Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
For a Supply of PURE ,RDY lin.1, delivered to time, with FULL WARRANTY, FREET dtz:, POCOC, ALBERT EMBANKMENT, S.E. LTD. West Central and Northern Depot: REGENTS BUILDINGS. Telephone Nos.Head Depot: 1249 Hop. Northern: 1676 Holborn. WAKEFIELD ST., KING'S CROSS. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wale PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). mHE next Term begins on January 14th, 1908. A JL number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Mate and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. UNIVERSITY OF WALES. PRIFYSGOL CYMRU. Guild of Graduates. Litentry Section. Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Dan olygiaeth y diweddar Thomas E. Ellis, A.S. Vol. i. only ready, 3/6 net; by post 3/10. (Vol. ii. nearly all ready.) Llyfr y Tri Aderyn. Ad-argraffiad llythrennol o'r argraffiad cyntaf. 1/- net, by post 1/2. Oil Synwyr Pen Kembero a collection of proverbs, published by W. Salesbury about 1547. Edited, and with introduction, by J. Gwenogfryn Evans, LA., Hon. D.Litt. 2/6 net, by post 2/9. Yny Lhyvyr hwnn the Welsh Primer of 1546. Edited, and with introduction, by J. H. Davies, M.A. 2/6 net, by post 2/9. "Drych y Prifoesoedd" (Theophilus Evans, 1740). Edited, and with introduction, by S. J. Evans, M.A. 4/6 net, by post 4/11. School edition, with voluminous notes by the Editor, 1/6 net, by post 1/9. Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr, 1595 (Maurice Kyffin). Editor: W. Prichard Williams, Bangor. (Nearly ready.) Jarvis & Foster, Publishers, Bangor, and all Booksellers. ALDRIDGE9S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGES Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. Cyfeirier pob Gohebiaeth a fwriedir i'n colofnau, The Editor"; pob Hysbysiad, a phob Archeb, The Manager," a'r oll i'r Swyddfa, Celt Office," 211, Gray's Inn Road, London, W.C.
CYFNOD NEWYDD.
CYFNOD NEWYDD. Yr wythnos hon dechreuodd y blaid Ryddfrydig ar gyfnod newydd yn ei hanes. Pa un a'i cyfnod o adfywiad a gweithgarwch ynte gyfnod o ddirywiad ac anrhefn fydd, 'does ond amser yn unig a all benderfynu ond y mae'r rhagolygon yn hynod o obeith- iol. Er mai dechreu pruddaidd a gaed ddydd LInn yn y Senedd, pan fa arweinwyr y cadau gwleidyddol yn canu cnul ffarwel i goffa yr hen arweinydd a gludwyd i'r Alban i'w osod yn nhy ei hir gartref y dydd hwnnw, eto yr oedd yr ymwybyddiaeth fod nifer o wyr ieuainc ffyddiog wedi eu gosod wrth awenau y Llywodraeth yn galonogol i'r blaid ar ddechreu ei gwaith tan arweiniad Mr. Asquith. Mae'n eglur mai ar ysgwyddau ei hieuenctyd y gorwedd iachawdwriaeth y blaid yn awr, ac mai oddiwrth yr adran ieuanc yn y Weinyddiaeth y disgwylir am ei C3 llwyddiant yn y dyfodol. Addefir yn gyffredinol mai diffyg pennaf yr hen Wein-yddiaotli, tan reolaeth y di- weddar Syr H. Campbell-Bannerman, oedd ei gochelgarwch. Yr oedd yn or-awyddus am geisio boddloni pawb, a thrwy hynny llwyddai i wneud gelynion o bawb. Dedd- fai ar linellau cymodlawn yn hytrach nag ar yr egwyddor o iawnder a lies y mwyafrif a thueddai, drwy hynny, i wneud pawb i ameu gonestrwydd ei chredo a'i daliadau. Hwyrach gyda'r to ieuanc newydd sydd yn y Weinyddiaeth yn awr y ceir mwy o hyder yng ngallu y blaid a mwy o ysbrydiaetli i osod eu credo mewn gweithrediad ar bob achlysur dichonadwy. Yn ystod y ddwy flynedd sydd wedi myned heibio mae'r blaid Ryddfrydol wedi cael digon o brofion na fyn y wlad mo'r mesurau hanerog yma a gynygir yn awr ac eilwaith. Mae helynt addysg wedi ei andwyo tuhwnt i wellhad drwy yr awydd i foddloni pob adran, ac mae perygl i Fesur y Trwyddedau ddod i'r un diwedd os cym- henir ef i gyfarfod a chais y gwahanol glybiau a chymdeithasau a honnant fod yn barchus yn rhengoedd y gelyn ar hyn o bryd. Os gall y blaid ddangos tipyn o asgwrn-cefn yn awr, ac arweiniad Mr. Asquith brofi yn ddigon cadarn ar y gwa- hanol adrannau y mae gobaith y ceir tym- horau tra Ucwyrchus cyn y bydd raid gwynebu'r wlad i roddi hanes ei goruchwyl- iaeth i'r rhai a'i gosododd mewn awdurdod. Mae cyfleusterau lliosog a nodedig o fewn cyrraedd yr arweinwyr newydd yn awr a'r hoiiad cyffredinol yw, a gymerir mantais priodol o'r cyfleusterau hyn ?
