Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cleber y Clwb.

News
Cite
Share

Cleber y Clwb. Bu'n helynt garw yr wythnos lion cyd- rhwng beirdd y Clwb ac awdurdodau Cym- deithas Gorsedd Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, ynglyn a threfniadau'r Orsedd erbyn dydd cyhoeddi'r Eisteddfod. Yroedd pob un o foys Llundain yn honni bod yn awdurdod ar yr hen ddefodau Derwyddol, a gellid casglu oddiwrth eu hareithiau nad oedd Morien na'r diweddar Gwilym Cowlyd, nac Ellis o'r Nant, na Dyfed, na neb o'r hil, ond anwybodusion ffol a gau-brophwydi derwyddol o'r fath waethaf. I benderfynu'r ddadl caed gan Arlunydd Penygarn ddod yma un noson i roddi'r cwmni ar linellau diogel. Mae'r Arlunydd yn gwybod popeth am Gymru ond am ei hiaith, ac mae'n fantais fawr i Dderwydd i fod yn analluog i siarad y Gymraeg. Mae pob bardd yn tynnu ei het i ddyn os yn Sais, ac yn rhoddi'r lie goreu iddo bob amser ynglyn a'r uchel-wyliau Derwyddol; a thyngai Norick yn y cwrdd heno ei fod am droi yn Sais o hyn allan, ac i wadu ei wybodaeth o'r Gymraeg er mwyn cael y Sedd flaenaf yng nghadair Eisteddfod 1909. Wel, pan ddaeth yr Arlunydd, a dangos ei gynllun eang, a'r modd i weithredu, a sat i drefnu'r meini derwyddol, aeth pawb yn stwmp. 'Roedd yn rhaid i'r cyfan gael ei wneud yng ngwyneb haul," ac felly yn y blaen, ond nis gallai Vincent na neb arall sicrhau gwenau'r haul mewn awyr fwll fel ag a geir yn Llundain. Ar yr un pryd tystiai Llewelyn Williams fod heulwen hafaidd bob amssr yng nghylchoedd cyfriny Demi; ac ar yr amod ei fod i sicrhau tipyn o oleuni yn rhad yn nghyntedd mewnol y Demi y cytunodd y frawdoliaeth i gynnal yr wyl yno. Ond beth am y meini ? Yr oedd yn rhaid cael rhai o fantioli aruthrol! Yn un peth pobl fach iawn oedd Beirdd y Clwb dim un o honynt-ag eithrio Ap Shon a John Hinds ddim dros chwe troedfedd mewn taldra, ac mae'r mwyafrif yng nghymdogaeth pump a phump. Dyna Alaw Stepney five foot four, a ditto'r Kelt. Cristopher yn five-five, a Richard Roberts hanner modfedd tan hynny. 'Dyw'r Vincent ei hun ddim yn wr tal iawn, ond mae sirioldeb ei wyneb ar ddydd gwyl yn g wneud y diffyg i fynu a gellir ei ganfod ,ef bob amser fel rhwng popeth a'i gilydd, aeth yn helynt flin sut i sicrhau a rheoli'r meini. Awgrymodd Arlunydd Penygarn y dylai'r meini oil fod yn ddwy droedfedd o daldra, ond gwrthwynebodd y Kelt hynny gan awgrymu mai gwell fyddai cael maen i ateb pob bardd yn ol ei daldra, fel ag i wneud y beirdd oil o'r un uwchder pan yn cynnal yr Orsedd. Bydd y papurau newydd yno," meddai, "yn tynnu ein lluniau, ac andros o beth fydq gweld John Hinds i fynu yn y cymylau a Dr. Dan a J.T. i lawr yngbanol y crowd. Cydraddoldeb yw nod pennaf Der- wyddaeth, a gadewch i ni wneud pawb yn gydradd ar y dydd hwn. Yr ydych yn gorfod ein mesur oil am ein capiau a'n gwisgoedd," meddai, "a gadewch i ni eto gael ein mesur am y meini sydd i fod tan -ein traed ar ddydd mawr yr wyl." Eiliwyd y cynnyg gan John Hugh, a chefnogwyd ef gan Bryant ac ereill: oil yn bybyr iawn dros gydraddoldeb barddol. Gwrthododd Eifionydd yr awgrym yma, gan yr ofnai y byddai yn rhaid cadw maen gogyfer a phob bardd yn ogystal a'r gwis- goedd pe mabwysiedid y cynllun, ond daeth yr Archdderwydd i fewn gan beddychu y pleidiau, oherwydd efe yw canolwr eyffred- inol y pwyllgor, a gall efe, gyda'i gynghan- edd, benderfynu pob pwnc i foddlonrwydd pawb. Y diwedd fu, i'r arlunydd gael ei ffordd ac ar ol araith Saesneg ganddo ymadawyd i'r Holborn, er mwyn trefnu'r wledd a fwriedir roddi i'r beirdd ar noson y cyhoeddi. Ap SHON.

MARWOLAETH MR. TOBIT EVANS,…

Am Gymry Llundain.