Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

YR YSGOL A'R DAFARN.

Coffa " C.B."

News
Cite
Share

Coffa C.B." Mae'r Senedd wedi penderfynu i roddi cofadail i'r diweddar Syr H. Campbell Bannerman ym Mynachlog Westminster. Ar un olwg y mae hyn yn beth syn. Nid oedd yn wr mawr yn ystyr gyffredin y gair ni wnaeth yr un gwrhydri arbennig yn ystod eu oes hirfaith, ac ni adawodd ddim o'i ol y gall cenhedlaethau i ddod gyfeirio ato fel gwr o allu ac athrylith. Paham, ynte, y rhoddir lie iddo ymhlith enwogion Mynachlog West- minster ? Yn un peth, yr oedd yn eithriadol fel Seneddwr gonest a chydwybodol. Chwe mlynedd yn ol, efe oedd arch-elyn Prydain, yn ol barn y rhai oedd mewn awdurdod ar y pryd, ond, erbyn hyn, gwelir mae ei gariad angerddol at onestrwydd mewn gwleidydd- iaeth a'i gwnaeth yn elyn i'r cynlluniau a gyfrifid yn weinyddiadau ymherodrol ar y pryd. Pan wnaed yr awgrym o gael cofadail iddo yn Westminster, ar draul y cyhoedd, eiliwyd y syniad yn galonog gan Mr. Balfour ei hun, a chadarnhawyd hynny yn wresog gan gynrychiolwyr i'r Iwerddon a Chymru. O'r holl lu a geir tu fewn i'r hen Fynachlog enwog hwn, mae un peth yn sicr, na choffeir yr un a garai onestrwydd mewn bywyd cyhoeddus yn fwy angerddol nag a wnelai y diweddar Syr H. Campbell Bannerman. Calonogi'r Blaid. Beth bynnag am nifer a dylanwad y Ceidwadwyr Cymreig yn Llundain-neu'r Undebwyr, a rhoddi iddynt eu henw proffes- edig-y mae un peth yn eglur, eu bod yn hynod o galonogol ar bob adeg y cyfarfydd- ant i gyd-wledda yn y ddinas. Nid bywiog- rwydd y Gymdeithas Undebol Gymreig sydd yn cyfrif am hyn, yn sicr, oherwydd os bu. un sefydliad cysglyd yn ein plith erioed, y Gymdeithas hon yw'r cysgadur peimaf. Cyferfydd yn achlysurol i gael cinio, ac ar ol gwledd foethus ceir areithiau ar fywiogrwydd y Blaid yng Nghymru Ac, er nad oes yr un cynrychiolydd ganddi, ar hyn o bryd, yn y Senedd, y mae larll Plymouth yn hyderus y gwelir nifer lied liosog yno ar ol yr ethol- iad nesaf. Diau mai felly y bydd ond, yn sicr, y mae'n rhaid i'r Undebwyr ddod yn fwy cenedlaethol, ac yn fwy Cymreig, cyn gobeithio am ennill y Seddau. Os llwyddanfc i gael nifer o Gymry ieuainc i ddod allan fel arwyr ar eu rhan, diau y llwyddir i yrra amryw o'r hen ffosiliaid Seisnig o'r tir, ac yn sicr, mae Tori o Gymro yn ddigon ar y blaen. i Radical o Sais Boed i'r Undebwyr gadw hyn mewn golwg pan yn dewis eu dynion i gario allan genhadaeth larll Plymouth, a yna ni fydd gennym gwyn i'w herbyn.

[No title]