Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. EAST HAM.-Cynhaliodd y brodyr cys- ylltiedig a'r achos Cymreig yn Sibley Grove, eu Gwyl Gystadleuol Gerddorol eleni yn yr Earlham Hall, Forest Gate, nos Iau, y 7fed cyfisol. Fel y sylwais yn flaenorol, apelir yma at y Saeson, yn fwyaf arbennig, i gystadlu ond da ydyw gweled fod Cymry y gymdogaeth yn aiddgar i gefnogi yr Wyl, a cheir rhai o honynt ymhlith yr ymgeiswyr. Darnau Seisnig ydoedd yr oil a genid, ac yr oeddynt yn rhai pur chwaethus. Os nad ydyw y Sais gystal cantor, fel rheol, a'r Cymro, medd ganeuon diguro-fel y cyd- nebydd y diragfarn. Cafwyd cystadleuthau uwchraddol ar y darnau canlynol 1. Duett (Sop. ac Alto), "Farewell to Summer," gwobr 25s. 2. Duett (Tenor a Baritone), "I wish to tune my quivering lyre," gwobr 25s. 3. Unawd Soprano, The heart's awaken- ing," gwobr 21s. 4. Unawd Contralto, Thy will be done," gwobr 21s. 5. Unawd Tenor, My hope is in the Everlasting," gwobr 21s. 6. Unawd Baritone, The Smuggler," gwobr 21s. 7. Unawd i rai dan 14 oed, "A little bird," gwobr 7s. 6d. a 3s. 8. Unawd ar y Berdoneg, Air de Ballet (Mullen), gwobr 10s. 6d. 9. Adroddiad allan o "As you like it" (Shakespeare), gwobr 10s. 6d. 10. Adroddiad, "Little boy blue," ewobr 5s. Y mae Rhif 3 a 4 yn ddau o'r darnau tlysaf a glywais ers talm, a da fyddai gennyf eu clywed yn fuan eto. Haedda y ddwy- awd, Rhif 1, hefyd sylw pellach. Y mae yn ddernyn swynol iawn teilwng o Noel Johnson. Nid ydyw y ddwyawd (Rhif 2) mor hawdd na dyddorol, er yn ddernyn "prawf" da. Dyddorol ydoedd y gystadleuaeth (rhif 7), ar "A little bird." Canodd pump o rai bach-un mor fychan fel y cuddid ef, o'r bron, gan y copi Y goreu ydoedd Idris Evans, East Ham; ail oreu, Esther Jones, Romford Road. Er anogaeth iddynt, rhoddwyd gwobr fach hefyd i H. Gilchrist, E. Keble, ac Arthur Edwards. Yr oedd y goreu wedi ennill yn gynarach am adrodd Little boy blue ac ychydig gormod o'r Adroddwr deimlwnl yn y datganiad, er yn cydnabod mai da, yn fynych, fyddai cael mwy o hyn yng nghanu llawer o gystadleuwyr ac ereill. Ar rif 3 (unawd soprano), allan o wyth, daeth tair i'r llwyfan. Cystadleuaeth dda iawn ydoedd hon. Yr oedd y tair yn lleis- wyr da ond er y safai yr oreu yn uchel, ar lawer ystyr, nid ydoedd ei datganiad hi yn gwbl foddhaol gennyf. Cymerid ychydig gormod o ryddid a'r rhannau tyneraf yr oedd eisiau triniaeth ysgafnach, mwy delicate o'r cyfryw. Y mae y fuddugol yn gantores o allu a chwaeth uchel. Ei henw ydyw Miss Catherine Blake, o Romford Road. Rhif 8. Ar y darn i'r berdoneg, ym- geisiodd pedair o enethod. Dyma'r gystad- leuaeth leiaf boddhaol yn yr wyl. Yr oedd y darlleniad yn anghywir neu yn aneglur ac esgeulus gan bron yr oil. Chwareuodd y fuddugol y darn yn rhy araf, ond yr oedd yn gywirach ac yn fwy effeithiol ganddi na chan y lleill. Goreu Miss Dorothy Rook- wook, Forest Gate. Ar rhif 4 (Unawd Contralto), cafwyd canu gwir dda ond yma, fel mewn lleoedd ereill, ymgeisiddd rhai na feddent leisiau contralto. Hefyd, yr oedd yma foneddigesau allent ganu, ond nid caneuon cysegredig ydynt eu forte. Da fyddai i'w cyfeillion eu hargy- boeddi o hyn Y mae Ilais da yn rhodd werthfawr, ond heb allu i ganu can gyseg- redig fel ag i'w gwneud yn bregeth fach, ofer ydyw y canu. Nid ydcedd y fuddugol—Miss J. Blake- yn fy moddhau yn llwyr, ond yr oedd y datganiad yr agosaf o'r hyn a ddisgwyliwn. Medd lais cyflawn, a chan gyda llawer o orphenedd. Ymgeisiodd wyth ar y gan i Baritone, sef "The Smuggler" (Rhif 6). Yma eto, yr oedd bron yr oil yn lleiswyr da, ond ychydig iawn o ddarlun o'r "smuggler" a gafwyd gan y mwyafrif. Y goreu—ac yr oedd yn oreu da-ydoedd Mr. John Hughes, City Road. Ar Rhif 5 (Unawd Tenor), ymgeisiodd pump, ac y mae fy sylwadau ar rhif 4, parth y cysegredig i'w cymhwyso at y mwyafrif yma. Yn y goreu, sef Mr. B. D. Jones, Wimbledon, ceir tenor pur. Nid ydyw yn llais nerthol iawn, ond gwna i fyny mewn swyn. Hynod effeithiol ydoedd ei ddatganiad. Rhif 2 (Dwyawd i Denor a Bass), dau barti. Yn aneglur o ran y geirio yn fynych. Diafael ydoedd y canu ar y cyfan. Yr elfen ddisgrifiadol yngholl. Yn yr ail barti yr oedd y Tenor hytrach yn wan i'r Bass ond yr oedd y ddau yn ymdoddi yn hyfryd i'w gilydd, ac yn canu yn afaelgar. Lleiswyr da ydynt. I'r ddau hyn, sef Mr. David Davies a Mr. B. D. Jones, yr aeth y wobr. Ar Rhif 1 (deuawd i soprano a contralto), dau barti yn cynnyg-un pur ieuanc, ac un addfed, fel na chafwyd dyddordeb mawr yn yr ymgyrch. Y goreuon oeddynt y ddwy chwaer-Misses 0. a