Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

A BYD Y GAN. '-

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. JoHN EDWARD DAVis.—Yr un ydyw y ,gwr hwn a "Olwydian," ac fel yr awgryma yr enw, un o Ddyffryn Clwyd ydyw. Y mae yn bleser gennyf allu eyflwyno ei ddarlun yr wythnos hon, a gwn y bydd yn dda gan lawer ei gael, a gwybod mwy o'i hanes Da chynt. Mewn Nordd ddiataw, ddirodres, y mae wedi gwneud llawer dros gerddoriaeth yn Llundain a Chymru; ac y mae ei amgylch- iadau y cyfryw fel ag y gallodd, ac y gall, barhau gyda'r Gan o g,-iriad at y gwaith." Y cyfryw ddynion ydynt y rhai gwir deilwng o barch ac edmygedd, ac nid ydyw yr Eglwys wedi gwarafun y naill na'r Hall i Clwydian." Ganwyd ein gwrthddrych ym mis Hydref, 1860, yn nhref fechan, ond enwog, Rhudd- Mr. JOHN EDWARD DAVIS. lan. Bu. ef a minnau am flynyddau yn yr un ysgol—sef y National School yno, ac nid anghofiwn byth am y pranciau fyddem ni, y plant, yn eu chwareu a'r Ysgolfeistr. Mr. Jones, goes bren Yr wyf yn meddwl iddo fod yn aelod o'r drum and fife band .gyda ni. G<vn ei fod yn hoS o'r gan o'i febyd. Yr oedd ei dad, Edward Davis y "Saer," yn gerddor "o'i goryn i'w sawdl," fel Y dywedir. Ni chafodd addysg gerddorol, -1:el ei fab, ond ga.llai wneud Harmonium. ,gvstal ag y gwnai drol neu gerbyd Ami i awr a drealiais yng ngweithfa Edward Da.vis, pan y byddai yn ddiwyd yn saernio Alaw ac yn gwneu-d oSeryn Ar un o'r cyfryw offerynau y dysgodd John bach "chwareu, a chan y tad y cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth. 0 Ruddlan aeth i Ysgol Ramadegol C, Llanelwy (St. Asaph), ac yno daeth o dan Syfarwyddyd organydd y Brif Eglwys, Mr. 0. Watkins, hefyd Mr. R. A. Atkina. 0 1873 hyd ei ymadawiad am Lundain yn 1881, yr ydoedd yn Organydd yn Eglwys St. Mair, Rhuddlan. Wedi hyn cawn ef yn organydd eglwys Seisnig St. Clement, Ful- ham Road, o 1882 hyd 1885. Yn 1886 ymunodd a'r Genhadaeth Eglwysig Gym- reig yn Salisbury Street, Edgware Road ac yn yr Eisteddfod berthynol iddi, enillodd y cor o dan arweiniad "Clwydian" y wobr ynghyda'r gadair i'r Arweinydd. Bu yn ysgrifennydd i'r Genhadaetli o 1887 hyd 1892, pryd y gwnaeth waith pwysig ar ran ei hoK Eglwys. Yn 1892 penodwyd ef yn organydd Eglwys Dewi Sant, a glynodd at y swydd hyd 1901. Er 1904 efe ydyw organydd St. Benet, Queen Victoria Street, E.C. Bu ddwywaith yn ysgrifennydd Eis- teddiodau mawrion Dewi Sant, a gynhelir yn y Queen's Hall. Arweiniodd y gan yng ngwyl Dewi Sant" yn EglwysSt. Pancraa, yn 1893, hefyd yn Eglwys St. Paul ddwy- waith—1899 a 1900. Y pryd hyn anrheg- wyd ef a baton aur am ei lafur. Y mae wedi eael ei benodi, am dair biynedd, yn un o gynrychiolwyr y West City Itural Deanery yn y Diocesan Con- ference-prawf o ymddiriedaeth yr Awdu.r- dodau ynddo. Medd tua degar-bugain o dyst-ysgrifau mewn Gwyddoniaetb. a Chelf "—yn cym- eryd i mewn gerddoriaeth, wrth gwra. Dylid crybwyll iddo dderbyn yr enw barddol Clwydian yn yr Orsedd gyn- haliwyd adeg Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf Llundain. Yn 1890 chwareuodd mor effeithiol ar linynau calon merch nes iddi benderfyna rhoddi ei hun yn gwbl iddo, a dywedodd yr Offeiriad "Amen," pryd y gwnaed y ddwy- blaid garuaidd yn un. Yn Eglwya St. Mair, Paddington, y cymerodd y briodas Ie. Un o Silian, Ceredigion, ydyw ei briod, a'i. henw cynteifig ydoedd Anne Davies. Gwelir fod ei flynyddau wedi bod yn llawn gwaitn, a gwyddis ei fod yn dal ati gyda eel a brwdfrydedd. Fy nymuniad ydyw iddo gael byw yn hir i wasanaethu y Gan yn y cylch pwysig y mae ynddo. CyMANFA'R PLANT.