Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

Advertising

[No title]

[No title]

Advertising

FFOI RHAG BLEIDDIAID.

News
Cite
Share

gan lais rhyw fwystfil, draw, draw yn y pellder. Yna clywem amryw gyfarthiadau chwyrn yn dynesu atom, ac yn fuan yr oedd y coed o'n hamgylch yn llawn o udiadau dychrynllyd Iluoedd o fleiddiaid (timber wolves). Gallem weled eu llygaid yn fflachio wrth red eg trwy y coed, a gellwch feddwl fod teimladau o ddychryn yn ein meddianu. Safai ein gwallt yn syth megys, a chofiem am bob hanes a ddarllenasom am greulondeb pac o fleiddiaid. Ymsaethai hefyd i'n meddwl gyda pha fath deimlad y darllenai ein rhieni ein hanes yn cael ein difa gan fleiddiaid. Yr hyn oedd yn gwneud ein sefyllfa yn waeth oedd, nad oedd gennym un math o erfyn i amddiffyn ein hunain ond pastwn cryf, a llefain a'n holl egni i'w cadw draw. Gellwch feddwl fod llais tri Chymro yn llefain am eu bywyd yn dreiddgar iawn, ac ymddangosai fod ein llais yn cael rhyw ddylanwad rhyfeddol arnynt. Fel hyn y buom am amser yn cael ein hebrwng gan y cyfeillion hyn. Weithiau syrthiem ar ein hyd i'r eira, ac yn disgwyl bob munud deimlo danedd un o'r bleiddiaid yn ein profi. Yr oedd un o honom wedi diffygio cymaint fel y syrthiai yn hollol ddiymadferth, a methai godi. Aem ni yn ein blaen am ychydig bellder, gan hyderu y buasai arswyd y bleiddiaid yn peri iddo ymdrechu mwy ond byddai raid i ni ddychwelyd yn ol, am y dywedai nad allai symud heb ein help ac y cawsai y bleiddiaid ei fwyta, gan ei fod wedi diffygio yn lan, ond pob cam oeddym yn fyned ymlaen dygai ni yn nes at y sef- ydliad, ac o'r diwedd gadawodd y bleiddiaid ni. Trwy drugaredd daethom trwy yr ystorm a'r peryglon yn ddiogel i Superior City. Bu udiadau y bleiddiaid yn swnio yn fy nghlustiau yn awr ac yn y man am lawer o flynyddau.-(Trefortan yn y Drych.")