Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CORAU PLANT.—Ni fydd cystadleuaeth corau y plant yn Eisteddfod 1909. Bernir y byddai yn anoeth dod a thyraid o blant o bell i gystadlu-y byddai yn lludded iddynt. O'r ochr arall, pe cyhoeddid cystadleuaeth, tybid na ddeuai corau o Gymru a threfi mawrion Lloegr lie y mae corau plant Cymreig, ac felly rhoddid cyfle i blant Seisnig Llundain i gymeryd y wohr. Rhesymau gwael ydyw y rhai uchod ac fe bar syndod i Gymry'r Wiad fod Llundain yn cau allan gystadleuaeth sydd mor bob- logaidd yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol! Y mae un cor enwog o blant Cymreig wedi gwrth-dystio yn erbyn penderfyniad y pwyll- gor ac y mae y ifaith fod y cor hwnnw yn foddlawn dod tua dau-can milldir o ffordd i'r gystadleuaeth (pe byddai un) yn ddigon o brawf i mi y byddai corau ereill yn bur debyg o ddod. Nid busnes y pwyllgor ydyw ystyried y drafferth a fyddai i ereill ynglyn a chor plant. Y mae y rhai sydd a'u gortl arnynt ya ddigon profiadol i wybod beth y maent yn ymgymeryd ag ef. Ond edrycher ar gulni y rheswm arall ddygir ymlaen, sef nad oes eisiau gwneud llwyfcin yr Eisteddfod yn ymgyrch-fan i gorau plant Seisnig! Onid ydyw holl destynau corawl a lleisiol yr Eisteddfod yn agored i'r byd"? ac os goddefir i gorau rhai mewn oed, o blith y Saesoii, gystadlu, paham na chaiff corau plant y Saeson gyfle hefyd ? Heblaw hyn, credaf y gellid codi o leiaf ddau gor plant Cymreig yn y ddinas hon-corau a roddent gyfrif da o honynt eu hunain corau allent ganu cystal a'r mwyafrif o gorau plant ysgolion dyddiol Llundain. Yr wyf yn lied sicr na chafodd y mater hwn ystyriaeth ddyladwy ac yn fy marn i anffawd ydyw fod Gwyl 1909 yn gwneud i ffordd a'r math hwn o gystadlu—un y mae eia cenedl wedi ei fabwysiadu ar hyd y blyDyddau. DR. WALFORD DAVIES.-Dywed "ypapur- au" ddarfod i'r cerddor hwn hysbysu fod cerddoriaeth gerddorfaol Seisnig yn ei babandod o'i chyferbynu a Cherddoriaeth Gorawl. Mewn llythyr ar y mater, dywed un ysgrifennydd y buasai gosodiad y Doctor yn wir pe cyfeirid at Gymru, ac nid at Loegr. Cyfeiria at y cerddorfau oeddynt mewn bri yn amser Handel, ag oeddynt abl i chwareu ei ddarnau a'i gyfeiliant ef; at yr "Ancient Concerts"; at y Philharmonic Society sydd bron yn ganrif mewn oedran at y Julien Promenade Concerts oeddynt mewn bri drigain mlynedd yn ol. I'm tyb i, cyfeirio yr oedd Dr. Davies at gerddoriaeth gerddorfaol yn fwy nag at gerddorfau. Nis gall hyd yn oed y Sais ddweyd y bu gan ei genedl gyfansoddwyr cerddorfaol mawrion gan mlynedd yn ol. Os bu, y maent yn nhir anghof; ac felly nis gaUasent fod yn rhai mawrion Ac ar hyn o bryd ni fedd y Saeson ond un cerddor gwir fawr-o boblog- rwydd Europeaidd. Y mae ganddi le i ymfalchio yn hwnnw. Felly, er nad yw gywir ddweyd mai yn ei babandod y mae cerddoriaeth gerddorfaol Seisnig, nid yw eto wedi cyrraedd ystad o berffeithrwydd mawr. Gwelir uchod y cyfeiriad at Gymru druan Haerir mai yn ei babandod y mae Ili; a chan y deallais nad ydyw Edward German yn dewis galw ei hun yn Gymro, rhaid cydnabod cywirdeb yr haeriad. Da fod R. Vaughan Williams ar y maes ac yn gorfodi sylw y byd Seisnig. Yr wyf yn deall mai Cymro ydyw. Y mae perygl beio yr Eisteddfod yn ormodol am sefyllfa cerdd- oriaeth Gymreig; ond ers blynyddau bellach y mae'r cyfleusterau addysgiadol yr un i'r Cymro ag ydynt i'r Sais. Beth all Prifysgol Cymrll ei wneud i'w hefrydwyr ym maes cerddoriaeth gerddorfaol tybed ? Ar hyn o bryd, y mae rhyw sail dros gredu nad ydyw y math hwn o gerddoriaeth yn apelio yn gryf iawn at gerddorion ieuainc ein gwlad. Ond pwy wyr nad all fod rhyw Beethoven eto i godi o blith ei phlartt hi Pan y cwyd, gobeithio y caiff Gwalia Wen y credyd SYR FREDERICK BRIDGE.