J. Blake-enillwyr y gwobrau am ganu yr unawdau i soprano a contralto. Gan nad oedd ond dwy gystadleuaeth arall yn yr wyl, sef yr adrodd, da gennyf yma enwi y buddugwyr. Goddefer imi ddweyd mai anfynych y clywais well adrodd Yr oedd yr ystum a'r ysgogiad," &c., mor naturiol! Ar rhif 9 yr oreu ydoedd Miss G. M. Doughty, Goodmayes, Essex. Ar Rhif 10, aeth y wobr i Idris Evanp, East Ham. Hefyd rhoddwyd gwobr i Miss Jacobs, Forest Gate, gan y Cadeirydd. Y Cadeirydd ydoedd y gwr hoffus, dawnus a doniol, yr unig John Hinds. Beirniad yr adrodd ydoedd Gymro pur, sef y Parch. David D. John, B.A., gweinidog Capel Seisnig. yn Romford Road. Cyfeilydd, Mr. T. Lloyd (mab Mr. Lloyd, gynt o "Dy'r Capel," Jewin). Trysorydd, Mr. D. Evans. Ysgrif- enyddion, Mri. G. Griffiths a J. Lewis Johns. Hyn ydyw byr hanes yr Wyl hon eleni. Rhwydd hynt i'r brodyr yn Sibley Grove gyda'u hymdrechion clodwiw. SYR WALTER PARRATT.—Efe sydd wedi ei benodi i'r swydd o Broffeswr mewn cerddor- iaeth ym Mhrifysgol Oxford, yn olynydd i Syr Hubert Parry. Y mae Parratt yn un o brif organwyr y dydd. Yr oedd ei dad, hefyd, yn organydd da. Bu yn dal y swydd hon am hanner can mlynedd yn Eglwys blwyfol Huddersfield. Syr Walter, fel y gwyddis, ydyw Meistr y Gan" i'r Brenin. DR. SAWYER.—Colled i'r byd cerddorol Seisnig ydoedd marwplaeth y cerddor hwn. Claddwyd ef yn Brighton ddechreu y mis presennol. Yr oedd yn ysgrifennydd i Goleg yr Organwyr. Pery ei enw yn hir, yn bennaf oherwydd ei lyfrau addysgiadol ar y gerddoriaeth. ° Y GAN. Gadawodd John Brinsmead ar ei ol £ 46,127. Gadawodd Walter Slaughter £ 7,324. Y mae yn amlwg fod gwneud offerynau cerddorol yn fwy buddiol nag ymarfer a'r Gan 0 DR. E. J. HOPKINS (Parhad).—Nid ydoedd y bwyd a roddid i'r becbgyn perthynol i gor St. Paul a'r Capel Brenhinol, y pryd hynny gystal ag y dylasai fod, a mynnych y byddai rhieni a pherthynasai yn cynllunio i anfon bara ac ymenyn, ac ychydig o ddan- teithion iddynt. Dyna ein rheswn paham y cymerodd y digwyddiad digrifol a ganlyn le:— In the year 1830," medd Dr. Hopkins, the coronation of William IV took place in Westminster Abbey, at which august ceremony the choristers of S. Paul's Cathedral and the Chapel Royal (I amongst the number) had to attend, and sing. Stringent orders had been issued that all those who had to take part in the performance of the music (choralists and instrumentalists) were to be in their places in the orchestra by a certain early hour which was named. The boys were all there punctually, and for some time sat quietly, doing nothing but that kind of life becoming at last rather irksome, some of them, one by one, contrived under various pretexts to creep down from their places. Prowling about below, they made their way through an opening, the door of which had been inadvertently left adjar and this led them among the timbers which sup- ported the temporary orchestra. Most of the instrumentalists had already taken their seats in rows, and had placed their hats immediately under their seats. Inside these hats they had deposited their respective packets of savoury refreshments. Viewed from the under side of the orchestra, the horizontal rows of hats presented an appearance not unlike a series of jars on the shelves of a druggist's shop and it was not long before the attention of the boys was drawn to them their curiosity being somewhat excited by hungry reminders that it was a long time since breakfast, and it was an uncertainty when the next meal would come. What did those hats contain ? Was it possible that there might be hidden therein something to eat'? These questions were eagerly propounded, until one boy, more hungry than the rest, softly whispered Will anyone climb up and se3'? The suggestion was no sooner made than acted upon. One boy swarmed up the tall wooden support in front of him. Peeping into the first hat, he signalled to the boys down below that it did contain eatables. Up they all came, one after the other, and made a thorough examination of what lay concealed. The first hat contained some daintily-cut ham-and-beef sandwiches the next disclosed hard dumplings and a bottle of milk chicken drumsticks and ham were extracted from the third, and so on. These extremely appetizing luncheons were speedily consumed, and the boys made their way back to their seats as quietly as possible. What the Instrumentalists said when they ex- amined their respective hats is happily unrecorded but it is hoped that they remembered they were in Church

[No title]