Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

BUGAIL NEWYDD CLAPHAM JUNCTION.

News
Cite
Share

BUGAIL NEWYDD CLAPHAM JUNCTION. Cyfarfod Sefydlu. Mae'n amlwg fod cryn lawer o fywiogrwydd yn yr Eglwysi Methodistaidd yn Llundain y misoedd hyn. Ychydig wythnosau yn ol, yr oedd eglwys Shirland Road yn rhoddi croesaw i fugail enwog o'r Deheubarth i ofalu am y praidd, a chyn i swn yr areithiau edmygol, a draddodwyd y noson honno, gilio o'r glust, wele'r brodyr yn Clapham Junction yn ein gwahodd i gyd-lawenhau a hwy yng nghroesawiad a sefydliad y PARCH. D. TYLER DAVIES i'w plith fel gweinidog. Mae clod a hanes Mr. Davies yn wybyddus drwy'r Cyfundeb i .gyd, ac mae'r gwaith y mae wedi ei wneud am flynyddau yn ardal y Bwlch, Sir Frycheiniog, wedi ennill edmygedd pawb sy'n caru gweled -eynnydd yr enwad yng Nghymru. Ond er -eymaint ei waith, ac er mor eang ei glodydd, nid yw Mr. Davies eto ond ieuanc. Daw i Lundain yn anterth ei ddydd, ac ar adeg pan y gall roddi gwasanaeth lawer i'w Feistr. Mae wedi cymeryd gofal o'r eglwys ers rhai Suliau bellach, a threfnwyd y cyfarfod croesawu ar adeg hwylus, wedi iddo gael amser i sefydlu ymhlith ei ddeadell. Daeth torf fawr ynghyd i'r cwrdd croesawu, a a-hoddodd Mrs. Lloyd-George ei phresenoldeb am ychydig amser i dderbyn y gwahodded- igion, ac i wneud pawb i deimlo yn gartrefol. Yn y cynulliad hwyrol daeth MR. J. HERBERT LEWIS, A.S., i lanw'r gadair, a chan fod Mr. Lewis wedi bod, ar un adeg, yn un o fynychwyr cyson y lie, yr oedd yn teimlo yn bur gartrefol i lywio gwaith y noson. Darllenodd yr Ysgrifennydd lythyrau oddiwrth nifer o gyfeillion yr Achos oeddent yn analluog i fod yn bresennol, yn datgan eu llawenydd am ddyfodiad Mr. Davies i Lundain. Ym mysg y llythyrau, darllenwyd yr un canlynol oddiwrth Mr. Lloyd- George, a thoddai ein calon gan gydymdeimlad wrth glywed ei frawddegau toddedig :— ANWYL MR. TYLER DAVIES, Y mae'n wir ddrwg gan y wraig a minnau fod hen ymrwymiad yn atalfa ar ein ffordd i ddyfod i'ch cwrdd croesawiad heno. Buasem ein dau yn gwneuthyr ymdrech arbennig i ddod yna. Y mae cysegredigrwydd neillduol i ni ynglyn a'r adgofion .am gapel Clapham Junction. Bu yn ysgol dda i'n geneth fach hoff i barai oi ar gyfer y Nefoedd. Yr oedd hi yn wastad yn Dawn dyddordeb a sSl .m gapel Clapham junction-pobl y capel, a phethaa y capel. Bu pawb yna yn dirion iawn wrthi, ac yr ydwyf yn teimlo yn gynnes iawn -tuag attynt yn herwydd hynny. Yr oedd hi yn edrych ym mlaen gydag awydd tnawr at ddyfodiad y bugail newydd, a theimlai yn falch ei bod wedi pleidleisio trosto. Ond, cyn iddo ddod yr oedd hi 11 dan ofal y Bugail ei bun." Wel, Duw a'ch bendithio chwi, a'r Eglwys yr ydych wedi eich galw i fugeilio trosti, yng nghy- flawniad y gwaith goreu y gall dyn ymroddi iddo.—Fyth yn gywir, D. LLOYD-GEORGE. 11, Downing Street, S.W. Mai 15, 1908. Y mae yna ryw frwdfrydedd yn nodweddu -eglwys Clapham Junction na cheir ef ond yn ;alifynych yn ein capeli Cymreig; a brwd- frydedd a than Cymreig yw hefyd. Nis gwn beth sydd yn cyfrif am hyn, ond y mae yn wir. Felly yr oedd eu cyfarfod i groesawu a sefydlu eu gweinidog, y Parch. D. Tyler Davies, a'i deulu nos Wener diweddaf. Pan gyrhaeddais yno, yr oedd yr holl le yn drydaniaeth drwyddo. Yr oedd y capel yn orlawn, ac yr oedd pawb yn canmol y croesaw ar te oeddid wedi gael y prydnawn. Bron na chredwyf fod holl weinidogion a phregeth- wyr ein capeli Cymreig, o bob enwad, yno yr Hen Gorff, wrth gwrs, yn cael ei gynrych- ioli yn gryf-y Parchn. J. E. Davies, M.A., R. 0. Williams, D. Oliver, T. F. Jones, Peter Hughes Griffiths, M.A., S. E. Prytherch; ac yr oedd Elfed yn ddigon ynddo ei hun i gynrychioli yr Anibynwyr, a'r Parch. J. Humphreys y Wesleyaid. Teimlai y Bed- yddwyr y buasai y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George yn ddigon yw cynrychioli hwy, gan y disgwylid ef i fod yn bresennol. A llawenydd gan ein calon oedd gweled dau o'n hoffeiriaid ieuainc Cymreig yno, mor lion a chartrefol a neb, sef y Parchn. D. Richards (Dewi Sant) a Lewis Roderick (Camberwell); ac yr oedd ymhlith y dyrfa fawr wynebau lawer o'r holl gapeli Cymreig yn Llundain. Yr oedd, hefyd, amryw o weinidogion eglwysi Saesneg y gymydogaeth wedi derbyn gwahoddiad yr Eglwys y Parch. E. Stowell Brown, Stormont Road- a chynrychiolid y Presbyteriaid gan y Parch. E. Souper, M.A., a chan y Parch. E. W. Roase, M.A. Y llywydd oedd J. Herbert Lewis, Ysw., A.S.