—Y mae y cerddor hwn ar ymweliad a Canada, a sieryd yn uchel iawn am alluoedd y datganwyr yno. Yn Ottawa canodd Cor yr Anthem Hosanna i Fab Dafydd (Gibbons), ar fyr rybudd, yn feistrolgar. Yn y Cathedral, Toronto, dywedodd fod y canu wedi effeithio arno yn fawr iawn: yr oedd mor ddefosiynol a mawreddog. Yn nechreu Mai, derbyniodd y radd o Ddoctor mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Toronto, a diolchodd am yr anrhydedd. CANU CORAWL SEISNIG.-Mewn cystadleu- aeth ddiweddar ymhlith y Saeson yn Lerpwl, hynodrwydd yr ymgyrch ydoedd fod pob cor i ganu ei ddarn ei hun! Gwob- rwywyd cor Burnley am ganu darn Pinsuti In this hour of softened splendour." Canodd yn dda, gan ddiweddu "very nearly in the Key" Y corau ereill oeddynt o Sheffield, Keighley, Halifax, Oldham, Manchester, a Leeds. Meddylier am y cor goreu yn diweddu agos yn y Cyweirnod Y mae gobaith i gorau Cymreig ar ol hyn. Carwn glywed fod rhai o honynt yn ymgeisio yn Lerpwl y flwyddyn nesaf Gwareder nirhag y Challenge Chorus Y mae yr her unawd yn ddigon o dreth-o bla fuasai y gair goreu. DR. E. J. HOPKINS (Parhad).—Meddai Hopkins ieuanc lais dymunol iawn, ac yr oedd iddo alwadau mynych i ganu mewn cyngherddau, &e. Cofiai yn dda am giniaw roddwyd gan William Horsley i Mendel- ssohn, pryd y canwyd un o Ganigau Horsley. Pan ofynwyd i Mendelssohn chwareu ar y berdoneg, cymerodd un o destynau" y glee a gweithiodd hi allan, yn bur feistrol- gar, mewn fugue Dyddorol darllen ddarfod i Hopkins fach ganu unawdau ym mherfformiad y "Messiah," a roddwyd ar agoriad yr organ newydd gan J. C. Bishop yn Eglwys St. Benet-sef yr Eglwys Gymreig, yn bresennol-yn y flwyddyn 1832. Y mae yr hanesyn canlynol mor dda fel na cheisiaf ei gyfeithu Amongst Dr. Hopkins's fellow choristers was a boy named Perkins, who, from the fact of his being a distant relative of Mr. Hawes, escaped some of the thrashings and other punishments meted out to other mem- bers of the youthful community. He was not therefore especially beloved by his brother choristers, who lost no opportunity for paying off old scores. The fifth of November drew nigh. Gunpowder had to be obtained somehow and smuggled into the house in Adelphi Terrace, unknown to any of the inmates who were in authority. Dark coloured physic bottles appeared to be a convenient and effective means of conveying and hiding this necessary ingredient for home-made fireworks. But several if not many of these bottles were required for this purpose, and how were they to be obtained ? Perkins was obviously the boy to procure them. He was sent for, and after threats of the direst punishment if he sneaked," he was initiated into the mystery of the ttgun- powder plot." He was told to go at discreet intervals to a certain chemist's shop, and purchase a black draught." When safely out of sight of the shop he was to empty the contents of the bottle into the gutter, buy some gunpowder and bring it home in the bottle. Perkins fulfilled his mission so faithfully that the chemist began to smell a rat." Either there was a serious epidemic raging somewhere in the immediate neigh- bourhood, or his reputation as a vendor of efficient black draughts was at stake. He determined to satisfy himself on both these points. The next time Perkins appeared, he enquired if the boy wanted the medicine for himself, or whether he was certain that the previous doses had been properly taken. Observing some considerable hesitation in the boy's manner, he poured the draught into a glass and insisted upon Perkins taking it, then and there There was no alternative. But when Perkins returned to Adelphi Terrace he refused to be sent for the purchase of further black draughts, and he was unfortunately prevented from attend- ing the Guy Fawkes pyrotechnic celebration.

GWERTHU CYMRU.

Editor of the LONDON WELSHMAN…