Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYNGERDD.-Mewn colofn arall ceir man- ylion am yr Organ Recital a roddir nos Iau nesaf er budd yr eglwys yn Barrett's Grove. Y SULGWYN.-Swn y gwyliau sydd o'n deutu y dyddiau hyn. Ceir nifer o wib- deithiau i'r wlad ar adeg y Sulgwyn, ac os caniata y tywydd, byddant yn llwyddiant hefyd. CYMANFA.—Ar adeg y Sulgwyn y mae eglwys y Boro' yn cynnal ei chymanfa fawr flynyddol, a dechreuir y gyfres nos Wener nesaf. Mae'r hen fam-eglwys anibynol yn llwyddo i gael rhai o ddoniau goreu yr enwad i'w gwasanaethu yn yr wyl hon. EHANGU'R MAES.—Mae ym mryd yr Ani- bynwyr Cymreig yn Llundain i helaethu eu terfynau yn ystod y blynyddoedd nesaf yma. Cyn cychwyn ar sefydliadau newydd, trefna yr Undeb i glirio dyledion yr hen leoedd, ac mae achos ieuanc East Ham a'r hen eglwys yn Woolwich yn hawlio sylw y brodyr ar hyn o bryd. Trefnir i gynnal nodachfa fawr yn yr Hydref, er sicrhau swm sylweddol a'u gesyd uwchlaw pryder arianol ar ol hyn. Mae pob eglwys o fewn yr Undeb ar ei heithaf yn awr yn paratoi gogyfer a'r amgylchiad. YN Y BORO'Gyda'r amcan o chwyddo ychydig ar gyllid y mudiad hwn, rhoddwyd cyngerdd arbennig yng nghapel y Boro' nos Iau, Mai 14eg. Trefnwyd y cwrdd gan Mr. a Mrs. J. B. Evans, Islington, a llwyddasant i gael rhestr faith o gantorion gwych i gynorthwyo'r achos. Cadeiriwyd gan y Cynghorwr Owen M. Richards, Sermon < Lane, Finsbury, a chaed araith gefnogol ganddo ar ran yr achosion Cymreig. NEWID DONIAu.-Mae Cymru a Llundain wedi bod yn cyfnewid y doniau pulpudaidd mewn mesur helaeth yn ddiweddar. Ar adeg y Pasc llanwyd y cylch Methodistaidd a phobol ddiarth" o Gymru, ac mae'r bugeiliaid Heol, amryw o honynt, wedi bod lawer yng Nghymru yn talu'r pwyth yn ol wedi hynny. Yn awr, ar adeg y Sulgwyn, daw doniau newydd i dir Anibynia, a chan nad yw Elfed yn ddigon i dalu yn ol, bu galw am Machreth a'r Parch. D. O. Jones i wasanaethu eu rhan mewn amryw o leoedd yn y deheudir yn ystod y pythefnos di- weddaf hyn. MARWOLAETH EVAN RICHARDS. — Chwith fydd gan lawer o gyfeillion Mr. Evan Richards, Draper, Lavender Hill, glywed am ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Gwener diweddaf ar ol cystudd byr ond poenus iawn. Yn anterth ei ddydd- iau, prin deugain mlynedd oed, wele ef yn cael ei alw adref ar fyr rybudd. Gwnaeth ei hun yn adnabyddus i gylch eang o gyfeill- ion yn Llundain, a bu yn gwasanaethu yn ffyddlon am flynyddau fel ysgrifennydd i'r cor meibion Uewyrchus fu tan arweiniad Mr. Madoc Davies, a chymerai ran flaenllaw mewn gwahanol fudiadau ynglyn a chapel y Tabernacl. Rhyw bum mlynedd yn ol cychwynodd ef a Mr. Williams mewn mas- nach ar eu cyfrif eu hunain yn Lavender Hill, a gweithiodd yn ddyfal gan ennill ymddiriedaeth ac edmygedd ei gydfasnach- wyr. 'Roedd ei sirioldeb naturiol a'i gymer- iad gloyw yn ei wneud yn ffefryn gan bawb, a phrudd oedd gweled y dorf yng ngorsaf Paddington nos Fercber diweddaf yn rhoddi ffarwel i'w weddillion. Aed a'r corff i ardal ei febyd i'w osod yn naear dawel mynwent Llanfair-clydogau, lie y cwsg yn dawel yn swn tydar yr adar a'u llonnai gynt, pan yn chwareu ar ddolydd dyffryn Teifi. DYFODIAD Y BEIRDD.