Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

GWERTHU CYMRU.

News
Cite
Share

GWERTHU CYMRU. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN. SVR,-Aoghywir ac anheg yw y cyhuddiad a ddygir gennych yn eich erthygl yn y rhifyn am Mai 9fed, o dan y penawd uchod yn erbyn Rhyddfrydwyr Meirion. Ni wnaeth Rhyddfrydwyr Meirion yr hyn y cwynwch o'i blegid, ac ni wnant byth chwaith. Maen wir fod yna rhyw ddyrnaid o gynffonwyr hunan etholedig wedi ymgynnull yn un o drefi y Sir, ac yn galw eu hunain yn Gynghor y Gymdeithas Ryddfrydig, ond yr wyf yn sicrhau i chwi, Mr. Golygydd, ac i blant Meirion sydd ar wasgar yn y Babilon Fawr yna, nad oedd y rhai hynny yn cyn- rychioli neb ond hwy eu hunain, a chawsent hwy a'r wlad wybod hynny pe buasai eu hymgais fradwrus yn cael myned i lais etholwyr gwerin Meirion A gallwch chwithau ymdawelu, Mr. Golygydd, nad yw gwerin Meirion mor ddifraw a chysglyd ag y myn llawer eu bod, gan nad teg barnu hynny oddiwrth sefyllfa Cymdeithas Ryddfrydol Meirion, gan fod y mwyafrif mawr wedi ei gadael er's amser bellach, ac ysbryd y deffroad yn mynnu torri allan mewn ffurf newydd. Bellach mae cangen o Gymdeithas Undeb Llafur wedi ei sefydlu yn Mlaenau Festiniog, a neb llai nach hen gymydog Silyn yn Llywydd iddi, a chyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf credwn y bydd gennym olynydd teilwng i'r diweddar anwyl Tom Ellis, ac y caiff ein Haelod presennol. nid yn unig fod yn aelod o Bwyllgor Cegin Ty'r Cyffredin, ond y caiff ryddid i fod yn Ben Cogydd yna os y dewisa. FFESTIN. [Nid yw llith Ffestin ond yn cadarnhau yr hyn a ddywedasom. Yr oedd Rhyddfrydwyr Meirion, yn ol llais Cymdeithas Ryddfrydol y Sir, yn barod i roddi'r sedd at wasanaeth y Sais. Pa un a yw'r Gymdeithas honno yn cynrychioli Rhyddfrydwyr y Sir sydd bwnc arall, ac nis gallwn ni ei bender- fynu. Mae'n wir fod yna Gymdeithas newydd wedi ei ffurfio tan lywyddiaeth Silyn, ond rhaid i "Ffestin" gofio fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw ffurfio Cymdeithas mewn congl neillduol cyn argyhoeddi Sir gyfan. Rhaid i wyr ieuainc Meirion droi ati a phenderfynu gwneud y Gym- deithas yn allu, a chyn cael hynny rhaid i wyr ieuainc y lle a'r llafurwyr aberthu llawer mewn arian ac amser, fel pan ddelo'r adeg i ddewis olynydd i Mr. Williams y byddont a'u llygaid a'u calonnau ar wr ieuanc a'u dwg i anrhydedd fel y gwnaeth Tom Ellis yn y dyddiau gynt.-GOL.]

Editor of the LONDON WELSHMAN…