Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

EISTEDDFOD 1909.

News
Cite
Share

EISTEDDFOD 1909. Erbyn hyn mae'r trefniadau gogyfer a- gwyl fawr y Cymry yn Llundain ym Mehefin 1909, ar fin cael eu cwblhau. Nos Fercher diweddaf caed cyfarfod arbennig o'r pwyll- gor cyffredinol i ystyried adroddiadau ter- fynol y gwahanol is-bwyllgorau, a da gennym ddeall fod y cyfan wedi eu mabwysiada gydag unfrydedd. Mae'r holl destynau wedi eu gorffen, a'r gwahanol feirniaid wedi eu dewis, ac yn sicr ni chafodd yr un Eisteddfod restr mwy ymarferol o destynau nac ychwaith well catrawd o feirniaid medrus a phrofiadol. Bwriedir cyhoeddi y rhaglen gyda'r amodau; yn gyflawn erbyn tua diwedd y mis hwn, fel ag i fod yn llaw y cyhoedd cyn adeg: cyhoeddi yr wyl ar y 10fed o'r mis nesaf. Yn ol yr addewid a wnaed yn Abertawe y llynedd mae'r pwyllgor wedi cadw Cymreig- iaeth. yr wyl mewn golwg ynglyn a phob, adran. Rhaid i'r testynau barddonol, wrth gwrs, fod yn Gymreig bob- amser, ond yn hyn o adran y mae'r testynau yn holloi Gymreig ac yn seiliedig ar bynciau o ddydd- ordeb i ni fel cenedl. Mae'r pynciau llen- yddol oil yn rhai ymarferol, yn rhai y mae. angen traethiad arnynt. Hwyrach fod y wedd hanesyddol yn fwy amlwg nag y dis- gwyliai rhai pobl, ond mae'n nodwedd iachus ar ran y pwyllgor. Mae'n eglur mai amcan pennaf y pwyllgor yw cael traethodau cynhwysfawr ar y gwahanol faterion, llyfrau y gellir eu hargraffu gyda budd i lenydd- iaeth a hanes y genedl, a gobeithio y llwyddir i gael toraeth o gyfansoddiadara teilwng o'n lien ac o'r hen wyl fel cynnyrch yr Eisteddfod yn Llundain yn 1909. Yn yr adran gerddorol mae'r pwyllgor wedi torri tir newydd. Rhoddir y gweithiau clasurol goreu a'r hen alawon Cymreig bob yn ail, fel testynau cystadleuol, ac mae'r bwriad o gael cerddorion o fri i wasanaethu fel beirniaid yn sicr o ddenu rhai o'r coraiz goreu i gystadlu yn yr wyl. A dyna sydd eisieu er ei gwneud yn hollol lwyddianus. Un nodwedd a haedda sylw yw, gwaith y pwyllgor yn dewis yr Archdderwydd fel canolwr cyffredinol yn y gwahanol gystad- leuon barddonol. Dau feirniad sydd i benderfynu ar yr awdl, a dau ar y goron, ac os bydd unrhyw anghydwelediad cydrhyng- ddynt, rhaid i farn Dyfed fod yn derfynol! Mae'r trefniadau ynglyn a chyhoeddi yr wyl ar fin cael eu cwblhau. Cymer y sere- moni le ddydd Mercher, Mehefin lOfed, yn

Am Gymry Llundain.