Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cleber o'r Clwb.

News
Cite
Share

Cleber o'r Clwb. Nos FERCHER. Materion Eisteddfodol yn unig fu dan ystyriaeth heno, a'r rheswm am hynny oedd i'r Archdderwydd daro i fewn i gael mygyn cyn myned i noswylio. Yr oedd yn llawen gennym weled Dyfed, a deall ei fod yn edrych ymlaen am gryn hwyl ymysg beirdd Llundain, pan ddaw yma i gynnal Gorsedd ddechreu'r mis nesaf. "A fydd rhyddid i annerch yr Orsedd mewn Lladin ?" ymholai Mr. Llewelyn Williams. "Fel y gwyddoch, tu fewn i'r cylch cyfreithiol mae cylch yr Orsedd i fod, ac mae cyfreithiau ein gwlad yn llawn Lladin drwyddynt. Fe ganiateir Saesneg yng Nghymru bob amser, a phaham na chaniateir i T. E. Morris, neu Arthur Price, wneud araith yn Lladin pan y cynhelir hi ar dir cysegredig y Gyfraith ? Chwythu ei gwmwl mwg yn unig wnaeth Dyfed, ac yna ychwanegodd, yn chwareus, Byddai cael araith Ladin mor anneallus i'r dorf ag yw llith Gymreig yn Ilawysgrif y Cofiadur ei hun Beth am yr urddau anrhydeddus ? ebai Norick, a oes siawns cael un i Ap Shon a minnau heb dalu am danynt ? "Amhosibl," ebe Vincent, yn sarug, 'does yr un o honoch yn aelod o Gymdeithas yr Eisteddfod, a sut gebyst yr ydach chi yn meddwl y gellir dwyn y gwaith ymlaen heb bres ? Eitha gwir," ebe Eifionydd, gyda wine, "ac ni roddir anrhydedd yr Orsedd i neb os na fydd yn barod hefyd i danysgrifio swm sylweddol i gyllid yr Orsedd, ac ar olgwneud hyn, nis gall bleidleisio ar faterion arbennig yr Urdd." A ydi'r arholiadau yn galed iawn ?" holai Tom Davies. Ydynt, yn eithriadol o galed," ebai Cad fan. A oes modd i mi ddysgu'r rheolau barddonol mewn wythnos ? gofynodd Dr. Dan. Mae hynny yn dibynnu ar eich medr," ebe Dyfed, "a allwch chi gyfansoddi englyn ? 0, galla," meddai'r Doctor, yn siriol, a dyna lie y bu yn ceisio cael testyn i'w awen barod ond metbodd yn lari a gweled neb yn y cwmni yn werth y draffertho wneud eoglyn iddo. Tra fu'r Doctor yn cosi ei goryn am air cyrch i'w linell gyntaf, wele Pennant yn awgrymu'r priodoldeb a gael gorymdaith hardd ar hyd yr Embankment. Dewch," meddai, "i ni gael bod yn Gymry am unwaith yn ein hanes. Defnyddir y Clwb hwn i fod yn lie cyfleus i ni wisgo'r gwisgoedd Gorseddol; ac ar ol cael band i chwaieu o'r tu allan i'r Clwb, fe ddaw y miloedd edrychwyr ar unwaith i gydfwynhau y wledd gyda ni. O'r cae yn y Demi gellir ffurfio gorymdaith arall, heibio i swyddfa'r Eisteddfod, a thy Vincent yn Chancery Lane, i fyny i'r Holborn lie bydd y ciniaw yn cymeryd lie. Os gwneir hyn, fe fydd llwyddiant yr Wyl yn 1909 yn sicr." Ond nid oedd neb yn eilio'r cynygiad hwn. Gormod o awydd i gadw'r cyfan yn ddistaw oedd ar aelodau Pwyllgor yr Eisteddfod. Credent fod y byd tuallan mor bybyr tros yr Wyl ag ydynt hwy eu hunain, ond tystiodd Pennant mai eu siomi gawsent, os na ddef- nyddient rhyw gynllun hysbysebol o'r fath a awgrymai efe. Ap SHON.

COR MERLIN MORGAN.

Am Gymry Llundain.

IOLO AR 14 RHUDDWAWR."