Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YSTADEGAU YR HEN GORPH.

News
Cite
Share

YSTADEGAU YR HEN GORPH. [GAN OHEBYDD ACHLYSUROL]. Da y gwnaed i alw sylw yn y CELT yr wythnos ddiweddaf at ystadegau y Metho- distiaid Calfinaidd yn Llundain yn yr ysgrif o dan y penawd uehod, a hyderwn y bydd i'r gwahanol eglwysi fabwysiadu cynllun un- ifurf yn y dyfodol, wrth wneud amcangyfrif o rif y gwrandawyr. Purion peth, hefyd, ydoedd cyfeirio at yr anhegwch o gymeryd y casgliadau at y cenbadaetbau fel mesur haelioni y cyfundeb, gan anwybyddu y casgliadau at yr oil o'r gwahanol achosion. Fe roddwyd arbenig- rwydd, foreu Gwener y Groglith, at fychan- der y sel Cenhadol, yn eglwys Mile End Road, yr hon sydd ers blynyddau lawer wedi rhagori yn fawr mewn sel, brwdfrydedd a haelioni, oherwydd yn ystod y pum' mlynedd diweddaf yr oedd cyfartaledd ei chyfraniadau yn Y,2 18s. 2d. yr aelod, tra mai Y,2 2s. 4d. ydoedd cyfartaledd yr oil o'r -eglwysi yn yr un cyfnod. Profa y ffigyrau hyn yr anhegweh a wnaed £ t'r Eglwys hon. Parodd darllen yr ysgrif y cyfeiriwyd ati i ni wneud ymchwiliad i weithgarwch y Cyfundeb Methodistaidd yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf a dengys y cyfrifon a'r ystadegau amryw wersi y dylid rhoddi pwys arnynt. Ymddengys yn eglur fod yr -eglwysi ar eu goreu i gyfarfod a'r treuliau -enfawr y maenfc wedi ymgymeryd a hwynt yn wirfoddol er cyfarfod ag anghenion crefyddol y Cymry a ymgartrefant yn y Brifddinas. Fe gyfranwyd £ 32,693 at y treuliau can- lynol yn unig- yn ysiod y pum' mlynedd diweddaf, sef £ 18,008 at draul y Weinidog- aeth, Y,8,409 at ddiddyledu'r capelau, a £ 6,276 i dalu'r llogau ar y dyledion. Gwna hyn gyfartaledd o £ 1 10s. 2d. yr aelod, arwydd pur ddiogel, onide, o haelioni canmoladwy ? Gwelir drwy yr ystadegau, hefyd, rai pethau y dylid rhoddi ystyriaethau dwys iddynt. Rhif yr aelodau cyflawn yn 1897 ydoedd 3,321, tra ar ddiwedd 1907 yr oeddynt yn 4,415, cynydd o 1,094 mewn deng mlynedd. Ond yn ystod yr un cyfnod yr oedd cynifer a 755 wedi ymadael o'r -eglwysi heb docynau aelodaeth. Y mae hon yn sefyllfa ddifrifol. A'i ni ellid taro ar ryw gynllun i leihau y colliadau hyn ? Tybir fod aelodau, ar eu dychweliad i Gymru, yn cael eu derbyn gan yr Eglwysi yno fel aelodau cyflawn beb docynau ac os ydyw hyn yn ffaith, golyga ddifaterwch mawr ar ran yr Eglwysi hynny, oherwydd yr ydys yn sicr na restrir neb fel aelod wedi ymadael heb docyn, heb i ymchwiliad manwl gael ei wneud yn ei gylch gan swyddogion yr eglwysi yn Llundain. Ffaith arall awgrymiadol iawn ydyw mai 228 o aelodau a dderbyniwyd o had yr Eglwys yn ystod y pum mlynedd diweddaf, neu gyfartaledd o 46 y flwyddyn. Pan gymerir i ystyriaeth fod dros fil o blant yn perthyn i'n heglwysi yn flynyddol, y mae lie i ofni fod nifer fawr o honynt yn cael eu colli i'r eglwysi pan y maent yn tyfu i oed- ran. Fe allai fod y plant yn colli iaith eu rhieni (os ydynt .erioed wedi ei dysgu) pin gyrhaeddant dymor ieuenctyd, ac mai hyn sydd yn cyfrif am yr awydd, y clywir son am dano y dyddiau hyn, i sefydlu achosion Seisnig yn ein plith. Ond a ydyw yn amhosibl ennyn digon o frwdfrydedd yn y rbieni i ddysgu y Gymraeg i'w plant fel y gallant fwynhau breintiau yr Efengyl ynddi ? Dredwn nad ydyw, ac y gellir gwneud gwas- anaeth anrhaethol er llwyddiant eglwysi Cymreig y ddinas yn y cyfeiriad yma, Awgrymwn, hefyd, mai buddiol iawn fyddai cael adroddiad blynyddol ar yr ystadegau gan. yr Ystadegydd, gan mai -eIe ddylai fod yr un mwyaf cymwys i dynnu y gwersi angenrheidiol oddiwrth y ffigyrau, In sydd yn hollol gyfarwydd iddo, ac yna cael ymdrafodaeth ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Misol dilynol i Gymanfa y Pasc.

A BYD Y GAN.