Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. PWY SYDD GYFRIFOL?- Yr hin anwadal yw testyn pob dau y dyddiau hyn. Heddyw oerfel gauafol, yfory poethder haf! Pwy sydd gyfrifol am hyn ? UNDEB EFRYDWYR.-Heno y cynhelir ad- uniad o ferched fu unwaith yn efrydu yn ysgol Dr. Williams, Dolgellau. Yn llyfrgell enwog Dr. Williams y cymer yr ad-uniad le. CYFARFODYDD.-Mae llu o atyniadau yn y cylchoedd Cymreig yn ystod yr wythnos ddyfodol, ond hwyrach rnaFr cyfarfodydd mwyaf poblogaidd fydd y Cyngerdd Cystad- leuol ym Mile End, a gwledd cor Merlin Morgan yn yr Holborn Restaurant. COR MERLIN.—Mae hwn yn argoeli dod yn un mawr. Ar un adeg gofalu am gor o feibion yn unig wnai Merlin, ond gan fod y rhagolygon mor addawol y mae wedi trefnu i godi cor Cymreig er myned i gystadlu yng Nghaerdydd ar wyl y Banc yn Awst. Ei ANRHEGU.—Ceir cyfarfod arbennig yn yr Holborn Restaurant nos Iau nesaf er cyf- lwyno anrheg i Mr. a Mrs. Merlin Morgan gan aelodau y cor. Mae Merlin wedi gweithio yn galed gyda'r cor meibion am flynyddau, fel y teimlir y dylid cydnabod ei wasanaeth a'i lafur trwy anrheg fechan. Rhoddir gwledd i ddechreu, am 7.45, a phris y, tocyn fydd pedwar swllt. Os oes rhai am ymuno yn y wledd boed iddynt ymohebu a'r Ysgrifennydd, Mr. E. A. Jones, 52, Threadneedle Street, E.C. EGLWYS WILTON SQUARE.—Y dydd olaf o Ebrill oedd dydd Te a chyngerdd blynyddol yr Eglwys uchod, a thystiolaeth y dyrfa ddaeth ynghyd yw, nad anghofir yn fuan yr hwyl ardderchog oedd yn y ddau gyfarfod. Ymddiriedwyd trefnu y te i Mrs. W. Glad- stone Hughes, Miss Annie Parry, a Miss Maggie Davies, ac, er cymaint oedd llwydd- iant y cwrdd tê, nid oedd yn fwy na haeddai llafur diflino y chwiorydd hyn iddo fod. Llywyddwyd wrth y byrddau gan Mrs. G. H. Havard, Mrs. Hugh Edwards, Mrs. Richard Parry, Mrs. Davies, Coleman Street; Mrs. David Jones, Queen's Head Street; a Mrs. Stephen Darell, a mynegodd un oedd wrth y bwrdd deimlad pawb wrth ddyweyd fod y te yn melysu wrth ei dywallt gan y boneddigesau ffyddlon hyn. Wel, cododd y te ein disgwyliadau yn uchel am y cyng- erdd, ond yn sicr ddigon rhagorodd y cyngerdd ar ein gobeithion goreu. Bu'r pwyllgor trefnu yn ffodus i sicrhau gwas- anaeth pedwar o ddatganwyr enwog i'r cyngerdd, sef Miss Gertrude Hughes (priod Mr. R. 0. Jones, blaenor yn yr eglwys hon), Madame Juanita Jones, Mr. Tom Thomas, a Mr. David Hughes, Abertawe, tra chwareuwyd y berdoneg gan organydd gwych y Taber- nacl, King's Cross (Mr. David Richards). Rhoddodd y pump foddlonrwydd perffaith, canys oni chanwyd a chwareuwyd ganddynt nifer dda o ganeuon ac alawon Cymru ? Mor felus oedd gwrando eto ar Llam y Cariadau," ac Arafa Don (R. S. Hughes) Hywel a Blodwen," a Mae Cymru'n barod ar y wys" (Dr. Parry); Cwm Llewelyn" a Nant y Mynydd (William Davies). At y pigion Cymreig hyn ychwan- egwyd Farewell in the Desert (Adams); "I rage, I melt, I burn," ag 0 ruddier than the cherry" (Handel); Villanella (Dell' Acqua); What have I to do with thee ? (Mendelssohn); Madrigal "a "A Regular Royal Queen" (Sullivan). Gwir yw y gair, felly, fod rhaglen y cyngerdd hwn yn un eithriadol o ddyddorol ac uwch- raddol. Cafodd y llywydd, Mr. W. W. Griffith, blaenor yn yr eglwys, yn yr arben- igrwydd roddwyd yn y rhaglen i ganeuon ac alawon Cymreig, destyn i un o'r anerchiadau goreu. Byrdwn yr araith oedd, yng ngeir- iau yr Archdderwydd: Cenwch hen alawon Cymru, Nes gwefreiddio calon byd, Dysgwch i'r cenhedloedd ganu Mor o gan yw Cymru i gyd." Siaradodd Mr. Griffith yn effeithiol iawn, a chafodd dderbyniad o'r fath gynhesaf gan y dorf oedd yn llaweahau wrth weled un mor deilwng yn cael ei anrhydeddu gan ei Eglwys drwy iddi ei alw i lywyddu