Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

GWYL Y CYHOEDDI.

Cadw'r Iaith.

News
Cite
Share

Cadw'r Iaith. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn addaw i ehangu ei therfynau. Mewn cyfarfod a gafwyd yr wythnos hon, yng Nghaerdydd, penderfynodd y Pwyllgor gychwyn adran newydd i gefnogi darllen ac astudio yr iaith ar yr aelwydydd gartref. Perygl y mudiad ynglyn a chadwraeth y Gymraeg ydyw, iddo farw drwy ddifaterwch y rhai sy'n gofalu am y Gymdeithas, a difrawder y cyhoedd. Erbyn hyn, mae pawb yn cydnabod y doeth- ineb o ddysgu Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg. 'Does neb yn wrthwynebol i astudio'r Gymraeg yn ein hysgolion gwledig ychwaith; a chan nad oes yr un gwrth- wynebiad, mae lie i ofni fod y mudiad yn dechreu colli tir, a da y gwna'r Pwyllgor i dorri gwaith newydd o'u blaen erbyn y gauaf nesaf. Gall llawer o Gymry'r Ddinas gynorthwyo y dosbarthiadau darllen hyn, a phe cawsid undeb priodol o'r gwahanol gym- deithasau llenyddol, ar hyd a lied Cymru, gallasai fod o les dirfawr i ehangu'r brwd- frydedd iaith-garol, a chadw'r bywyd cened- laethol yn fwy effro. Gyda'r manteision addysgiadol sydd gennym yng Nghymru heday-w, ni ddylai fod un anhawster i ychwan- egu at rif y rhai sydd yn ei haddysgu yn y sefydliadau hyn; ond cyn y gellir disgwyl i'r plant gymeryd o ddifrif at yr iaith, rhaid i ddynion a merched ieuainc ein csnedl, yn ogystal a'n penau-teuluoedd, ddangos eu sel dros yr hen iaith a'r ffordd effeithiolaf i wneud hynny fyddai drwy ddarllen ei llen- yddiaeth yn ein oriau hamddenol, yn ol y cvnllun a gynnygir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cleber o'r CIwb.