughes, John Hughes, Wheldon, Jenkins, Richard Evans, a Herbert, tra yr ymddiriedai Willesden Green ei chymeriad i'r Mri. W. Prichard (Cadben), W. G. Williams, Dan Williams, Fred. Burrell, Albert Humphreys, R. Burrell, 0. T. Morris, D. Roberts, Edmund Williams, R. Rowlands, a W. J. Williams, a gwnaeth yr oil o'r chwareuwyr eu rhan yn ganmol- adwy iawn. Nid oedd amheuaeth ym meddwl neb nad gwron Wilton Square ydoedd Mr. W. W. Grimth. Rhoddwyd nawddogaeth i'r ymdrechfa gan weinidogion clodwiw y ddwy eglwys, ac yr oedd niter iawr o gyfeillion y ddwyblaid, hefyd, wedi dyfod ynghyd i ddangos eu dyddordeb yn y mudiad, ac i gefnogi y syniad o frawd- garwch a roddasai iddo. Aeth y dorf ynghyd o Gladstone Park i gapel Willesden Green, lie y croesawyd hwynt yn gynnes gan chwiorydd caredig yr eglwys; ac wedi mwynhau prydnawn hynod o hapus a difyr cafwyd niter o areithiau chwaethus cyn i'r cynulliad ymwasgaru, a'r teimlad cyffredinol ydoedd mai cam yn yr iawh gyfeiriad ydoedd y mudiad, y rhoddwyd prawf arno am y tro cyntaf y prydnawn hwnnw ac mai dymunol fyddai iddo gael ei fabwysiadu yn gyffredinol. Er mwyn yr anghyfarwydd feallai mai priodol ydyw dweyd mai ci-icket match yr ydys wedi bod yn cyfeirio ato. CLADDEDIGAETH MR. E. RiOHARDS.—Boreu dydd lau yr wythnos ddiweddaf ym myn- went wiedig Llanfairclydogau, Ceredigion, daearwyd gweddillion marwol y diweddar Evan Richards, Lavender Hill, ynghanol arwyddion o hiraeth cynredinol ei hen ardal- wyr. Gwaaanaethwyd ar lan y bedd gan ei weinidog-y Parch. H. Elfet Lewis, M.A.— a'r Parchn. Eli Evans, Llanfair, ac Evan Evans, Llanbedr. Yr oedd ncer y plwy-y Parch. J. N. Evans-wedi dangos ysbryd caredig iawn gan roddi caniatad i'r Parch. Elfet Lewis weinyddu yn y fynwent, heb i'r teulu wneud y cais arferol; a gwerthiawr- ogid yr ysbryd brawdol hwn gan holl Ym- neillduwyr y cylch. Gorchuddid y bedd gan niter o nodau-dyrch beirdd oedd ei gydnabod yn LIundain wedi ddanfon fel arwyddion o'u hiraeth. CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.—Dymuna Mrs. a Miss Richards, Tirbach, Llanfairclydogau, ynghyd a'r teulu, gydnabod yn ddiolcbgar y llythyrau a'r arwyddion o gydymdeimlad dderbyniwyd ganddynt oddiwrth gyfeillion yn LIundain ar golli mab a brawd oedd mor anwyl ganddynt. Bu hyn ynfoddion iddynt ddal y ddyrnod chwerw ddaeth ar eu gwarthaf mor sydyn, ond mae'r nifer yn rhy iawr i ddanfon gair yn unigol atynt fel y dymunent. TvMOR YR ARLUNWYR.—Gyda dyfodiad yr haf mae'r arlunwyr yn cilio i gilfachau y mynyddoedd, ac ymhlith y rhai sydd wedi not o'r ddinas mae Mr. Cristopher Williams, y Cymro ieuanc o Faesteg, sydd yn dringo mor Iwyddianus yn y gelf. Yr wythnos hon gwelwyd ef gan un o wyr y CELT yng nghanol Sir Gaerfyrddin tan hen ungoes yn tynnu anian." AR WASGAR.—Mae'r aelodau Oymreig mor brysur gyda'u gwabanol orchwylion y dydd- iau hyn, fel y mae'n amhosibl cael cyfarfod ganddynt yn y Ty. 'Does ond prin banner dwain o honynt yn abl i roddi eu presen- oldeb yn gyson cyn gwyliau y Sulgwyn. Ar ol hynny feallai y ceir digon ynghyd i basic penderfyniad neu ddau, er mwyn pron i'r wlad eu bod ar dir y byw. ApwEiNYDD CvMANFAOEDD.—Mae ein ben gyn-ddinesydd, Mr. Ernlyn Davies, y bari- tone, yn dod yn enwog fel arweinydd cym- anfaoedd drwy Gymru. gyfan. Yr wythnos hon cawsom y pleser o'i glywed ymysg rhai. o eglwysi Sir Eenfro, a gwnaeth ei waith gyda medr a dylanwad. Yn ardal Llangollen y preswylia Mr. Davies yn awr, a deil i ganu mor beraidd ag erioed. MARWOLAETH MR. D. JONES, COMMERCIAL RoAD.—Bydd yn chwith gan lawer o gyf- eillion Mr. D. Jones, Commercial Road, glywed am ei farwolaeth. Claddwyd ei weddillion yn Abney Park am 4 ddydd Gwener (ddoe). Ceir ysgrif goffhad am. dano yn ein rhifyn yr wytbnos nesai.

Advertising