—hen Fethodist a berchir yn fawr gan y Corff, yn ogystal a chan ei genedl. Yr oedd ef wedi bod yn aelod o'r Eglwys am dymor, ac yn ffyddlawn iawn yn ei holl gynulliadau, ac felly yn gymwys iawn i lywyddu y cyfarfod. Yr oedd yn llawen iawn ganddo fod yno ar yr achlysur o'r briodas hon rhwng eglwys Clapham Junction a'r Parch. D. Tyler Davies, yr hon oedd yn argoeli gobeith- ion gWJch iawn am y dyfodol. Dygodd Mr. PARCH. D. TYLER DAVIES (Clapham Junction). Lewis dystiolaeth uchel iawn i lafur diflino ei hen weinidog, y Parch. Ll. Edwards, M.A. Yr oedd yr Eglwys wedi cael braint fawr iawn o gael gwr o safle a phrofiad Mr. Edwards i'w harwain a'i harolygu yn ei maboed, ac i'w lafur ef, yn ddiau, y mae priodoli cynnydd mawr yr Eglwys mor gyflym. Yr oedd yn llawenydd mawr ganddo glywed am weinidog o ddawn a thalent yn hunan-ymwadu ychydig er mwyn ei bobl a'i genedl ei hun, pan y mae cymaint o demtio ar ein gweinidogion i'r pulpudau Seisnig. Auogai i'r Eglwys beidio dirprwyo pob gwaith i'w gweinidog, ond fod i'r swyddog- ion fod yn ffyddlon iddo, ac i beidio gor- feirniadu, ond cofio mae dyn oedd yntau, fel yr offeiriaid gynt, wedi ei amgylchu a gwendid, ond dyn Duw, ac yn hawlio fel y cyfryw eu parch a'u gweddi ar ei ran. Yna galwodd y Llywydd ar Mr. James Evans, ysgrifennydd yr eglwys, i roi hanes yr alwad. Yr oedd Mr. Evans wedi dyfod ar ei union o Gymru i'r cyfarfod ar ol bod yng nghladdedigaeth ei dad (one of the Baron's) yn Nhredegar. Am hynny nis gallai wneuthur cyfiawnder ag ef ei hun yn gosod gerbron, hanes, y garwriaeth fer ond frwd iawn rhwng yr Eglwys a Mr. Davies. Pan ddaeth Mr. Davies i fynu i bregethu am dri Saboth, fe aeth rhyw sibrwd drwy yr holl eglwys Mai dyna y dyn i ni, ac er fod llawer o enwau ar y pryd gerbron Pwyllgor y Bugail, dropiwyd pob un pan y caed awgrym fod Mr. Davies yn agored i alwad. ac yn yr ohebiaeth ag ef yr oedd pob llythyr oddiwrtho yn ei ddyrchafu yn ein barn am dano. Fe anfonodd yr Eglwys Mr. Isaac Jones a minnau i lawr i'r Bwlch, a rhaid i ni addef na ddaethom yn ol yn yspryd Caleb a Joshua. Ond wedi gweled y lie cysurus oedd gan Mr. Davies a'i anwyldeb, a'i barch gan bobl ei ofal, a llawer yn gwawdio am i ni feddwl y gallem ei ddenu i Lundain am y gydnabyddiaeth a fedrem ni fel Eglwys sicrhau iddo. Bu i ni bron a llwfrhau a cholli ein ffydd; ond chware teg i Mr. Davies, ail beth yn hollol y gwnaeth ef y mater o gyflog. Y cwbl ofynodd ini oedd cael ei osod mewn amgylchiadau i beidio peri pryder iddo, ac fe wyddoch chwi drwy brofiad yn well na ii, faint sydd ddigonol i hyn. Credai Mr. Evans mai cyfleustra i weithio dros lesu Grist oedd wedi bod yr atyniad mwyaf i Mr. Davies i ddyfod atom. Ar ol hyn galwodd y Llywydd ar Mr. Davies i ddweyd gair. A dywedodd fod yn am- hosibl iddo ef fod yn fwy cysurus nag yr oedd yn y Bwlch, na chael mwy o garedig- rwydd. Ond teimlai fod yn Llundain faes ardderchog i weithio dros lesu Grist. Ac yr oedd y fath wresogrwydd ac unfrydedd yn yr alwad fel y teimlodd fod galwad ac awdurdod Duw y tu cefn i alwad yr Eglwys, ac mae rhaid oedd ufuddhau. Yr oedd yn teimlo yn wir ddiolchgar am y cydymdeimlad a'r caredigrwydd mawr a ddangoswyd tuag ato yn nyfodiad ynghyd gynifer o'i frodyr o bob enwad, a chyfeillion o'r holl eglwysi. Yr oedd hyn yn galondid mawr iddo ar gychwyn ei waith, ac yn lleddfu tipyn ar ei hiraeth ef a Mrs. Davies.

IOLO AR 14 RHUDDWAWR."