Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
SOSIALAETH GRISTIONOGOL.
SOSIALAETH GRISTIONOGOL. Beth am ein heglwysi ? A yw ein heg- zn lwysi yn ddieuog o edrych i lawr ar y tlawd a'r gweithiwr ? Dywed Dr. Amory Bradford am. un gohebydd yn Boston benderfynodd fyned i 35 o eglwysi mewn dau gymeriad (a golygu penderfynu cymeriad wrth olwg y wisg, fel y mae arfer llawer). Aeth, y tro cyntaf, i'r holl eglwysi yn eu tro, mewn gwisg gweithiwr hynod o dlawd. Prin y cymerai neb sylw o hono yn yr un o'r eglwysi ac os y caffai le yn rhywle byddai hwnnw mewn rhyw gongl wrth y drws: felly ym mhob un yn ddieithriad. Yr ail dro aeth mewn gwisg gwr da ei amgylch- iadau, a gwychder ei wisg yn awgrymu ei fod yn un o gyfoethogion y dref. Prin y cai amser i edrych oddiamgylch na byddai rhywun wedi gafael ynddo a myned ag ef ymlaen, a'i orEodi i fyned i'r lie mwyaf amlwg a gwych yn yr holl addoldy. Dat- guddiodd y gohebydd y driniaeth ddeublyg yma yn un o'r newyddiaduron, a rhoddodd bregeth amserol i ffug Gristionogaeth eglwysi yr America. Ond yn yr America y digwyddodd hynyna ie, ac y mae yn digwydd beunydd hefyd yn ein heglwysi ninau. Mae diaconiaid a gweinidogion, mewn llawer eglwys, wedi ail- adrodd yn gywir, yn ein gwlad ni, yr hyn ddigwyddodd yn Boston a mentraf ddweyd fod eglwysi Boston, a phob eglwys a wna yr un peth, yn gwneud eu goreu i guddio un o egwyddorion tlysaf ymgnawdoliad Crist. Gweithiwr oedd yr lesu a'r lie diweddaf yn y byd y dylai gweithiwr deimlo camwri, neu gael ei anwybyddu am ei fod yn weithiwr, ydyw eglwys sydd yn proffesu dilyn y Saer o Nasareth. 0 bobman lie y dylai Sosial- aeth Gristionogol fod yn gwastadhau pob gwahaniaeth rhwng dynion a'u gilydd, eglwys yw y man lie y dylai wneyd felly, ac y mae mewn miloedd o engreifftiau. Mae mynegiant cyhoeddus cyntaf yr Iesu yn rhoddi cyweirnod cryf a digamsyniol i egwyddor Sosialaeth G-ristionogol. Yn Luc iv. 18 dywedir ei fod wedi cymeryd yn ei law yr Ysgrythyr, a dewis y. brawddegau awgrymiadol yma i'w darllen :—" Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf, o herwydd iddo fy eneinio I; i bregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i iachau y drylliedig o galon, i bregethu gollyingdod i'r caethion a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb i bregethu blwyddyn gymer- adwy yr Arglwydd." Nid oes ar Sosialaeth an gen dim mwy eglur a phendant na hynyna er mwyn credu fod Iesu Grist yn cychwyn ei yrfa gyhoeddus fel diwygiwr cymdeithasol: ac y mae y geiriau hyn ar ddechreu ei yrfa yn rhagarweiniad cywir i'w weithredoedd a'i ddysgeidiaeth. Cerddodd yr Iesu am dair blynedd drwy Ganaan fel Socialist, i wella y claf, i gysuro y gofidus, a .chynorthwyo y tlawd. Nid yw ei wyrthiau ond un gadwen o weithredodd caredig er mwyn ceisio gwella cymdeithas. Yr un modd yn Ei ddamhegion. Mae amryw o honynt wedi eu llefaru yn uniongyrchol fel ymosodiad di-arbed ar wyr oedd yn casglu cyfoeth ar draul tlodi pobl ereill: ac nid rhyfedd i un o honynt fod yn ysprydiaeth i'r enwog Ruskin ysgrifennu ei lyfr, Unto this Last-traethawd yn ymwneud a bywyd