Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

LITERARY AND OTHER NOTES.

Advertising

Bwrdd y Gol.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Dyma'r haf wedi dod o'r diwedd, a chyda'r haf wele'r ymwelwyr yn dod yn llu i dalu ymweliad parchus a'r Gol. Yr wythnos hon, 'roedd y torfeydd yn fwy lliosog nag arfer. Aeth y si ar led fod y gwr urddasol wedi cael ei yrru i Gymru ar ran Pwyllgor yr Eisteddfod, er mwyn chwilio allan faint oedd gallu dadansoddol ac ystumogol y beirdd, gyda r bwriad o gael y cyflenwad priodol o ddiodydd a bwyd yn ) r Holborn Restaurant ar ol cyhoeddi yr Eisteddfou. Teimlai Vinsent y buasai yn warth oesol arnom fel cynrychiolwyr y genedl yn Llundain, os nas gallem wneud pob bardd yn hollol gysurus am un noson, costied a gostio ac awgrymodd y frawdoliaeth nad oedd neb yn fwy medrus i drin y beirdd, a chael allan eu cyfrinach, na'r Gol. Felly, pan ddaeth adeg i gynnal y cyfarfod arferol yr wythnos hon, rheolid y gweithrediadau gan Fardd yr Offis, yr hwn a wnaeth ei waith gyda medr teilwng o'i feistr; ac ar ol annerch y dorf yn groesawus, rhoddodd y cynghorion personol a ganlyn i'r rhai oedd yn amhosibl rhoddi cyfle iddynt i draethu eu barn:— W. DAVIES.-Diolch amyllith; ond yn rhy faith i'w osod i fewn yr wythnos hon. Gan mai adrodd ad o gyngerdd ydyw, gallesid yn hawdd ei gwtogi tan yr hanner. E. JONES.-Y rheswm paham na roddwyd cy- hoeddusrwydd i hanes y briodas, oedd y ffaith syml na roddir lie i adroddiadau o'r fath heb y cadarnhad arferol o gywirdeb yr hanes. Rhaid i hanesion fel hyn ddod i law yn brydlon yn yr wythnos, a'r oil wedi eu arwyddo yn briodol gan ohebwyr adna- byddus. J. J (BRIXTON).-Mae Norick wedi dod yn ol o'r wlad, ac fe geir o ffrwyth ei ysgrifell yn awr ac eilwaith. Ar hyn o bryd rhaid gadael iddo i bender- fynu helyntion y Comisiwp Eglwysig. E. BOWEN.—Gwell fyddai i chwi anfon eich cwyn am absenoldeb cystadleuaeth cor y plant o raglen yr Eisteddfod i'r ysgrifenyddion cyffredinol. Mae gwyr y gan wedi penderfynu i adael y fath gystadlu i faes yr eisteddfodau Ileol, oherwydd ni fyddai yn ddigon o ddyddordeb i dynnu'r torfeydd yn Llundain. E. J. JONES.-Nis gwyddom beth a olygir wrth yr enw "semi-national eisteddfod." Feallai mai math o wyl yw i fagad o bobl hanner-cenedlaethol. Yr unig gynulliad o'r fath yn awr yw cyfarfodydd y Welsh party yn y Senedd

Advertising