ei chyngerdd. Wel, llongyfarchwn yn galonog iawn y Pwyllgor trefnu a'r ddau ysgrifen- nydd, Mri. J. Oliver Davies ac Evan J. Elias, ar y llwyddiant mawr ddilynodd eu hym- drechion, ac hyderwn y gall Mri. W. J. Jones ac 0. M. Owen, swyddogion Trysorfa'r Adeiladu, hysbysu yr Eglwys, nes ymlaen, fod y Drysorfa wedi elwa yn sylweddol eleni eto drwy y te a'r cyngerdd. Talwyd y diolchiadau ar y diwedd yn ddeheuig a doniol iawn gan ddau o'r blaenoriaid Mri. John Jenkins a T. Woodward Owen. CYMAN-U,A. Y PLANT. -Nos Iau, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliodd Undeb yr Anibynwyr Cymreig gyfarfod arbennig i'r plant yng nghapel y Boro', a daeth torf o'r rhai ieuainc ynghyd i ganu ac adrodd, ac i gystadlu am y llu gwobrau oedd ar eu cyfer. Beirniadwyd y gwahanol adrannau fel hyn Cerddoriaeth, Mr. Arthian Davies; arhol- iadau ysgrythyrol, Mr. J. E. Thomas; llaw- ysgrif, Mr. Cyrus J. Evans ysgrifau, Parch. E. T. Owen; amrywiaeth, Mr. Caradog- Jones; adrodd, Mr. R. Wood. Llywyddwyd1 y cyfarfod gan Mr. P. W. Williams, Earl's, Court, a rhoddodd araith swynol i'r gyn- ulleidfa. Arweiniwyd y Gymanfa gan Mr. T. Huws Davies, a gofalodd Mri. T. Davie& a Tyssilian Jones am y trefniadau cyffredinol. RADNOR STREET.—Y Sul diweddaf a nos- Lun caed gwyl bregethu blynyddol yr eglwys hon. Gwasanaethwyd eleni gan y Parch. 0. L. Roberts, Lerpwl, a'r Parch. John Thomas, Merthyr, dau o wyr mawr yr enwad, a chaed traddodiadau grymus- ganddynt i gynulleidfaoedd lliosog. MOORFIELDS," LEONARD STREET, CITY ROAD.-Cynhaliodd yr Eglwys hon ei Chyf- arfodydd Pregethu Blynyddol y Sul a nos. Lun diweddaf, pan y pregethwyd i gynull- iadau lliosog gan y Parch. E. W. Davies, Ton Pentre, a'r Parch. Herbert Morgan, B.A., a chanodd Miss Annie Thomas yn neillduol o effeithiol y prydnawn a'r hwyr dydd Sul, Entreat me not to leave thee," a The Holy City." Mae golwg hynod a lewyrchus ar yr Eglwys yn ei chartref newydd, ac edrychir ymlaen at amser llwyddianus iawn yn y dyfodol, gan fod y frawdoliaeth yn disgwyl brawd ieuanc i ddyfod yma yn fugail, yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr. UNDEB Y CYMDEITHASAU.-Hae ym mwriad Mr. John Hinds, llywydd presennol Undeb- y Cymdeithasau, i roddi croesaw arbennig i'r aelodau cyn diwedd y tymor. Deallwn yn awr ei fod ef a Mrs. Hinds yn trefnu i wahodd yr oil o'r aelodau i ymgomwest yn y King's Hall, Holborn Restaurant, nos Sad- wrn, Mai 23ain, am 7.30 o'r gloch. Mae- gwahoddiad caredig i bob aelod i sicrhau'r tocyn a'r manylion oddiwrth yr ysgrifennydd lleol ar fyrder. UNDEB DIRWESTOL Y MERCHED.-Caecl cyfarfod dirwestol tan nawdd yr Undeb- uchod yn Jewin Newydd nos Fercher ddi- weddaf. Llywyddwyd gan Mrs. D. Lloyd- George, a chaed anerchiadau gan nifer o chwiorydd. Teneu oedd y cynulliad. YN CHISELHURST.—Aeth aelodau Cym- deithas Ddirwestol y Tabernacl ar ymweliad a'r lie prydferth hwn prydnawn Sadwrn diweddaf, a chaed amser hwyliog iawn. Un o hynodion y lie yw'r ogofeydd eang sydd yn y bryniau gerllaw; ac aeth y cwmni, tan gyfarwyddyd, drwy rai milldiroedd o'r heolydd tanddaearol hyn. Gofalwyd am gysuron yr ymwelwyr gan Mri. W. Edmunds,. D. J. Thomas, a B. J. Rees. BARRETT'S GROVE.—Gan fod amryw gyf- arfodydd ereill wedi eu trefnu yr un noson,. mae'r cyfeillion yn Barrett's Grove wedi gohirio y cyngerdd blynyddol i Mehefin 4ydd. Heno dechreuir ar gyfres cyfarfodydd pre- gethu blynyddol y lie, a pharheir drwy y Sul (yfory), a nos Lun. CLAPHAM JUNCTION.—Nos Wener nesaf cynhelir y cwrdd sefydlu ynglyn a bugail newydd yr eglwys hon. Daw Mr. J. Herbert Lewis yno i lanw'r gadair, a cheir presen- oldeb amryw o wyr blaenaf y gwahanol enwadau.

[No title]

A BYD Y GAN.