Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
FREETH" POCOCK, LTD., STJPPLT p URXL WBErlr CQOLSD 1CIE.K, + DIRECT FROM THE FARMS. •# GUARANTEED FREE FROM PRESERVATIVES. ( Head Depot :-ALBERT EMBANKMENT, S.E. West Central Depot :-REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos. :-Head Depot: Hop 1249. West Central: Holborn 1676. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. ———H—fII■ ll"WHill —1WI1IIlllllll»■» IIIIIIIIIIIM——■—IliiU'tlHWIiH^^— WELSH PRESBYTERIAN CHURCH, EALING GREEN, W. A Grand Welsh Concert (In aid of the Chapel Building Fund) WILL BE HELD AT THE TOWN HALL, EALING, W., On Wednesday Evening, Ray 20th, 1908. r. ehairman W. PRleE, Esq. Soprano Madame Laura Evans, R.A.M. Contralto Miss Gwladys Roberts, R.A.M. Tenor Mr. Gwynne Davies Baritone Mr. David Evans, R.A.M. Violinist Mr. Tom Morgan (Bronze and Silver Medallist, R.A.M.) Elocutionist Miss Jennie Davies Accompanist-Mr. David Richards, A.R.C.O. Doors open 7.30. Concert to commence at 8 o'clock promptly. Admission by Tickets, 3/ 2/- and 1/- each, to be obtained of Members of the Church, or the Hon. Sees Mr. EVAN HUGHES, 3, 11-gina Terrace, West Ealing. Mr. J. FERRY LEWIS, 17, Drayton Green, West Ealing. 3 minutes from Ealing Broadway Stations (G.W.R. and District); also Electric Trams from Shepherd's Bush, Hammersmith, Acton, Hanwell, Southall, and Uxbridge, pass the Hall Gi W A L I E A, I ..8J"f7 J7 .} UPPER WOBURN PLACE, LONDON, W.C. klol* m Centrally Situated. 130 Rooms, Luxuriously Furnished. *t> THE above Magnificent Hotel will be opened for the Reception of Visitors about the third wepk of this month. Moderate Tariff. Telegraphic Address Gwaliatel London." Telephone: 3648 Central. ALDRIDGE93 HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILE* ROUND or for pleasure attend.. Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m UPPER ST. MARTIN'S LANE. LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. MILE END ROAp WELSH CHAPEL. Grand Concert & Solo Competition will be held at the above place on THITUSDAY, A Y 14, 1908 Artistes- Madame Eleanor Jones-Hudson, R.A.M. Miss Dilys Jones, R.A.M. (From the Covent Garden Opera) Mr. Dan Price. Elocutionist Mr. D. Raymond Jones. Adjudicator — Mr. DAN PRICE. Accompanist — Miss Sallie Jenkins. CHAMPION SOLO COMPETITION For the best rendering of any Solo. Prize 22 2s. A Preliminary Contest will be held at 6 p.m. the Night of the Meeting. Names of Competitors to be sent to the Secretary- Miss Lizzie James, 77, Commercial Road, E., by May 12th. Concert to commence at 8 p.m. promptly. Tickets 2s. and Is.
[No title]
Cyfeirier pob Gohebiaeth a fwriedir i'n colofnau, "The Editor"; pob Hysbysiad, a phob Archeb, "The Manager," a'r oil i'r Swyddfa, Celt Office211, Gray's Inn Road, London, W.C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig.
GWERTHU CYMRU.