Dyrnod i Winston.
Dyrnod i Winston. Troi yn siomiant i Mr. Winston Churchill wnaeth etholiad Manchester. Bu yn un o'r ymladdfeydd mwyaf chwerw yn hanes ethol- iadau, ac ni fu ball ar gyfoeth nac areithiau er ceisio hyfforddi yr etholwyr sut i weith- redu. Yn 1906 'roedd y mwyafrif Rhydd- frydol yn 1,241, ond yn awr wele'r Ceidwadwyr yn ennill y sedd yn ol gyda mwyafrif o 429. Cyn 1906 sedd Geidwadol oedd wedi bod o'r cychwyn, fel nad oedd yn syndod cael y fath ddyfarniad yn awr. Yr hyn sy'n siomedig yw fod etholwyr goleu- edig fel ag a geir ym Manchester yn barod i werthu gwr o dalent Mr. Churchill am wleidyddwr dinod, a dyn o gyrraeddiadau byr fel ei wrthwynebydd. Dengys hyn nad yw'r Sais yn parehu neb, a'i fod yn barod i aberthu y cyfaill goreu ar allor nwyd a rhagfarn. Ni chedwir Mr. Churchill allan o'r tSenedd yn hir, ac er cymaint y siom iddo ar hyn o bryd, diau mai efe fydd y cyntaf i gydnabod fod perffaith hawl gan ei wrth- wynebwyr i ymddwyn ato yn y modd y gwnaethant, oherwydd onid efe oedd yn dra awyddus rai blynyddau yn ol i herio Mr. Balfour ei hun mewn gornest etholiadol ar eu gwahanol ddaliadau gwleidyddol ? Rhaid i bob gwleidyddwr llwyddianus brofi chwerwder yr ymladdfeydd yn ogystal a melusion y swyddi ar ol dringo i anrhydedd yn y wladwriaeth.
Person yntc Cenedl ?
Person yntc Cenedl ? Ar un olwg yr oedd yn syndod gennym weled, ar ddechreu yr wythnos hon, fod amryw o'r aelodau Cymreig yn barod i ymddiswyddo er rhoddi cyfleustra i Mr. Winston Churchill gael sedd ddiogel i'r Senedd. Ond wedi deall pwy oedd yr ael- odau a wnaethant y cynygion bradwrus hyn, nid oedd yn beth i'w synnu ato wed i'r cwbl. Nid llesiant Cymru oedd mewn golwg ganddynt, mae'n ddigon eglur, oherwydd 'does neb yn ddigon ffol i freu- ddwydio y gwnai Mr. Churchill, er mor alli-iog ac atlirylithgar yw, aelod cymeradwy dros unrhyw ran o Gymru. Melldith Cymru yn y gorffenol yw'r Saeson sydd wedi bod yn ei cham-gynrychioli yn v Senedd, ac nid yw'r aelodau oedd yn barod i aberthu eu safleoedd yn awr, ond megys yn cydnabod eu ffaeleddau fel aelodau Cym- reig. Nid eisieu chwanegu at rif yr estron- iaid sydd arnom, eithr sicrhau rhagor o Gymry ieuainc i'n cynrychioli yn deyrn- garol yn y Senedd. Nid yw'r mudiad Cymru Fyddol wedi diflanu, ni a hyderwn, ac nid yw'r talentau disglair wedi eu di- hysbyddu yn yr banner dwsin a'n cynrych- iola ar hyn o bryd, eithr credwn y gwelir catrawd gref ac unol ar adeg yr etholiad nesaf yn barod i gario baner y Cymry i fuddugoliaeth fel gwnaeth Tom Ellis yn y dyddiau gynt.