cymdeithasol. Cymerer, eto, Ei ddameg ar y Samaritan Trugarog. Y fath ymosodiad di-arbed sydd yn honno ar grefydd union-gred, ac eto gau, y Phariseaid Dengys yr lesu, yn y ddameg hon, yr hyn a ystyriai Ef yn banfod crefydd-byw i fynegu ac i weithredu cariad Duw tuagat ddynion. Nid myned.at y gwr trallodedig wnaeth y Samaritan, a dweyd wrtho am edrych i fyny, a gobeithio am y nefoedd, lie na bydd poen nac angen ond, yn hytrach, cynorthwyo a gwella y clwyfus. Dyna bortread Iesu Grist o'r gwir grefyddwr a'r gwir ddiwygiwr, nid y gwr sydd yn ceisio cynghori pobl i ym- foddloni o dan drallodiou ac anghyfiawder daear, dan obeithio am nefoedd wedi iddo farw. Y gwir grefyddwr yw y sawl drydd ei holl yni a'i dalent i symud gwendidau o fywyd dynoliaeth, ac i wastadhau bywyd cymdeithas trwy estyn yr un manteision a moddion byw i bawb fel eu gilydd. Dyna y Socialist Cristionogol, a dyna hefyd ddilynwr Iesu Grist. Mae dameg y Samaritan yn wir hyd heddyw. Gwerin gwlad sydd yn di- oddef eisieu oherwydd eu bod wedi colli' meddiant o'r tir y bwriadwyd iddynt fyw ar ei gyfoeth gan y Creawdwr: yn lie hynny y mae mwy na hanner tir y Deyrnas hon yn meddiant rhyw 2,500. Mae miloedd o aceri o dir yn cael eu cadw yn rhodfeydd pleser, ac yn fangre i un dosbarth fyw heb wneyd dim at eu cynaliaeth, tra y mae miloedd ereill bron trengu ar drothwy newyn. Mae dros 30,000 o blant bach yn myned i ysgol- ion Llundain bob boreu yn wag o fwyd ond un diwrnod, ychydig wythnosau yn ol, yr oedd yn un o hotels Llundain wledd oedd yn golygu cost o 80p. yr un ac uwchben y ddinas yna y mae yr enw o fod yn brif- ddinas Prydain Gristionogol! Mae y mar- wolaethau ymhlith plant y tlodion yn 55 y fit, tra nad yw ond 18 y fil ymhlith plant y cyfoethogion. Paham ? Am fod y tir wedi ei ddwyn oddiar y werin; ac amddifedir hwy rhag byw mewn awyr iach. Rhodd Duw i'r bobl yw daear, mor, ac awyr: ac y mae mor afresymol fod un dosbarth yn hawlio y tir a phe buasent yn honi meddiant o'r mor neu o'r awyr, ac yn codi toll am eu defnyddio. Dylasai pob eog, meddai Ber- nard Shaw, yn ol y ddeddf bresennol, pan yn gadael y mor am yr afon, fod wedi rhoddi label arno—" To Lord or Lady So-&-So, with the compliments of the Almighty.(Y Parch, jf. Lewis Williams, M.A., B.Sc., yn y Geninen am Ebrill.)
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y PASC.-Do, caed gwyliau y Pasc, ond caed tywydd y Nadolig ar yr un adeg. YR OERFEL.—Bu hyn yn achos i lu mawr aros gartref yn ystod y gwyliau, ac o gan- lyniad caed gwell odfeuon yn y gwahanol gyfarfodydd Cymreig. CYFARFODYDD.—Mae amryw o gyfarfodydd pwysig i'w cynnal yn ein mysg cyn adeg y Sulgwyn, a gwelir many lion am rai o honynt yn y rhifyn hwn. YR EISTEDDFOD.-Deallwn fod trefniadau gogyfer a chynnal cwrdd i gyhoeddi" Eisteddfod 1909 ar fin cael eu cwblhau. Bydd y cynulliad barddol hwn i'w gael yn gynnar yn Mehefin, felly cadwed ein hawen- yddion eu harfau yn loyw. MAN Ei FEDDROD.—Mae ei hen gyfeillion yn Llundain wedi trefnu i osod beddfaen i ddangos y lie y gorwedd gweddillion T. Evan Jacob ym mynwent Llanbadarn. Gofalodd Mr. J. T. Lewis, cyfreithiwr, am y gost, a threfnwyd y feddysgrif gan Dr. Morgan Davies. MIRI'R ETHOLIAD.