GWERTHU CYMRU. Caed engraifft nodedig o fradychiad cenedlaethol yr wythnos ddiweddaf yng ngwaith Rhyddfrydwyr Sir Feirionydd yn cynnyg yr etholaeth i Sais ieuanc ar grwydr. Daeth y newydd fel taranfollt i glustiau pob gwir genedlaetholwr, ac nid syndod oedd clywed am y protest cyffredinol a wnaed, gan. bob gradd, yn erbyn y syniad chwithig a bradwrus o osod estron a phendefig yn Senedd Prydain i gynrychioli un o'r ethol- aethau mwyaf gwerinol a Chymreigaidd sydd gan y genedl. Mae'r arweinwyr wedi gweled eu ffolineb erbyn hyn, ac wedi ceisio gwneud pob math o esgusodion, mae'n wir, ond mae'r drwg wedi ei gyflawni, ac esponier a fyner. nis gellir ameu nad cynnyrch gwrth- genedlaethol oedd y syniad ac nid i'r aelod presennol a'i ganlynwyr mae'r diolch na fyddai Mr. Churchill wedi derbyn y cynygiad a roed mor wasaidd ger ei fron. Nid oes gennym ond yr edmygedd mwyaf o Mr. Churchill fel seneddwr galluog, a dyn ieuanc o athrylith uchel ymhlith ei genedl. Gwnai aelod penigamp dros ryw ranbarth Seisnig, a diau y daw yn addurn i'w genedl ar lawr Ty'r Cyffredin ond ar ol y canmol i gyd, rhaid addef mai aelod gwael iawn a wnelai tros Gymru. Nid oes ganddo yr un syniad am ein dyheadau cenedlaethol, na'r cydymdeimlad lleiaf a gofynion cyffredin y genedl, ac nis gellid disgwyl i wr o'i safle ef i gymeryd yr un dyddordeb yn y man bynciau a berthynant yn arbennig i ni fel pobl ag a ddisgwyliem i gynrychiolydd Cymreig ei wneud. Wedi dringo i'r safleoedd uchaf yn y Wladwriaeth, byddai pethau bychain Cymru islaw sylw ganddo, a byddai yr un mor ddiogel i ni fod heb gynrychiolydd, ar lawer adeg, a chael gwr o'i safle ef i siarad ar ran ein hawliau. Mae'n debyg mai edmygedd Mr. Osmond Williams o'r gwr ieuanc a'i cynhyrfodd i gynnyg y He iddo ond, yn sicr, y mae yna lu o Gymry enwog —dynion ieuainc galluog—a haeddant ein hedmygedd, hefyd, a'r syndod yw na fuasai Mr. Williams wedi rhoddi yr un cynnyg iddynt hwy, os ydyw am ymneillduo o ofalon Seneddol mor gynnar yn ei hanes. Ond, yn sicr, nis gall Mr. Williams fod mor anonest, ar ol hyn, ag aros yn aelod tros Sir Feirionydd. Y mae wedi dangos ei hun yn hollol anaddas i fod yn olynydd i'r gwr a greodd gyfnod newydd yn hanes gwleid- yddol y genedl-y diweddar Mr. Tom Ellis. Beth ddywedai Tom Ellis druan pe clywsai fod Rhyddfrydwyr ei hen sir yn barod i werthu yr olyniaeth i ryw ddieithryn o Sais am gydnabyddiaeth cymdeithasol i'r aelod presennol ? Mae eisieu gwelediad newydd ar wir ystyr cenedlaetholdeb ar arweinwyr Rhyddfrydol Meirion, a goreu po gyntaf yr ad-drefnir y gwahanol gymdeithasau drwy'r sir, fel ag i osod elfen newydd yn y rheng- oedd ceidwadol a fyn eu rheoli ar hyn o bryd. Ar un adeg bu peth o'r ysbryd cenedlaethol yn cynneu ar aelwydydd chwarelwyr Ffestiniog, ond a ydynt hwyoIl wedi syrthio yn ol i'r hen arfer wasaidd o blygu glin i bob pendefig, neu Sais, a ddaw ger eu bron ? Yr oeddem yn disgwyl rhyw- beth gwell o Feirion na hyn. Ai nid oes rhyw Ellis ieuanc a ddel allan eto i fod yn achubydd y sir rhag difrawder a thrahausder y dyddiau tywyll gynt ?