Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cleber y Clwb.

MARWOLAETH MR. TOBIT EVANS,…

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. TOBIT EVANS, Y.H. Bydd yn chwith gan lawer o gyfeillion ac edmygwyr Mr. H. Tobit Evans, Y.H., Neuadd Llanarth, Ceredigion, glywed am ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Sadwrn diweddaf, ar ol hir nychdod, yn ei 64 mlwydd o oedran. Yn ystod y 25 mlynedd diweddaf nid oedd neb'yn fwy blaenllaw gyda materion Cymreig yn Neheubarth Cymru na Tobit Evans, ac er mor amrywiol ei ddaliadau, ac mor anghyson ei gyflawniadau, yr oedd pawb yn ei hoffi. Yr oedd ei sirioldeb naturiol a'i wrthwyneb- iadau di-ddichell yn ei wneud yn ffefryn gan bawb, ac er ei fod wedi gorfod cilio o faes yr ymladd ers pum neu chwe mlynedd, eto anhawdd yw gadael cymeriadau o'i arbenig- ion ef i ymadael o'n mysg heb deimlo hiraeth ar ei ol, ac addef fod Cymreigiaeth yn dylotach heb ei gyfarwyddyd parod ai feirniadaeth miniog. Ganwyd ef yn ardal Peabryn, Ceredigion, ardal a ddaeth yn enwog, pan oedd ef yn anterth ei ddyddiau, am ei brwydrau gwrth- ddegymol. Cafodd addysg dda pan yn ieuanc, a bwriadai ar y dechreu i sefydlu fel masaachydd yn ei hen ardal enedigol. Dechreuodd fel gwas mewn siop grocer, ond 'doedd hynny ddim yn cydfyned a'i anian, a cheisiodd wella ei ffordd a myned yn ysgol- feistr. Aeth drwy efrydiaeth yng ngholeg Bangor, ac yna sefydlodd yn feistr yn ardal Llechryd, a bu'n athraw llwyddianus am flynyddau lawer. Cydnabyddid ef ar y pryd fel un o Radicaliaid pennaf y cylch. Honnai ei hun yn Ymneillduwr cadarn hefyd, ond nid oedd yn hoffi. un math o ddefodaeth, a chasbeth ganddo oedd offeiriadaeth, ni waeth pa un a'i mewn Eglwys neu gapel y gwelai yr ysbryd hwnnw. Pan ddaeth yr ymraniad mawr yn y blaid Ryddfrydig ar bwnc Ymreolaeth i'r Iwerddon trodd Tobit yn ddisgybl i Chamberlain gan wrthod Glad- stone a'i gredo. 0 hyn allan efe oedd pinacl Undebaeth yn y deheubarth, a sefyd- lodd bapur wythnosol yn Llanbedr Ceredig- ion tan yr enw Ye Brython er mwyn hyr- wyddo plaid yr Undebwyr yn hen Sir Geredigion. Efe oedd un o bleidwyr cadar- naf y diweddar Ddafis Llandinam, pan wnaeth y boneddwr hael hwnnw ei ymosod- iad olaf ar gaerau Rhyddfrydol gwlad y Cardis. Ond methiant truenus fa. ei gen- hadaeth, oherwydd teimlai pawb mai nid o argyhoeddiad yr oedd Tobit yn euro ar ei hen gyfeillion yn y rhengoedd Radicalaidd. Ym mhen amser ymgymerodd a bod yn olygydd i'r Journal yng Nghaerfyrddin, a gweithiai yn galed iawn er cadw y papur hwnnw yn fyw tan lawer o anhawsterau. Yr oedd yn hynafiaethwr gwych, a llwydd- odd i gasglu llu mawr o lyfrau yn ym- wneud a hanes Ceredigion a'r Deheubarth yn y 15-eg a'r 16eg ganrif, a gwnaeth ei hun yn fedrus yn y Gernywaeg gan gasglu cymaint ag a allai o'i gweddillion lleayddol. Ar y fainc ynadol yr oedd yn ffafriol iawn i bopeth Cymreig, a chafodd y tylawd a'r methiantus gyfaill gonest ynddo ar bob achlysur. Yr oedd ei Gymreigiaeth yn eithafol, a chaseai bob rhagrith a Sais- addoliaeth yn ddieithriad. Nid elai byth i gapel Cymreig os digwyddai fod yr enw o'r tuallan wedi ei ddodi yn Saesneg, a phan glywai bregeth Saesneg mewn gwasanaeth Cymreig codai ar ei union gan ymadael a'r lie. Pan drodd yn Undebwr nis gallai gyd- ymddwyn a'r pregethwr Ymneillduol, am hynny trodd yn Grynwr o ran ei ddaliadau crefyddol; ond 'roedd credo'r Crynwyr iddo, yn ogystal a'i Undebaeth mewn gwleid- yddiaeth, yn fwy o hobby nag o argyhoeddiad. 4k

Am Gymry Llundain.