—Ar adeg cyhoeddi'r Eisteddfod bydd Llundain yn gyrchfan y beirdd Cymreig. Ar ran gorsedd y beirdd daw y cynrychiolwyr a ganlyn i'r wyl:— Dyfed, Cadfan, Berw, Gwynedd, Pedrog, Beriah, Eifionydd, Arlunydd Penygarn, a Ben Davies, ac ar ran Cymdeithas yr Eis- teddfod, Syr Marchant, Mr. M. T. Morris, a Mr. L. J. Roberts. EFEILLIAID.—Ar y 13eg o Fai rhoddodd Mrs. Jones, priod Mr. Jones, Bank House, Manor Park, enedigaeth i ddau fab. Mae'r fam a'r rhai bach yn dod ymlaen yn gampus. Y GWYLIAU.—Oherwydd y gwyliau bydd raid i ni fyned i'r wasg yn fwy cynnar y ddwy wythnos nesaf; am hynny, boed i'n gohebwyr fod yn fwy prydlon i ddanfon eu cynyrchion i mewn. CYCHWYNWYR YR UNDEB.—Pa nifer o'r rhai fu a llaw yn nechreuad yr Undeb sydd yn awr yn byw yn Llundain. Yng nghwrdd croesaw Mr. Hinds, y noson o'r blaen, gwelsom y rhai a ganlyn oedd yn bresenol yn y cyf- arfod cyntaf a gaed :—Mr. Arthur Griffith, Castle Street; Mr. Glyn Evans, King's Cross Mr. P. W. Williams, Radnor. Street; a Mrs. Hinds-yr oedd hi yn un o'r rhai mwyaf pybyr tros ei sefydlu. GWALIA HOTEL. Mae gwesty newydd Gwalia ar fin cael ei orffen yn awr, ac edrycha yn un o'r tai harddaf yng nghym- dogaeth Euston Square. Adeiladwyd ef gan Mr. Howell J. Williams, C.S.LI., ac mae'n addurn teilwng o waith y ffirm hefyd. Mae'r adeilad newydd yn gorwedd wrth ochr yr hen westy, a cheidw Mr. Jenkins y ddau ymlaen am dymor. Pob llwydd iddo yn yr anturiaeth enfawr hon. FALMOUTH ROAD.-Nos Lun, Mai 18fed, cynhaliwyd cyfarfod mawreddog, o dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol, o blaid Mesur Trwyddedol y Llywodraeth. Daeth cynulliad da ynghyd, ac yr oedd yn gynrych- iolaeth dda o Eglwysi Cymreig y ddinas ac hefyd, yr oedd amryw gyfeillion Seisnig yn bresennol. Cymerwyd y gadair gan Capt. Cecil Norton, A.S. (yr aelod anrhydeddus dros Orllewin Newington, ac un o'r Liberal Whips "), ac mewn araith ragorol rhoddodd amlinelliad da o'r Licensing Bill. Canlynwyd ef gan y Canon Jephson, M.A., St. John's, Walworth, mewn araith hynod o bwrpasol, ac yna gan J. Herbert Roberts, Ysw., A.S. un o arweinyddion y genedl ar y pwnc dirwestoL Yn ddiweddaf, cafwyd araith danllyd gan y Parch. J. Hugh Edwards, Hanover Chapel Peckham. EALING.-Tystiolaeth pob Cymro a Sais ymysg y lliaws oedd yn bresennol yd oedd, na chafwyd gwell cyngerdd y tymor hwn yn Ealing na'r hwn a gynhaliwyd mewn cy&- ylltiad ag Eglwys (M.C.) Cymraeg yn y Town Hall, nos Fercher, y 20fed cyfisoL Cymerwyd y gadair gan W. Price, Esq. a rhan yn y cyfarfod gan Mr. David Richards (organydd King's Cross), Mr. Gwynne Davies, Madame Laura Evans, Miss Jennie Davies, Mr. David Evans, Miss Gwladys Roberts a Mr. Tom Morgan ar y crwth. Terfynwyd y cyngerdd mewn llawn hwyl trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau" a God save the King."

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising

FFOI RHAG BLEIDDIAID.