—Aeth llawer o'r Cymry i Manceinion yn ystod yr wythnos er rhoddi cynorthwy i Mr. Churchill. Bu Mr. Lloyd- George yn siarad yno, ac aeth Mr. William Jones i ddweyd ei farn hefyd. Ddechreu'r wythnos gweithiai Mr. Timothy Davies gydag egni yn y He, ac un o gefnogwyr mwyaf aiddgar i Churchill yno, yw Mr. David Thomas o'r National Liberal Club. GALAR MAWR.—Nid anisgwyliadwy oedd y newydd ddydd Mercher am farwolaeth Syr Henry Campbell Bannerman, er hyn oil, teimlai pob plaid eu bod wedi cael colled dirfawr. Yr oedd yn un'"O'r dynion mwyaf gonest a gwyneb-agored yn y byd gwleid- yddol, a phrin y gellir colli pobl o'r fath o'r rhengoedd heddyw. YR HOELION WYTH.—Er i nifer liosog o bregethwyr ddod yma i Gymanfa'r Pasc, rhaid addef mai prin oedd y cewri yn cu plith. Hwyrach mai Cynddylan oedd yr unig "eighty tonner," ac mae ef yn ddiogel ar bob achlysur. 'Roedd i Dyfed hefyd ei edmygwyr, a chaed canmoliaeth uchel i ddau neu dri o'r gwyr ieuainc addawol oedd yn eu mysg. Gellir mentro ar Iwy o'r elfen ieuanc ynglyn a'r Gymanfa hon yn y dyfodol. EFENGYLEIDDIO'R SAIS.—Mae Mr. T. Huws- Davies yn dod yn siaradwr pwysig ym mysg; y cynulleidfaoedd Seisnig, a gwelwn ei fod i annerch cyfarfod arbennig yng nghapei Dawes Road, Fulham, ar y 7fed o'r mis nesaf. Nid yn ami y gwahoddir Cymro yno i siarad, ond mae dawn Mr. Davies wedi em denu. Ei bwnc fydd Religion in Politics." Y mae hefyd i siarad ar brydnawn Sul yn- Southall ar y 3ydd o Fai. AREITHEG.—Yr ydym yn llongyfarch Mr.. Eddie Evans ar ei lwyddiant yn ennill y brif wobr am adrodd yn Mountain Ash ddydd Llun diweddaf. WILTON SQUARE.—Mae rhagolygon am, gyngerdd campus yma nos Iau nesaf. Yn. ychwanegol at nifer o dalentau enwog ym myd y gan, y mae'r cyfeillion wedi sicrhaut gwasanaeth Mr. David Hughes—y basswr goreu sydd gennym fel cenedl yn awr. Boed i edmygwyr y gan fynd yno yn llu nos Iau nesaf. SHIRLAND ROAD.—Yn anffodus mae'r cJf- eillion yn Shirland Road wedi trefnu i gynnal Eisteddfod yr un noson, a chan fod, hon yn wyl arbennig, bydd pobl y West yn sicr o'i chefnogi. Trueni fod dau gyfarlod mor ddyddorol wedi eu trefnu ar yr un adeg. UNIAD HAPUS.—Uno'r amgylchoedd mwyaf" dyddorol yn y cylchoedd Cymreig yn ystod y mis hwn oedd yr uniad priodasol cydrwng Miss Marguerieta E. Pearce, merch Mr. a Mrs. T. Pearce, Woburn Square, a Dr. Mac- gregor, Mayfair. Yn Eglwys Hart Street y rhoed y cwlwm, ac oddiyno aeth y gwahodd- edigion i'r Waldorf Hotel, lie y cafwyd croesaw, ac y daeth ugeiniau lawer ynghyd i ddymuno pob llwydd i'r ddeuddyn hapus ar yr undeb. EISTEDDFODA.- Yn y Deheubarthfugwaitb Syr S. T. Evans ar adeg y gwyliau, a chafodd groesaw mawr ym Mhenybont pan aeth yno i lywyddu. Gwr cartrefol yw Sam" ar lwyfan yr Eisteddfod, a chred llawer yng ngwerth a gwasanaeth yr hen Wyl i'r genedl.
Advertising
TRADE ADVERTISEMENTS. Displayed. Per insertion :— Per Inch, in Column 2J8 Half Column. 15]- Column l/8/O „ Page 4/0/0 Reduction for a series of 13 or more insertions* Special Position by Arrangement.