—Cafwyd canu da ar yr unawdau yn hon eleni. Yr oedd y gwaith o chwynnu yn fawr. Yn ei sylwadau ar y canu, rhoddodd Mr. Dan Price gyngor i hyffordd- wyr y plant i ofalu am iddynt beidio gwtbio Ilaia y treat yn rhy uchel: dylid dernyddio Ilaia y pen gyda'r nodau uehel. Fel hyn gochelid gwaeddi. Hefyd, dylid gofalu am ysgogiadau amrywiol a naturiol gyda'r action songs." Oanodd dau barti, sef Portobello Road a Falmouth Road. Yr oedd gan y blaenaf iwy o lynegiant, ac ysgogiadau gwell a mwy amrywiol na'r olaf. Gydag athrawes fel Mrs. Ivor Foster, ceir clywed etc am Portobello Road. Y BRIF GvsTADLEUAETH.—Fel arfer, yr oedd brwydfrydedd mawr ynglyn a hon. B(jLasa.i y canu yn well pe na bai am uchder y darn-" Yr Udgorn a Gan "—yr hwn sydd yn esgyn amryw weithiau, drwy naid, i'r nodyn F; ac, fel y gellid disgwyl, ar ol ei daro yn rymus unwaith, yr oedd arwydd buau fod y dreth ar leisiau plant pTirieuaiac yn ormod. Yr oeddent yn myned yn ddiSygiol o ran graddeg (pitclt). Nid oedd yr un o'r tri chor—set Jewin, Mile End, a Falmouth Road-yn berffaith o ran tonyddiaeth, ond yr oedd Mile end yn agosaf ati; ac er nas gellid gwneud dim ond bloeddio ar y nodyn F, daeth mintai Mr. Morris drwy eu gwaith yn ganmoladwy iawn. Yn ddiameu, efe roddodd y datganiad goreu, ac iddo ef yr aeth y darian a'r wobr. Yr oedd corau Jewin a Falmouth Road yn fwy na'r eiddo Mile End, ac yr oedd lleiaiau da yn y ddau; ond diau fod bychander y Uwyfan a chanddo rywbeth i'w wneud ag aflwyddiant y corau hyn, fel na chawsant fawr o hwyl i ganu ac i wneud cwbl gyfiawn- der a hwy eu hunain. Hoffwn syniad Cor Jewin gyda'r gerddoriaeth wrth y geiriau "Yr Udgorn a gan." Yr oedd yn dra ffeithiol. Gofalus, hefyd., ydoedd darlleniad Cor Falmouth Road, ond fod y donyddiaeth yn feius, yn enwedig tua'r diwedd. Rhoddwvd marciau fel hyn :— Cor Mile End (Mr. Morris) 64 „ Jewin (Mr. Thomas) 62 „ Falmouth Road (Mr. Morgan). 60 Honwn ddewrder Cor bychan MUe End yn mentro ar ddarn caled i'w ganu un oedd yn fwy cyfaddas i'w gyd-ymgeiswyr niferus. Bydd yn ymladdfa frwd y flwyddyn nesaf. Pwy, tybed, sydd i feddiannu'r darian ? Fy nghyngor i'r Pwyllgor ydyw, i ddewis darn nad yw yn esgyn uwchlaw D neuE iHat, ae yna fe geir clywed canu a llai o floeddio ynddo, a chywirach tonyddiaeth. Felly, bydd y eanu yn fwy pleserus i'r cantorion bach ac i'r gwrandawyr. Drwg gennyf orfod apelio etc at y Pwyll- gor i wneud y rhaglen yn llawer byrach a phaham nas gellid trefnu i'r corau orffen eu canu erbyn naw o'r gloch ? Gellid rhoddi'r feirniadaeth ar y diwedd. Fel hyn, gallai niter fawr o rai mewn oed arcs i glywed y brif gystadleuaeth, a gallai llawer o'r plant ieuengaf fyned adref. Sut y gellir disgwyl i rai bach ganu mewn tiwn yn y fath awyrgylch, a hwythau befyd yn teimlo yn lluddedig! Gobeithiaf y rhoddir yr awgrym prescnnol ar brawf. Lies y gymanfa yn unig sydd gennyf mewn golwg wrth ei wneud. o: TREVELYN DAVID.—Y mae y cantor hwn yn myned yn ddioed ar daith i Ddeheudir ASrica. Bydd yn dda gan Gymry y wlad honno ei glywed yn ddiau. CvwiRiAD GwALL. Yn fy sylwadau ar Alawon Gwerin, yn y rbifyn diweddaf, argranwyd "love of one's kindness yn lie love of one's kind."