Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YSTADEGAU YR HEN GORPH.

News
Cite
Share

YSTADEGAU YR HEN GORPH. [Gan EYNON DDU]. Yr oedd yn llawen gennyf weled fod y cyfundeb Methodistaidd yn Llundain yn parhau i gynyddu, a deallaf oddiwrth eich adroddiad yn y rhifyn diweddaf, fod cryn fywiogrwydd i'w ganfod yn y gwahanol eglwysi ar hyn o bryd. Fel ymwelydd achlysurol bum innau yn gwrando ar areithiau y brodyr yng nghymanfa'r Pasc, a rhaid i mi gydnabod fod y Parch. J. Gwynoro Davies yn hynod o anffodus yn ei gyfeiriadau tuag at y gwahanol eglwysi, a'r ymdrechion a wnaed ynddynt tuag at y gwahanol genhadaethau a sonid gan y gwr parchedig. Yr oedd yr adroddiad ar ba un y gwnaed y sylwadau y boreu hwnnw wedi ei argraffu, ac ar ol tafhi ail gipdrem tros ei gynnwys y mae'n syndod i mi fod gwr mor graff a Mr. Davies wedi myned i'r drafferth o wneud man gyfrifon ar rhyw un gangea fechan o'r gwaith eglwysig tra'n anwybyddu rhai o brif anghysonderau yr ystadegau blynyddol hyn. Ers rhai misoedd, os nad yn wir, rai blynyddau, bellach, yr ydym wedi clywed llawer iawn o siarad ar eld iffy g cywirdeb yn ystadegau y gwahanol enwadau. Er pan y dechreuwyd holi tystion gerbron y Ddir- prwyaeth Eglwysig y mae'r mater o ffigyrau ynglyn a'r gwahanol sectau wedi bod yn destyn sylw gan ein holl arweinwyr cref- yddol, fel nad oes un esgus erbyn heddyw -V C, gan unrhyw blaid nac eglwys rhag gosod cyfrifon priodol o'r gwahanol ddeadelloedd a ddigwydd fod tan eu gofal. Pe byddai .galwad am ystadegaeth y Cyfundeb Llun- deinig o flaen y Comisiwn hwn credaf y gwnai'r Barnwr Vaughan Williams gryn hafoc o hono, ac y gallai brofi i bobi o'r tuallan fod y rhai sydd yn gyfrifol am yr adroddiad blynyddol hwn wedi cawl- eiddio y cyfan yn druenus o anghywir. Cymerer ystadegaeth yr aelodau fel eng- raifft. Mae cyfri'r bobl yn hen waith, a phriodol yn ddiau yw gwybod pa nifer o .grefyddwyr Cymreig sydd yn Llundain. Beth ddywed yr adroddiad hwn am danynt. Yng nghyntaf rhanna'r personau i bedwar dosbarth, sef (1) aelodau cyflawn, (2) aelod- au ar brawf, (3) plant, (4) gwrandawyr. Mae ffigyrau y tri dosbarth cyntaf yn cael eu D y cadarnhau gan yr enwau sydd, neu o leiaf a ddylasent fod, ar lyfrau y cyfun- deb, ond dywedant mai amcangyfrif yw'r "gwrandawyr." Ond pwy a feddylir wrth y gwrandawyr? Dywed Clapham Junction fod ganddynt 197 o aelodau, a 67 o blant, a golyga hynny gynulliad o 264. ond dywed yr adroddiad mai dim ond 250 o wrandawyr sydd yno. Pwy yw'r 14 sydd heb fod yn wrandawyr ? Ai ergyd sydd yma at gysgadrwydd y blaenoriaid ? neu ynte ai cymgymeriad yw'r cyfan ? Eto daw Falmouth Road gyda 591 o aelodau a phlant, tra nas gosodir y gwrandawyr ond 500. Ai ,500 yn ychwanegol at y 591 a feddylir, neu beth ? Mae'n sicr nas gellir cael 91 o fydd- ariaid yn Falmouth Road er mor lliosog ydyw'r gynulleidfa. Y ffaith eglur yw, nad yw'r Cyfundeb yn Llundain eto wedi penderfynu beth a phwy a olygir wrth gwrandawyr," a'r canlyniad yw fod pob eglwys yn gwneud y defnydd a fynont o'r gair, a hynny gyda'r canlyniad nad oes bosibl cael cywirdeb yn y ffigyrau a osodir i'r cyhoedd. Wele Jewin gyda'i llu o ddieithriaid achlysurol, gyda'i thynfa nod- weddiadol fel man canolog, a chyda'i thorf liosog o 890 o aelodau a phlant, nid oes yno ond DEG o wrandawyr yn cael eu hychwan- ?gu at y nifer. Y mae'r syniad yn gamar- weiniol, a goreu po gyntaf i'r Hen Gorff gymeryd at y pwnc er cael dealldwriaeth priodol pwy a olygir fel Gwrandawyr. Ar hyn o bryd nid yw'r ystadegau yn rhoddi gwybodaeth gywir o safle yr enwad yn Llun- dain, a thrueni yw cyhoeddi ffigyrau fel hyn cyn i ni ddeall pwy ddylid eu cyfrif a phwy i adael yn ddisylw. A

BYD Y GAN.